Pencampwriaeth y Pedair Gwlad

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pencampwriaeth y Pedair Gwlad
Ffurfiwyd 1884
Dirwyn i ben 1984
Ardal Y Deyrnas Unedig
Nifer o dimau 4
Pencampwyr olaf Baner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon 1983-84
Mwyaf llwyddiannus Lloegr Lloegr (54)

Cystadleuaeth bêl-droed flynyddol rhwng timau pêl-droed rhyngwladol Y Deyrnas Unedig; Yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr, oedd Pencampwriaeth y Pedair Gwlad (Saesneg British Home Championship). Cynhaliwyd y Bencampwriaeth gyntaf ym 1883-84 gan sicrhau ei lle fel y gystadleuaeth bêl-droed rhyngwladol hynaf yn y byd, ac fe ddaeth i ben yn dilyn tymor 1983-84.

Rhwng 1882 a 1921 roedd un tîm yn cynrychioli Iwerddon gyfan ond wedi sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon a thîm pêl-droed cenedlaethol Gweriniaeth Iwerddon, Gogledd Iwerddon oedd yn cystadlu yn y Bencampwriaeth. Er hyn, roedd Gogledd Iwerddon yn parhau i ddewis chwaraewyr o Iwerddon gyfan hyd 1950[1] ac yn parhau i alw eu tîm yn Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Pedair Gwlad tan y 1970au hwyr.[2]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Erbyn y 1880au cynnar roedd pedair tîm pêl-droed rhyngwladol Y Deyrnas Unedig yn chwarae gemau cyfeillgar yn rheolaidd, gyda bron bob un yn wynebu ei gilydd unwaith y tymor. Ar y pryd roedd roedd gwahaniaethau bychain yn rheolau'r pedair cymdeithas Brydeinig. Roedd hyn yn peri problem ar gyfer gemau rhyngwladol gyda'r tîm cartref yn gosod y rheolau[3].

O dan arweiniad Cymdeithas Bêl-droed Lloegr (FA), daeth dau gynrychiolydd o'r pedair cymdeithas - Cymdeithas Bêl-droed Lloegr, Cymdeithas Bêl-droed Yr Alban, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chymdeithas Bêl-droed Iwerddon at ei gilydd ar 2 Mehefin, 1886 yn swyddfeydd yr FA yn Holborn Viaduct, Llundain er mwyn cysoni'r rheolau a ffurfio'r Bwrdd Cymdeithas Bêl-droed Rhyngwladol (IFAB)[4]. Yn yr un cyfarfod penderfynwyd ffurfioli'r gemau cyfeillgar blynyddol a sefydlu Pencampwriaeth y Pedair Gwlad.

Cynhelid gemau'r Bencampwriaeth yn ystod pob tymor pêl-droed gan ddechrau yn nhymor 1883–84 gyda'r Alban yn curo Iwerddon 5-0 yn y gêm gyntaf ar 24 Ionawr 1884 ac yn mynd ymlaen i fod y pencampwyr cyntaf.[5]

Gyda dyfodiad Cwpan y Byd a Phencampwriaeth Ewrop cafwyd cryn bwysigrwydd i'r Bencampwriaeth wrth i gemau Pencampwriaethau 1949-50 a 1953-54 ddyblu fyny fel gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 1950 a 1954.[6] Defnyddiwyd pencampwriaeth 1966-67 a 1967-68 fel grŵp rhagbrofol ar gyfer Pencampwriaeth Ewrop 1968.

Erbyn y 1980au cynnar roedd y Bencampwriaeth dan fygythiad oherwydd sawl rheswm. Roedd gemau rhagbrofol Cwpan y Byd a Phencampwriaeth Ewrop yn cymryd blaenoriaeth dros gemau'r Bencampwriaeth ac roedd torfeydd yn edwino oherwydd hwliganiaeth a diffyg diddordeb. Yn ogystal â diffyg diddordeb, roedd Yr Helyntion yng Ngogledd Iwerddon yn golygu na chwblhawyd y Bencampwriaeth ym 1981 wrth i dimau wrthod teithio i Belfast.[7][8]

Ar ôl Pencampwriaeth 1982-83, cyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr (FA) a Chymdeithas Bêl-droed Yr Alban (SFA) na fyddent yn cystadlu yn y Bencampwriaeth am 1984-85 gan arwain at i'r Bencampwriaeth ddod i ben ar ddiwedd tymor 1983-84.

Rhestr buddugoliaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]