Pibydd Coesgoch Mannog
Pibydd Coesgoch Mannog | |
---|---|
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Charadriiformes |
Teulu: | Scolopacidae |
Genws: | Tringa |
Rhywogaeth: | T. erythropus |
Enw deuenwol | |
Tringa erythropus (Pallas, 1764) |
Aelod o deulu'r Scolopacidae (rhydyddion) yw'r Pibydd Coesgoch Mannog (Tringa erythropus).
Mae'r Pibydd Coesgoch Mannog yn nythu ar draws gogledd gwledydd Llychlyn a gogledd Asia. Yn y gaeaf mae'n symud tua'r de a'r gorllewin ac yn gaeafu o gwmpas Affrica, de Asia ac o amgylch y Môr Canoldir, er fod nifer llai yn gaeafu ymhellach i'r gogledd.
Mae'r aderyn yn 29 – 33 cm o hyd, gyda phlu du yn y tymor nythu, a llwyd yn y gaeaf. Mae'r coesau a'r pig yn goch. Gellir gwahaniaethu'r Pibydd Coesgoch Mannog oddi wrth y Pibydd Coesgoch, sy'n aderyn tebyg iawn, oherwydd fod gan y Pibydd Coesgoch Mannog goesau hirach a phig hirach a meinach. Mae'n nythu ar lawr, ac yn tua pedwar wy.
Yng Nghymru, ceir niferoedd amrywiol ond cymharol fychan pan maent yn mudo tua'r gogledd yn y gwanwyn a thua'r de yn yr hydref, ac mae niferoedd llai yn treulio'r gaeaf yma. Fe'i ceir o gwmpas aberoedd yn bennaf.