Neidio i'r cynnwys

Oswald Croll

Oddi ar Wicipedia
Oswald Croll
Engrafiad lliw o glawr y cyfieithiad Almaeneg o Basilica Chymica, a gyhoeddwyd yn Frankfurt yn 1629
Ganwyd1563 Edit this on Wikidata
Wetter Edit this on Wikidata
Bu farw1609 Edit this on Wikidata
Prag Edit this on Wikidata
Galwedigaethcemegydd, fferyllydd, meddyg Edit this on Wikidata

Meddyg ac alcemydd o'r Almaen oedd Oswald Croll (Lladin: Crollius; tua 15601609). Adnabyddir fel un o ddehonglwyr a chyfundrefnwyr pwysicaf gwaith Paracelsus.

Derbyniodd ei ddoethuriaeth mewn meddygaeth o Brifysgol Marburg yn 1582. Aeth yn feddyg drwy weithio'n diwtor i deuluoedd bonheddig yn Ffrainc, yr Almaen, a Chanolbarth Ewrop.[1]

Ei brif waith yw Basilica Chymica (1609), ei ymgais i gyfuno Paracelsiaeth â thraddodiadau Hermetig a Chabalaidd y Dadeni. Dylanwadwyd ar Croll gan ddiwinyddiaeth Galfinaidd, ac anghytunodd felly â phwyslais Paracelsus ar berthynas glos y meddyg â Duw. Mae'r gwaith hefyd yn cynnwys sawl rysáit ar gyfer meddyginiaethau sy'n dangos gwybodaeth soffistigedig o adweithiau cemegol. Yr hyn sy'n nodweddu ei ddulliau ydy'r ffaith nad yw'n pwysleisio distylliant, yn wahanol i Paracelsus a'r alcemyddion clasurol eraill.[1]

Cyfieithwyd Basilica Chymica i Ffrangeg, Saesneg, ac Almaeneg yn yr 17g. Bu'r meddyg a chemegydd Andreas Libavius, un o brif wrthwynebwyr Paracelsus, yn lladd ar waith Croll. Bu farw Croll ym Mhrâg, ym mha le'r oedd yn un o wŷr llys yr Ymerawdwr Rudolf II.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 William E. Burns, The Scientific Revolution: An Encyclopedia (Santa Barbara, Califfornia: ABC-CLIO, 2001), tt. 77–78.