Paul Monaghan
Paul Monaghan | |
Cyfnod yn y swydd 7 Mai 2015 – 3 Mai 2017 | |
Rhagflaenydd | John Thurso |
---|---|
Olynydd | Jamie Stone |
Geni | Montrose, Yr Alban | 11 Tachwedd 1966
Cenedligrwydd | Albanwr |
Etholaeth | Caithness, Sutherland ac Easter Ross |
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Priod | Stephanie Anderson |
Plant | Sian Anderson |
Alma mater | Prifysgol Stirling |
Galwedigaeth | Gwleidydd |
Gwefan | http://www.snp.org/ |
Gwleidydd o'r Alban yw Paul Monaghan (ganwyd 11 Tachwedd 1966) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Caithness, Sutherland ac Easter Ross; mae'r etholaeth yn Ucheldir yr Alban, yr Alban. Cynrychiola Blaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.
Fe'i ganed ym Montrose cyn symud gyda'i deulu i Inverness, yn ddwy oed. Derbyniodd Radd Cyntaf gydag anrhydedd ym Mhrifysgol Sterling am waith ar Gymdeithaseg a Seicoleg, cyn cwbwlhau Doethuriaeth mewn Polisiau Cymdeithasol. Mae'n aelod o Gymdeithas Seicoleg Prydain a Chymrawd o Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (Institute of Leadership and Management).[1].
Monaghan oedd sefydlydd ymgyrch Ucheldir yr Alban dros Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014. Ar hyn o bryd mae'n byw yn Contin, Swydd Ross gyda'i deulu. Bu'n aelod o'r SNP er 1994.
Etholiad 2015
[golygu | golygu cod]Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[2][3] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Paul Monaghan 15831 o bleidleisiau, sef 46.3% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o +27.1 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 3,844 pleidlais.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Munro, Ally (8 Mai 2015). "SNP win Caithness, Sutherland and Easter Ross". The Scotsman. Johnston Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 9 Mai 2015.
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
- ↑ Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban