Pigiad meingefnol

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Niwrolegydd yn perfformio pigiad meingefnol ar glaf. Trwyth ïodin (toddiant gwrthseptig) yw'r chwyrliadau coch-frown ar gefn y claf.

Prawf meddygol diagnostig i brofi sampl o hylif serebro-sbinol (CSF), yr hylif sy'n amgylchynu'r ymennydd a llinyn yr asgwrn cefn, yw pigiad meingefnol neu tap sbinol. Fe'i wneir drwy roi nodwydd gau i mewn i ran isaf sianel y cefn i dynnu'r hylif. Caiff ei ddefnyddio'n aml i wneud diagnosis o gyflyrau ar yr ymennydd a llinyn yr asgwrn cefn megis meningitis, enseffalitis, a thiwmorau. Weithiau gall canlyniadau'r prawf ddangos cyflyrau sy'n effeithio ar y system imiwnedd megis sglerosis ymledol.[1][2] Weithiau defnyddir pigiad meingefnol fel triniaeth feddygol, er enghraifft fel modd o fewnosod gwrthfiotigau neu gyffuriau ymladd canser i mewn i gorff y claf, neu i leihau pwysedd sy'n gysylltiedig ag ambell cyflwr meddygol prin.[2]

I berfformio'r prawf gofynnir i'r claf i orwedd ar un ochr gyda'i goesau wedi'u tynnu i fyny a'i ên yn plygu tuag i lawr, fel bod yr asgwrn cefn yn grwm a'r fertebrâu wedi'u gwahanu gan alluogi'r nodwydd i fynd i mewn yn haws. Mae'n bosib i hefyd wneud y prawf â'r claf ar ei eistedd ond yn plygu drosodd. Paentir y croen ar waelod yr asgwrn cefn â thoddiant gwrthseptig a rhoddir pigiad o anesthetig lleol i rewi'r rhan honno o'r corff. Mae'r meddyg sy'n perfformio'r prawf yn gwthio nodwydd gau i mewn rhwng dau o'r fertebrâu ac i mewn i'r gofod o amgylch llinyn yr asgwrn cefn, ac mae'n cymryd ychydig eiliadau i ddigon o hylif serebro-sbinol ddiferu'n ôl i mewn i botyn di-haint o dan y nodwydd. Os oes angen i'r meddyg fesur pwysedd y CSF fe roddir tiwb yn sownd wrth y nodwydd i fesur pwysedd yr hylif sy'n dod allan. Bydd y nodwydd yn ei lle am 1-2 funud i gasglu sampl ddigonol, ac ar ôl ei thynnu rhoddir plastr dros y twll lle aeth y nodwydd i mewn i'r corff. Anfonnir y sampl CSF i labordy ar gyfer profion i wneud diagnosis o gyflwr y claf.[3]

Mae'r anesthetig lleol a roddir yn arbed y claf rhag teimlo poen, ond mae'n bosib teimlo pwysedd wrth i'r nodwydd gael ei gwthio i mewn i'r croen. Gall rhai pobl cael poen fel pigyn yn eu cefn neu'u coes.[3] Mae'n bosib datblygu cur pen ar ôl pigiad meingefnol, ond bydd hwn yn diflannu ar ôl ychydig oriau fel arfer. Gall orwedd am dipyn helpu i atal y sgîl-effaith hon. Prin iawn yw problemau mwy difrifol megis gwaedu o amgylch safle'r nodwydd a niwed i linyn yr asgwrn cefn neu i'r ymennydd.[4]

Diagnosteg[golygu]

Defnyddir pigiad meingefnol wrth wneud diagnosis o enseffalitis gan archwilio'r hylif serebro-sbinol am dystiolaeth o haint. Os oes haint bacteriol bydd cynnydd yn nifer celloedd gwyn y gwaed yn yr hylif, ac yna gellir diystyru cyflyrau eraill megis tiwmor ar yr ymennydd, sglerosis ymledol neu strôc.[5]

Cyfeiriadau[golygu]

  1.  Pigiad meingefnol: Cyflwyniad. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
  2. 2.0 2.1  Pigiad meingefnol: Pam mae ei angen?. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
  3. 3.0 3.1  Pigiad meingefnol: Sut mae'n cael ei wneud?. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
  4.  Pigiad meingefnol: Sgîl-effeithiau. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.
  5.  Enseffalitis: Diagnosis. Gwyddoniadur Iechyd. Galw Iechyd Cymru. Adalwyd ar 7 Medi, 2009.