Neidio i'r cynnwys

The Best Exotic Marigold Hotel

Oddi ar Wicipedia
The Best Exotic Marigold Hotel
Un o'r actorion: Judi Dench yn BAFTAs 2007.
Cyfarwyddwyd ganJohn Madden
Cynhyrchwyd ganGraham Broadbent
Peter Czernin
Awdur (on)Ol Parker
Seiliwyd arThese Foolish Things gan
Deborah Moggach
Yn serennuJudi Dench
Bill Nighy
Dev Patel
Celia Imrie
Maggie Smith
Tom Wilkinson
Penelope Wilton
Cerddoriaeth ganThomas Newman
SinematograffiBen Davis
Golygwyd ganChris Gill
StiwdioParticipant Media
Imagenation Abu Dhabi
Fox Searchlight Pictures
Dosbarthwyd ganFox Searchlight Pictures
Rhyddhawyd gan
  • Chwefror 24, 2012 (2012-02-24)
Hyd y ffilm (amser)124 minutes
GwladY Deyrnas Gyfunol
IaithSaesneg

Ffilm gomedi-ddrama a gyfarwyddwyd gan John Madden ac a ysgrifennwyd gan Ol Parker ydy The Best Exotic Marigold Hotel. Mae’r ffilm yn serennu Judi Dench, Celia Imrie, Bill Nighy, Dev Patel, Maggie Smith, Tom Wilkinson a Penelope Wilton. Dilyna’r plot fywydau grŵp o Brydeinwyr sydd wedi dewis mynd i ymddeol mewn gwesty i’r henoed yn yr India. Dyddiad y perfformiad cyntaf oedd y 24ain o Chwefror yn y Deyrnas Gyfunol ac yn yr Unol Daleithiau fe rhyddheir y ffilm ar y 4ydd o Fai.[1]

Dilyna’r ffilm fywydau grŵp o bobl sydd wedi penderfynu treulio’u hymddeoliad yn yr India. Wedi’u hatynnu gan fywyd rhatach mewn gwlad egsotig, cânt eu siomi i ddarganfod wrth gyrraedd nad oedd yr hysbysebion ynglŷn â’r Marigold Hotel yn gwbl geirwir. Er i’w hamgylchedd newydd fod yn llai moethus nag a ddisgwyliwyd, caiff yr ymddeolwyr eu trawsffurfio gan eu profiadau.[2]

  • Gweddw ydy Evelyn sydd yn gorfod gwerthu ei thŷ i dalu dyledion ei diweddar gŵr. Er gwaethaf dadleuon ei mab, penderfyna symud ei chartref i’r India, i gartref Sonny ar gyfer yr "oedrannus a phrydferth". Cadwa flog er mwyn i’w theulu allu ddarllen eu hanesion a dilyn ei bywyd newydd o bell.
  • Mae Douglas a Jean wedi priodi ers talwm – 39 o flynyddoedd i fod yn gywir – ond am i Douglas fuddsoddi ei holl gynilion ym musnes ffaeledig eu merch ni all y cwpl priod hwn fforddio tŷ heblaw am fyngalo i’r henoed mewn trefedigaeth...i’r henoed! Daw’r byngalo gyda botwm panig a rheiliau o amgylch y waliau "ar gyfer y dyfodol" ond ni all y cwpl wynebu’r fath le ac o’r herwydd ânt i westy Sonny.
  • Dyfarnwr yr uwch lys ydy Graham. Am flynyddoedd maith mae wedi bod yn addo ymddeol ond dim ond yn ystod araith ymddeol cydweithiwr y penderfyna bod y dydd wedi dod. Fe’i fagwyd yn yr India ac fe arhosodd yno tan yn 18 oed. Iddo fe, mae dychwelyd i’r India yn ffordd i gymodi â rhan o’i fywyd y mae wedi bod yn ei anwybyddi ers blynyddoedd lawer.
  • Hen ŵr gydag enaid ifanc ydy Norman sydd ar daith yn chwilio am ddyness newydd. Ni all dderbyn ei fod bellach yn annymunol i ferched ifainc ac aiff i’r India gan chwilio am ddechreuad newydd a phosibiliadau newydd.
  • Mae Madge wedi cael nifer o briodasau aflwyddiannus ac fel Norman, mae hi am gael hwyl, antur a gŵr newydd. Wedi cael llond bol gyda’i merch hi’n ceisio ei cadw hi adref, mae hi’n dianc i’r India.
  • Cyn wraig-cadw-tŷ ydy Muriel sydd yn dalentog gyda ffigurau. Wedi i’w chyflogwyr ei hanfon ymaith, fe sylweddola ei bod hi yn awr yn unig ac ar ei phen ei hun am iddi gysegru ei holl bywyd i ofalu am deulu arall. Mae Muriel yn byw mewn fflat a bellach yn chwerw a hiliol. Ar ôl mynd at y meddyg a dysgu bod rhaid aros 6 mis am amnewidiad clun, dewisa fynd i’r India ble all hi gael amnewidiad bron yn syth. Caiff ei hanfon i aros a gwella yng ngwesty Sonny.

Ar ôl cyrraedd Mwmbai, caiff hedfaniad yr ymddeolwyr ei ganlso. Trefna Graham i’r chwech ohonynt fynd ar daith fws a twc-twc i’r gwesty, ond ar gyrraedd, gwelant nad yw’r gwesty fel a ddisgwyliwyd. Dydy’r ffonau ddim yn gweithio, mae’r adeilad yn adfeiliedig a’r bwyd yn...wahanol!

