Pengam (aderyn)
| Pengam Jynx torquilla | |
|---|---|
| Statws cadwraeth | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Piciformes |
| Teulu: | Picidae |
| Genws: | Jynx[*] |
| Rhywogaeth: | Jynx torquilla |
| Enw deuenwol | |
| Jynx torquilla | |
| Rhywogaethau | |
|
J. torquilla | |
| Dosbarthiad y rhywogaeth | |
- Erthygl ar yr aderyn yw hon; ceir erthygl arall ar y pentref o'r un enw ym mwrdeisdref sirol Caerffili.
Rhywogaeth o adar yw'r Pengam (lluosog: Pengeimion) sydd hefyd yn perthyn i'r genws o'r un enw. Yr enw Lladin ar y rhywogaeth yw Jynx torquilla, ac Jynx yw enw'r genws, sy'n tarddu o'r Hen Roeg iunx, sef y Pengam Ewrasaidd.[1] Ceir rhywogaeth arall o fewn y genws, sef y Pengam gyddfgoch (Jynx ruficollis). Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn J. torquilla, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'n perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae) sydd yn urdd y Piciformes.[3]
Fel y gwir gnocell, mae gan y Pengam ben mawr a thafod hir a ddefnyddir i dynnu'r pryf o'r pren, yn fwyd. Mae ganddo hefyd ddau fawd troed, sy'n wynebu ymlaen a dau tuag yn ôl. Ond yn wahanol i'r wir gnocell, nid oes ganddo blu caled yn gynffon, plu caled a ddefnyddir gan y gnocell i ddringo coed; oherwydd hyn, fe'i gwelir yn aml yn eistedd ar y gangen yn hytrach nag yn glynnu i fonyn, neu ochr y goeden. Mae ei big hefyd yn fyrach, ac yn llai tebyg i gyllell fain, hir.
Morgrug yw ei brif fwyd, a phryfaid eraill a ganfyddant mewn hen bren pwdwr, neu weithiau ar wyneb y ddaear. Yn aml, maen'r Pengeimion yn canfod hen nythod cnocellau coed i nythu ynddo, yn hytrach na thurio eu hunain i'r pren. Gwyn yw lliw eu wyau.
Teulu
[golygu | golygu cod]Mae'r Pengam yn perthyn i deulu'r Cnocellod (Lladin: Picidae). Dyma aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
| rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
|---|---|---|
| Cnocell Gila | Melanerpes uropygialis | |
| Cnocell Lewis | Melanerpes lewis | |
| Cnocell Mace | Dendrocopos macei | |
| Cnocell bengoch | Melanerpes erythrocephalus | |
| Cnocell ddu | Dryocopus martius | |
| Cnocell dorgoch | Melanerpes carolinus | |
| Cnocell flaenfelen | Melanerpes flavifrons | |
| Cnocell fraith fwyaf | Dendrocopos major | |
| Cnocell gorun coch | Melanerpes rubricapillus | |
| Cnocell gorunllwyd | Yungipicus canicapillus | |
| Cnocell gudynfelen | Melanerpes cruentatus | |
| Cnocell wen | Melanerpes candidus | |
| Cnocell y mês | Melanerpes formicivorus |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Jobling, James A (2010). The Helm Dictionary of Scientific Bird Names. London: Christopher Helm. t. 212. ISBN 978-1-4081-2501-4.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.












