Pornograffi hoyw
Gwedd
Pornograffi sy'n dangos cyfathrach rywiol rhwng unigolion o'r un ryw yw pornograffi hoyw. Gall y term weithiau gynnwys pornograffi lesbiaidd, ond gan amlaf mae'r term wedi ei neilltuo at bornograffi o ddynion yn unig.
Roedd pornograffi hoyw yn rhan o Oes Aur Pornograffi y 1970au yn yr Unol Daleithiau, yn sgil y Rhyddhad Hoyw a rhyddfrydoli agweddau cymdeithasol a chyfreithiol tuag at gyfunrywioldeb. Y ffilm bornograffig hoyw enwocaf o'r cyfnod yw Boys in the Sand (1971).[1]
Cafodd y diwydiant pornograffi hoyw ei daro'n drwm gan yr epidemig AIDS, a bu farw nifer o berfformwyr enwog megis Al Parker a Casey Donovan o ganlyniad i'r clefyd hwnnw. Heddiw mae pornograffi hoyw yn ddiwydiant byd-eang ac i'w ganfod yn hawdd ar y rhyngrwyd.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Powell, Mimi. "The Porn Power List". FAB magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-02-22. Cyrchwyd 2008-03-06. Unknown parameter
|coauthors=
ignored (help)
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Jeffrey Escoffier, Bigger than Life: The History of Gay Porn Cinema from Beefcake to Hardcore (Philadelphia: Running Press, 2009).
|