Yn gynnar iawn dysgwn nad oes gan Jean ddiddordeb mewn archwilio’i diwylliant newydd a dydy hi ddim yn or-hoff o’i chyd westai ar wahân i Graham; mae hi’n hoff ohono yn sydyn iawn oherwydd ei safle fel dyfarnwr yr uwch lys. Yn wahanol iawn, mae ei gŵr Douglas yn ffynnu yn yr India ac yn amlwg yn mwynhau crwydro’r ddinas ac yn ymweld â’r mannau a argymhella Graham. Dysgwn fod Graham yn diflannu bob dydd yn y ddinas, ond does neb yn gwybod i ble’r aiff.

Caiff Murial y llawdriniaeth, fel a addawyd, ac fe ddywed y meddyg y gall hi ddychwelyd i Loegr unwaith iddi fedru cerdded. Er ei hiliaeth amlwg mae hi’n ddiolchgar iawn i’r meddyg a chyfeddyf (os yn gyndyn) i’r feddyg lwyddo ar ei llawdriniaeth. Yn araf daw Madge yn fwyfwy clên a cheisia dangos caredigrwydd a gofal tua’r ferch sy’n glanhau’r gwesty ond dysga gan Graham nad ydy’r ferch yn siarad Saesneg ac ei bod hi’n anghyffyrddadwy.

Caiff Evelyn swydd fel cynghorydd diwylliannol ar gyfer canolfan ffonio. Ceisia hi eu helpu nhw i adeiladau cydberthynas gyda’u galwyr a dysga hi nhw sut i ymddangos yn llai robotig a digywilydd. Cyfaddefa i Douglas mai hon yw ei swydd gyntaf erioed a heb yr arian ni allai hi fforddio aros yng ngwesty Sonny, er ei brisiau cystadleuol.

Mae Sonny mewn trafferthion ariannol ac yn ymdrechu i gadarnhau cymorth ariannol gan ŵr busnes lleol. Tipyn wrth dipyn ceisia wella’r gwesty, yn dechrau gyda chael ffonau’r gwesty’n gweithio eto.

Penderfyna Madge mai’r ffordd i ddod o hyd i sboner cyfoethog ydy ymuno â chlwb moethus i’r cyfoethog. Ceisia cyflwyno ei hun fel y Dywysoges Margaret ond mae gan rheolwr y clwb well ymwybyddiaeth o’r teulu brenhinol na hi ac mae’n ei hysbysu bod y Dywysoges Margaret eisoes wedi marw! Parha Graham i ddiflannu bob dydd ac yn y pen draw fe ddatguddia i Evelyn ei fod yn mynd i’r swyddfa gofnodion gyda’r gobaith o ddod o hyd i hen ffrind. Ffrind a charwr. Dysgwn yr oedd Graham mewn perthynas hoyw gyda’i ffrind. Gyda chymorth Douglas ac Evelyn llwydda ffeindio’i gyfaill a chaiff y ddau siarad am y tro cyntaf ers i Graham adael yr India yn ddeunaw oed. Serch hynny, drannoeth, mae Graham yn marw yn y gwesty- trawiad ar y galon. Ysgrifenna Evelyn yn ei blog bod Graham wedi dod i’r India gyda chyflwr calon ac yr oedd yn gwybod na fyddai’n dychwelyd i Brydain achos ei salwch ac ei fod wedi dod i gymodi ei fywyd gynt fel gŵr ieuanc.

Mae gan Sonny ei broblemau personol ei hun. Mae ei frodyr eraill sydd yn fwy llwyddiannus na fe am i’r gwesty gael ei fwrw i’r llawr ac mae ei fam am iddo ddychwelyd i Delhi i gwrdd â’i ddarpar wraig. Serch hynny, mae Sonny yn sâl mewn cariad gyda’r brydferth Sunaia. Mae’r gwesty yn mynd i gael ei gau achos diffyg cyllid ond ar glywed trafferthion Sonny, sleifia Muriel i mewn i swyddfa Sonny a gweithia hi ar gyfrifon y gwesty. Mae hi wedyn yn mynd â’i chanfyddiadau i’r dyn busnes lleol sydd wedi gwrthod ei gymorth ariannol.

Drannoeth, mae Sonny yn dadlau gyda’i fam ac yn datgan ei fod yn caru Sunaia ac ei fod yn mynd i’w phriodi hi dim ots beth a ddaw. Yn y pen draw, mae ei fam yn addef. Diwedda’r ffilm gyda Sonny a Sunaia yn gyrru ar foped ar hyd y stryd yn pasio Douglas ac Evelyn sydd hefyd ar foped gyda’i gilydd. Mae Madge yn y clwb yn ciniawa’n foethus gyda gŵr cyfoethog Indiaidd tra bod Norman yn golchi hosanau a Carol (ei gariad newydd, bert, tebyg ei hoed) yn darllen y Kama Sutra. Mae Muriel y tu ôl i ddesg y gwesty fel rheolwraig yn croesawi gwesteion.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "The Best Exotic Marigold Hotel (2012)". Box Office Mojo. Cyrchwyd 2011-08-28.
  2. "John Madden's THE BEST EXOTIC MARIGOLD HOTEL Lands Judi Dench, Maggie Smith, Tom Wilkinson, Bill Nighy and Dev Patel". Collider.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-14. Cyrchwyd 2011-08-28.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]