Owain Wyn Evans

Oddi ar Wicipedia
Owain Wyn Evans
Ganwyd9 Mawrth 1984 Edit this on Wikidata
Rhydaman Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr Edit this on Wikidata

Newyddiadurwr a chyflwynydd teledu o Gymru yw Owain Wyn Evans (ganwyd 9 Mawrth 1984). Ar hyn o bryd mae'n gweithio i'r BBC ac yn cyflwyno'r tywydd ar y teledu ac ar radio. Ef yw prif gyflwynydd tywydd y rhaglen newyddion nosweithiol North West Tonight ac mae'n adnabyddus am ei waith drymio, cyfryngau cymdeithasol a LHDT+. Mae'n noddwr yr elusen LGBT Foundation.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Gwaith teledu[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Evans ei yrfa ddarlledu yn 18 oed, pan ddaeth yn gyflwynydd rhaglen newyddion plant Cymraeg Ffeil. Mae wedi cyfrannu at amrywiaeth o raglenni yng Nghymru gan gynnwys rhaglenni Cymraeg S4C Stwnsh, Planed Plant, Salon, Uned 5, I'r Eithaf a Wedi 7.[2]

Yna gweithiodd fel gohebydd, cyflwynydd a newyddiadurwr fideo i BBC Cymru ac yn 2012 dechreuodd gyflwyno'r tywydd ar BBC Wales Today. Cyflwynodd Evans ragolygon y tywydd ar draws llawer o genhedloedd a rhanbarthau’r BBC rhwng 2012 a 2015, gan gynnwys BBC London, BBC Reporting Scotland a BBC Spotlight. Yn 2015, ymunodd â'r tîm cyflwyno tywydd a newyddion ar gyfer BBC Look North. Ym mis Medi 2019, cyhoeddwyd mai Evans fyddai prif gyflwynydd tywydd BBC North West Tonight,[3] yn dilyn marwolaeth y cyn-gyflwynydd Dianne Oxberry.

Ym mis Ebrill 2020 ymunodd Evans â Carol Vorderman ar daith ledled Cymru lle dysgodd hi i siarad y Gymraeg ar gyfer rhaglen deledu S4C Iaith ar Daith.[4]

Yn 2021 daeth yn gyflwynnydd tywydd wythnosol ar BBC Breakfast. [5]

Darlledu digidol[golygu | golygu cod]

Mae Evans wedi cael ei gredydu am gyflwyno rhagolygon fideo ffurf fer ar gyfryngau cymdeithasol, ar ôl cynhyrchu'r rhain gyntaf ar y platfform rhannu fideo Vine yn 2013. Mae wedi datblygu'r rhain fel sticeri GIF, sydd ar gael ar y mwyafrif o lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

Yn 2017 dathlodd Evans Ddiwrnod Drag Rhyngwladol trwy roi rhagolwg tywydd gyda thema Drag gan rhoi teyrnged i RuPaul's Drag Race.[6]

Yn 2018 cydweithiodd Evans â Netflix i gynhyrchu cyfres o fideos yn dathlu digwyddiadau balchder ledled y DU gyda Karamo Brown o Queer Eye.

Gwaith Radio[golygu | golygu cod]

Yn 2012 daeth Evans yn gyflwynydd traffig a thywydd i BBC Radio Cymru. Mae Evans wedi cyflwyno nifer o raglenni radio ar gyfer gorsafoedd Radio Lleol y BBC ledled Lloegr. [7] [8]

Yng ngwanwyn 2017 cyhoeddwyd y byddai Evans yn cael ei sioe ei hun ar BBC Radio York.

Mae Evans yn cyd-gyflwyno’n rheolaidd ochr yn ochr â Carol Vorderman ar BBC Radio Wales.[9] Yn 2020 dechreuodd gyflwyno ochr yn ochr â Helen Skelton ar BBC Radio 5 Live.[10]

Ym mis Rhagfyr 2020, cynhaliodd Evans gyfres o sioeau 'in conversation with...' ar gyfer BBC Sounds a BBC Local Radio lle bu'n cyfweld â sêr gan gynnwys Dolly Parton, Kylie Minogue a Syr Cliff Richard.

