Paradocs

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Term yw paradocs sy'n cael ei ddiffinio mewn sawl ffordd. Yn ei ystyr gyffredin mae'n golygu "datganiad sydd yn ymddangos yn absẃrd neu'n wrthddywediadol" ond a all, serch hynny, fod yn wir.[1] Gellid ei ddisgrifio fel 'gwrthddywediad', 'croeseb', neu 'wrtheb', ond mae'n fwy na hynny hefyd ac mae ei ddadansoddi a'i ddiffinio yn un o broblemau mawr athroniaeth a rhesymeg.

Enghreifftiau o baradocsau[golygu]

Paradocs celwydd[golygu]

Un o'r enghreifftiau enwocaf o'r paradocs yw'r hyn a elwir gan athronwyr yn 'Baradocs celwydd'. Mae hyn yn cael ei ddosbarthu fel paradocs semantaidd a cheir enghreifftiau ohono yng ngwaith athrawon yr Henfyd. Dyma enghraifft: Mae Siôn yn datgan "Dwi'n dweud celwydd rwan", gan gyfeirio at yr hyn mae newydd ddweud. Os ydy o yn dweud y gwir trwy ddweud ei fod yn dweud celwydd, mae'n dweud celwydd. Ond os ydy o'n dweud celwydd am hynny mae'n dweud y gwir. Felly mae'r hyn y mae'n ddweud yn wir dim ond os ydyw'n anwiredd yn y lle cyntaf. Gwelir yma yr elfen o abswrdiaeth sy'n waelodol i natur paradocs.[2]

Paradocs hunaniaeth[golygu]

Yn ôl y paradocs hunaniaeth ni all dau beth fod yn union yr un fath. Mae'n gysyniad a geir yng ngwaith Platon yn yr Henfyd ac a drafodir gan David Hume ac eraill. Tynodd sylw arbennig Wittgenstein. Yn ei lyfr Tractatus Logico-Philosophus mae'n dweud: "Â siarad yn fras, mae dweud am ddau beth eu bod yr un ffunud yn union yn lol, ac mae dweud am un peth ei fod yr un peth ag ef ei hun yn gyfystyr â dweud dim byd o gwbl".[3]

Paradocs Socrataidd[golygu]

Er na fyddai rhai yn ei dderbyn fel paradocs gwirioneddol, mae gan y Paradocs Socrataidd le pwysig yn hanes athroniaeth y Gorllewin. Datganiad sy'n mynd yn groes i'r farn gyffredinol, a hynny yn fwriadol er mwyn gwneud pwynt athronyddol, yw'r paradocs yma. Ceir nifer o enghreifftiau a briodolir i Socrates gan ei ddisgybl Platon. Un o'r enwocaf efallai yw'r sylw "Does neb yn cyflawni gweithred drwg heb wybod". Mae hyn yn groes i'r farn gyffredin fod pobl yn aml yn ymwybodol o'r ffaith eu bod yn cyflawni gweithred drwg er eu bod yn gwybod na ddylent. Her bwriadol i'r drefn sydd ohoni oedd hyn, i ysgogi ymateb.[4]

Paradocsau eraill[golygu]

Mae paradocsau adnabyddus eraill yn cynnwys:

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol III, tud. 2684.
  2. Ted Honderich (gol.), The Oxford Companion to Philosophy (Rhydychen, 1995), tud. 483.
  3. The Oxford Companion to Philosophy, tud. 391.
  4. The Oxford Companion to Philosophy, tud. 642.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • James Cargile, Paradoxes (Caergrawnt, 1979)
  • Robert L. Martin (gol.), Recent Essays on Truth and the Liar Paradox (Rhydychen, 1984)
  • W. V. Quine, The Ways of Paradox (Efrog Newydd, 1966)