Penelope Wilton

Oddi ar Wicipedia
Penelope Wilton
GanwydPenelope Alice Wilton Edit this on Wikidata
3 Mehefin 1946 Edit this on Wikidata
Scarborough Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Canolfan Ddrama Llundain Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor teledu, actor ffilm, actor llwyfan Edit this on Wikidata
PriodDaniel Massey, Ian Holm Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, Laurence Olivier Award for Best Actress, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig Edit this on Wikidata

Mae Penelope Alice Wilton,[1] OBE (ganed 3 Mehefin 1946) yn actores Seisnig. Fe'i hadnabyddir am serennu gyda Richard Briers yng nghomedi sefyllfa y BBC Ever Decreasing Circles (1984–89); chwarae Homily yn The Borrowers (1992) a The Return of the Borrowers (1993); ac am ei rôl fel Isobel Crawley yn y gyfres ddrama ITV Downton Abbey (2010–15). Chwaraeoedd hefyd y rôl Harriet Jones yn Doctor Who (2005–08).

Mae Wilton wedi cael gyrfa eang ar y llwyfan, yn derbyn chwe enwebiad Gwobr Olivier. Fe'i henwebwyd ar gyfer Man and Superman (1981), The Secret Rapture (1988), The Deep Blue Sea (1994), John Gabriel Borkman (2008) a The Chalk Garden (2009), cyn ennill y Wobr Olivier yn 2015 ar gyfer yr Actore Orau ar gyfer Taken at Midnight. Mae ei ymddangosiadau ffilm yn cynnwys Clockwise (1986), Calendar Girls (2003), Shaun of the Dead (2004), Match Point (2005), Pride & Prejudice (2005), The Girl (2012), The Best Exotic Marigold Hotel (2012), The Second Best Exotic Marigold Hotel (2015) a The BFG (2016).

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Wilton yn Scarborough, North Riding of Yorkshire, yn ferch i Alice Travers, dawnswraig tap a chyn actores, a Clifford William Wilton, dyn busnes.[2][3][4][5] Mae'n nith i'r actorion Bill Travers a Linden Travers[6] ac yn gyfnither i'r actor Richard Morant.[7] Roedd ei mam-gu a thad-cu ar ochr ei mam yn berchen theatrau.[4] Mynychodd Wilton a'i chwiorydd Rosemary a Linda, yr ysgol lleiandy yn Newcastle upon Tyne, lle roedd eu mam yn arfer addysgu. Mynychodd y Drama Centre yn Llundain.[8]

Wilton gyda'i chyd-seren Downton Abbey Jim Carter

Gwobrau a chydnabyddiaeth[golygu | golygu cod]

Yn 2001, fe'i henwebwyd ar gyfer Gwobr Theatr yr Evening Standard Llundain ar gyfer ei pherfformiad yn The Little Foxes yn y Donmar Warehouse. Yn 2004, daeth yn Swyddog yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) ar gyfer ei gwasanaethau i ddrama. Yn 2012, derbyniodd ddoethuriaeth er anrhydedd gan Gampws Scarborough Prifysgol Hull. 

Blwyddyn Gwobrau Olivier Gwaith a enwebwyd Canlyniad
1981 Gwobr Olivier ar gyfer Actores y Flwyddyn mewn Adfywiad Man and Superman Enwebwyd
1988 Gwobr Olivier ar gyfer Actores y Flwyddyn mewn Drama Newydd The Secret Rapture Enwebwyd
1994 Gwobr Olivier ar gyfer yr Actores Orau The Deep Blue Sea Enwebwyd
2008 Gwobr Olivier ar gyfer yr Actores Orau John Gabriel Borkman Enwebwyd
2009 Gwobr Olivier ar gyfer yr Actores Orau The Chalk Garden Enwebwyd
2015 Gwobr Olivier ar gyfer yr Actores Orau Taken at Midnight Enillodd
Gwobrau eraill
1981 Gwobr Gylch Beirniaid Theatr ar gyfer yr Actores Orau Much Ado About Nothing Enillodd
1993 Gwobr Gylch Beirniaid Theatr ar gyfer yr Actores Orau The Deep Blue Sea Enillodd
2012 Gwobr Gymdeithas yr Actorion Sgrîn ar gyfer yr Ensemble Gorau mewn Cyfres Ddrama Downton Abbey Enillodd
2014 Enillodd
2015 Enillodd

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod]

Teledu a ffilmiau[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Ffilmiau Rôl Nodiadau
1972 Thirty-Minute Theatre Cyfres deledu (1 bennod: "An Affair of Honour")
1972 Country Matters Rachel Sullens Cyfres deledu (1 bennod: "The Sullens Sisters")
1972 Play of the Month:

Mrs. Warren's Profession (BBC)

Vivie Warren Drama deledu (G.B. Shaw)
1973 The Pearcross Girls Anna Pearcross/Helen Charlesworth/Julia Pearcross/Lottie Merchant Cyfres deledu (4 pennod)
1973 The Song of Songs Lilli Czepanek Drama deledu
1975 Play of the Month:

King Lear

Regan Shakespeare, (c. Jonathan Miller)
1976 The Widowing of Mrs Holroyd Drama deledu
1977 Joseph Andrews Mrs. Wilson
1977 The Norman Conquests: Living Together Annie Drama deledu
1977 The Norman Conquests: Round and Round the Garden Annie Drama deledu
1977 The Norman Conquests: Table Manners Annie Drama deledu
1980 Play for Today Helen/Virginia Carlion Cyfres deledu (2 bennod: 1980–1981)
1981 The French Lieutenant's Woman Sonia
1981 Othello Desdemona Shakespeare (c. Jonathan Miller)
1982 The Tale of Beatrix Potter Beatrix Potter Drama deledu
1982 King Lear Regan Shakespeare (c. Jonathan Miller)
1984 Laughterhouse Alice Singleton
1984 Ever Decreasing Circles Ann Bryce Cyfres deledu (27 o benodau: 1984–1989)
1986 Clockwise Pat
1986 C.A.T.S. Eyes Angela Lane Cyfres deledu (1 bennod: "Good as New")
1986 The Monocled Mutineer Lady Angela Forbes Cyfres deledu (2 bennod)
1987 Cry Freedom Wendy Woods
1990 4 Play Julia Cyfres deledu (1 bennod: "Madly in Love")
1992 Blame It on the Bellboy Patricia Fulford
1992 Screaming Beatrice Cyfres deledu
1992 The Borrowers Homily Cyfres deledu
1993 The Secret Rapture Marion French
1993 The Return of the Borrowers Homily Cyfres deledu
1994 Performance: The Deep Blue Sea Hester Collyer Cyfres deledu (2 bennod: 1994–1995)
1995 Carrington Lady Ottoline Morrell
1998 This Could Be the Last Time Marjorie Ffilm deledu
1998 Talking Heads 2 Rosemary Mini-gyfres deledu (1 bennod: "Nights in the Gardens of Spain")
1998 Alice Through the Looking Glass White Queen Ffilm deledu
1999 Gooseberries Don't Dance Rhaglen fer
1999 Kavanagh QC Barbara Watkins Cyfres deledu (1 bennod: "Time of Need")
1999 Tom's Midnight Garden Aunt Melbourne
1999 Wives and Daughters Mrs. Hamley Mini-gyfres deledu (2 bennod)
2000 Rockaby Rhaglen fer
2001 The Whistle-Blower Heather Graham Ffilm deledu
2001 Victoria & Albert Princess Victoria, Duchess of Kent Ffilm deledu
2001 Bob & Rose Monica Gossage Cyfres deledu (3 pennod)
2001 Iris Janet Stone
2003 Lucky Jim Celia Welch Ffilm deledu
2003 Calendar Girls Ruth
2004 Shaun of the Dead Barbara
2005 Falling Daisy Langrish Ffilm deledu
2005 Match Point Eleanor Hewett
2005 Pride & Prejudice Mrs. Gardiner
2005-2008 Doctor Who Harriet Jones Cyfres deledu (4 pennod: 2005–2008)
2006 Celebration Julie Ffilm deledu
2006 The History Boys Mrs. Bibby
2007 Five Days Barbara Poole Cyfres deledu (4 pennod)

Enwebwyd – Gwobr RTS – Actor Gorau

2007 Half-Broken Things Jean Ffilm deledu
2008 The Passion Mary Mini-gyfres deledu
2009 Marple: They Do It with Mirrors Carrie Louise Serrocold Ffilm deledu
2009 Margot B.Q. Ffilm deledu
2010 My Family Rosemary Matthews Cyfres deledu (1 bennod: "Wheelie Ben")
2010–2015 Downton Abbey Isobel Crawley latterly Baroness (Lady) Merton Cyfres deledu
2011 South Riding Mrs. Beddows Cyfres deledu (3 pennod)
2012 The Best Exotic Marigold Hotel Jean Enwebwyd -Gwobr Cymdeithas yr Actorion Sgrîn ar gyfer Perfformiad Rhagorol gan Gast mewn Ffilm

Enwebwyd - Gwobr Gymdeithas Feirniaid Darlledu Ffilmiau ar gyfer y Cast Gorau

2012 The Girl Peggy Robertson Ffilm deledu
2013 Belle Lady Mary Murray
2015 The Second Best Exotic Marigold Hotel Jean
2016 The BFG The Queen Ôl-gynhyrchu
2016 Brief Encounters Pauline Ffilmio

Llwyfan[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Penelope Wilton ei gyrfa broffesiynol yn y Nottingham Playhouse, ac ymddangosodd gyda Nicholas Clay yn The Dandy Lion. Chwaraeoedd Regan King Lear Michael Hordern yn y Nottingham Playhouse yn 1970; gyda Anna Calder-Marshall yn chwarae Cordelia, a Thelma Ruby yn chwarae'r chwaer hŷn, Goneril.

Blwyddyn Teitl Rôl Theatr
1971 West of Suez Mary Theatr y Llys Brenhinol, Llundain
1971 The Philanthropist Araminta Theatr y Llys Brenhinol, wedyn Theatr Ethel Barrymore, Dinas Efrog Newydd
1972 The Great Exhibition Maud Clwb Theatr Hampstead, Llundain
1973 The Director of the Opera Sophia Theatr y Llys Brenhinol, Llundain
1973 The Seagull Masha Gŵyl Chichester
1974 Something's Burning Dikson Theatr y Mermaid, Llundain
1974 The Norman Conquests Ruth Theatr Greenwich, Llundain
1974 Bloomsbury Dora Carrington Theatr y Phoenix, Llundain
1975 Measure For Measure Isabella Theatr Greenwich, Llundain
1976 "Play," Play and Others Second woman Theatr y Llys Brenhinol, Llundain
1978 Plunder Prudence Malone Cwmni Theatr Genedlaethol, Theatr Lyttelton, Llundain
1978 The Philanderer Julia Craven Cwmni Theatr Genedlaethol, Theatr Lyttelton, Llundain
1978 Betrayal Emma Cwmni Theatr Genedlaethol, Theatr Lyttelton, Llundain
1979 Tishoo Barbara Theatr Wyndham, Llundain
1981 Man and Superman Ann Whitefield and Dona Ana Cwmni Theatr Genedlaethol, Theatr Olivier, Llundain
1981 Much Ado about Nothing Beatrice Cwmni Theatr Genedlaethol, Theatr Olivier, Llundain
1982 Major Barbara Barbara Undershaft Cwmni Theatr Genedlaethol, Theatr Lyttelton, Llundain
1988 The Secret Rapture Marion French Cwmni Theatr Genedlaethol, Theatr Lyttelton, Llundain
1988 Andromache Hermione Theatr y Old Vic, Llundain
1990 Piano Theatr y Cottesloe, Llundain
1993 The Deep Blue Sea Hester Collyer Theatr yr Almeida, Llundain
1999 A Kind of Alaska, The Collection, and The Lover Deborah Donmar Warehouse, Llundain
2000 The Seagull Arkadina Theatr y Barbican, Llundain
2001 Lillian Hellman's Little Foxes Regina Donmar Warehouse, Llundain
2002 Afterplay Sonya Theatr Gielgud, Llundain

Theatr y Gate, Dulyn

2005 The House of Bernarda Alba Bernada Cwmni Theatr Genedlaethol, Theatr Lyttelton, Llundain
2006 Eh Joe Llais benywaidd Theatr y Gate, Dulyn

Duke of York's, Westminster, Llundain

2006 Women Beware Women Livia Theatr y Swan, Stratford
2007 John Gabriel Borkman Ella Rentheim Donmar Warehouse, Llundain
2008 The Chalk Garden Miss Madrigal Donmar Warehouse, Llundain
2008 The Family Reunion Agatha Donmar Warehouse, Llundain
2009 Hamlet Gertrude Theatr Wyndham, Llundain
2011 A Delicate Balance Agnes Theatr yr Almeida, Llundain
2014–15 Taken At Midnight Irmgard Litten Theatr y Minerva, Chichester/ Theatr Frenhinol Haymarket, Llundain

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Rhwng 1975 a 1984, roedd Wilton yn briod i'r actor Daniel Massey. Cawsant ferch, Alice, fe'i ganwyd yn 1977.[9] Yn 1991 priododd Wilton Syr Ian Holm (yn 1998, ar ôl iddo gael ei urddo'n farchog, daeth yn Lady Holm) ac ymddangosant gyda'i gilydd fel Pod ac Homily yn addasiad 1993 y BBC o The Borrowers. Ysgarant yn 2001.[10]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Penelope Wilton". BFI. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-28. Cyrchwyd 16 February 2015.
  2. "Penelope Wilton, the winner of discontent". The Times. 30 April 2011. Cyrchwyd 2012-03-06.
  3. Andrew Billen (26 April 2000). "Time for Penelope to soar". Evening Standard. London. Cyrchwyd 2012-03-06.[dolen marw]
  4. 4.0 4.1 "Former students - Central Saint Martins". Csm.arts.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-16. Cyrchwyd 2012-03-06.
  5. http://www.oxforddnb.com/templates/article.jsp?articleid=69552&back=
  6. ""What'sOn: Wicked role for Penelope means it's Women Beware Wilton; Theatre". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-31. Cyrchwyd 2016-03-27.
  7. "Biography for Richard Morant" at IMDb
  8. Drama Centre: watch this face Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback..
  9. Kellaway, Kate (30 September 2001). "A study in emotion". The Observer. Cyrchwyd 25 August 2015.
  10. Olga Craig (15 November 2008). "Penelope Wilton: an actress who epitomises all things quintessentially English". Daily Telegraph. Cyrchwyd 21 November 2012.