Drymio[golygu | golygu cod]

Roedd Evans yn ddrymiwr lled-broffesiynol yn gynharach mewn bywyd, ond mae bellach yn ei ystyried yn hobi.[11] Ym mis Ebrill 2020, cynhyrchodd Evans fideo ohono'i hun yn drymio i thema Newyddion y BBC ar ôl cyflwyno rhagolwg tywydd. Aeth y fideo yn feiral, ac roedd yn ymddangos ar allfeydd newyddion ledled y byd. [12]

Yn y prosiect radio a theledu lleol Owain's Big House Band gwelwyd Evans yn ymuno â channoedd o gerddorion eraill a chwaraeodd i'r fideo wreiddiol o'u cartrefi eu hunain yn ystod y cyfnod clo pandemig COVID-19.[13]

Ym mis Tachwedd, cododd Owain dair miliwn o bunnoedd am Plant Mewn Angen gyda'i Drwmathon.[14]

Gwobrau ac anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Ym mis Gorffennaf 2019 dyfarnwyd y gwobr cyflwynydd Teledu Gorau i Evans yng Ngwobrau Cyfryngau O2 ar gyfer Swydd Efrog a Humber.[15]

Mae wedi ymddangos ar 'Restr Pinc' WalesOnline o'r pobl LHDT fwyaf dylanwadol o Gymru ar sawl achlysur. [16]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae Evans wedi siarad allan am gam-drin homoffobig a dderbyniwyd ar Twitter am ei arddull cyflwyno[17] ac mae'n parhau i fod yn lleisiol yn ei gefnogaeth i'r gymuned LHDT. Mewn fideo i ddathlu mis hanes LHDT fe wnaeth Evans ddweud roedd rhaid iddo guddio ei rhywioldeb yn ei swydd gyntaf o gyflwyno rhaglenni i blant pan oedd yn 18.[18]

Ym mis Mawrth 2017 priododd Evans ag Arran Rees yn Llundain.[19]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "LGBT Foundation Announces New Patron Owain Wyn Evans". Cyrchwyd 2021-03-13.
  2. "Syndod Owain Wyn Evans am ei fideo drymio feiral". BBC Cymru Fyw. 2020-04-28. Cyrchwyd 2021-03-13.
  3. "BBC North West Tonight reveal new weather presenter is Owain Wyn Evans". I Love Manchester (yn Saesneg). 2019-09-02. Cyrchwyd 2021-03-13.
  4. "Syndod Owain Wyn Evans am ei fideo drymio feiral". BBC Cymru Fyw. 2020-04-28. Cyrchwyd 2021-03-13.
  5. Miller, Rebecca (2021-03-07). "Carol Kirkwood faces competition as Owain Wyn Evans a hit with BBC viewers 'More of him!'". Express.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-13.
  6. "Rhagolygon Owain Wyn Evans yn disgleirio yn America". BBC Cymru Fyw. 2018-05-01. Cyrchwyd 2021-03-13.
  7. https://www.bbc.co.uk/programmes/p07497tt
  8. https://www.bbc.co.uk/programmes/p05zhm1y
  9. "Carol Vorderman: 'You show me up' Countdown legend tells radio co-star in on-air moment | Celebrity News | Showbiz & TV | Express.co.uk". www.express.co.uk. Cyrchwyd 2021-03-13.
  10. "Syndod Owain Wyn Evans am ei fideo drymio feiral". BBC Cymru Fyw. 2020-04-28. Cyrchwyd 2021-03-13.
  11. "Steve Wright's Radio 2 theme gets drumming weatherman Owain's version". On The Radio (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-13.
  12. "Syndod Owain Wyn Evans am ei fideo drymio feiral". BBC Cymru Fyw. 2020-04-28. Cyrchwyd 2021-03-13.
  13. "Owain Wyn Evans is joined by hundreds to form Big House Band and play BBC News theme". Radio Times. 23 April 2020. Cyrchwyd 8 May 2020.
  14. "Dyn tywydd yn cwblhau her drwmathon 24-awr". Golwg360. 13 Tachwedd 2021. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2021.
  15. "'Inspirational' reporter wins O2 special award". O2 The Blue (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-13.
  16. Williams, Kathryn (2020-04-22). "Who is BBC weatherman Owain Wyn Evans?". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-13.
  17. "This BBC weatherman says he gets homophobic online abuse over 'camping it up'". The Independent (yn Saesneg). 2014-12-29. Cyrchwyd 2021-03-13.[dolen marw]
  18. "'I had to go back in the closet for first TV job'". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-13.
  19. Williams, Kathryn (2017-03-13). "Welsh weatherman Owain Wyn Evans ties the knot". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-03-13.