Neidio i'r cynnwys

Hermetigiaeth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Hermetig)
Hermes Trismegistus

Mae Hermetigiaeth yn gasgliad o gredau crefyddol ac athronyddol wedi eu seilio yn bennaf ar yr ysgrifau a briodolir i Hermes Trismegistus, doethwr chwedlonol sydd o bosib yn gymysgedd o'r duwiau Thoth (o'r Aifft) a Hermes (o Wlad Groeg).

Credir mai Hermetigiaid oedd y Sabiaid, pobl a ymddangosodd yn y Coran yn 830 OC.

Y Corpus Hermeticum

[golygu | golygu cod]

Ar ôl canrifoedd o amarch, cafodd Hermetigiaeth ei hail-gyflwyno i'r Gorllewin ym 1460 pan ddaeth dyn o'r enw Leonardo â'r Corpus Hermeticum i ddinas Pistoia yn yr Eidal. Roedd Leonardo yn un o lawer o asiantau llyw Pistoia, Cosimo de Medici, a gafodd eu hanfon allan i chwilio am ysgrifau hynafol.

Ym 1614 cafodd y Corpus Hermeticum ei ddosrannu am ddulliau ieithyddol gan Isaac Casaubon, ieithegydd o'r Swistir. Yn ei farn ef doedd yr ysgrifau a briodolir i Trismegistus ddim yn ddigon hen i hanu o'r Aifft hynafol, yn hytrach roeddent yn deillio o'r Cyfnod Cristnogol. Roedd Walter Scott yn dyddio'r ysgrifau i 200 OC, ond bu i Syr W. Flinders Petrie eu lleoli rhwng 200 a 500 CC. Roedd Plutarch yn sôn am Trismegistus yn y ganrif gyntaf OC, ac roedd Tertullian, Iamblichus a Porphyry i gyd yn gyfarwydd ag ysgrifau Hermetig.

Roedd ysgrifau Hermetig ymhlith y rhai a gafodd eu darganfod ger Nag Hammadi ym 1945. Roedd yr ysgrifau yn dilyn trefn un o'r sgyrsiau rhwng Hermes ac Asclepius o'r Corpus Hermeticum, a hefyd roedd yna destun ar gyfriniaeth Hermetig, sef Ar yr Ogdoad ac Ennead, wedi ei ysgrifennu yn yr iaith Gopteg.

Mae'r rhan fwyaf o'r testunau yn cael eu cyflwyno mewn ffurf deialog, dull arferol y Cynfyd o drosglwyddo gwybodaeth ddidactig. Mae'r testunau yn trin amrywiaeth o bethau, gan gynnwys alcemeg, dewiniaeth a myfyrdodau ar natur bywyd sydd yn debyg i Gnostigiaeth a Neoplatoniaeth.

Hermetigiaeth fel crefydd

[golygu | golygu cod]

Dydy llawer o Hermetigiaid ddim yn ystyried eu credau i fod yn grefydd. Mae llawer ohonynt yn cymysgu eu syniadau cyfriniol â Christnogaeth, Bwdhaeth, Iddewiaeth, Paganiaeth neu Islam. Mae eraill fod gan pob crefydd rai gwireddau cyfriniol, ac eu bod i gyd yn pwyntio at ddaliadau esoterig Hermetigiaeth.

Tair rhan "doethineb y bydysawd"

[golygu | golygu cod]

Nod Hermetigiaeth ydy dyrchafu'r unigolyn i gyfuno â chyfatebwyr uwch a chyrraedd Ymwybyddiaeth Dwyfol, neu "doethineb y bydysawd". Yn ôl testun arall a briodolir i Hermes Trismegistus, y Tabula Smaragdina, mae yna dair ran i'r doethineb:

  • Alcemeg: nid newid plwm i aur ydy nod alcemeg; metaffor i ddisgrifio'r ymdrech i newid a dyrchafu'r enaid ydy.
  • Sêr-ddewiniaeth: credir bod gan symudiadau'r planedau ddylanwad ar y Ddaear, ac bod dod i adnabod y dylanwadau hyn yn arwain at ddeall y meddwl dwyfol, neu Dduw.
  • Dwyfolwaith: Yn ôl Giovanni Pico della Mirandola, mae yna ddau fath gwahanol o ddewiniaeth. Y cyntaf ydy γοητεια, Goëtia, y gelfyddyd ddu lle mae'r dewin yn cynghreirio gyda chythreuliaid ne ysbrydion drygionus. Yr ail ydy Dwyfolwaith, dewiniaeth ddwyfol lle mae'r dewin yn cynghreirio gydag ysbrydion dwyfol, fel angylion a duwiau.

Daliadau Hermetig

[golygu | golygu cod]

Mae Hermetigiaeth yn amgylchynu panentheistiaeth ("popeth o fewn Duw") ac Amldduwiaeth monistig, sef bod yna amrywiaeth o fodau dwyfol, fel duwiau neu angylion, ond eu bod nhw i gyd, fel popeth arall yn y bydysawd, yn deillio o'r un "Achos" neu Dduw.