Oswald Croll
Oswald Croll | |
---|---|
![]() Engrafiad lliw o glawr y cyfieithiad Almaeneg o Basilica Chymica, a gyhoeddwyd yn Frankfurt yn 1629. | |
Ganwyd | 1563 ![]() Wetter (Hessen) ![]() |
Bu farw | 1609 ![]() Prag ![]() |
Galwedigaeth | cemegydd, fferyllydd, meddyg ![]() |
Meddyg ac alcemydd Almaenig oedd Oswald Croll (Lladin: Crollius; tua 1560 – 1609). Adnabyddir fel un o ddehonglwyr a chyfundrefnwyr pwysicaf gwaith Paracelsus.
Derbyniodd ei ddoethuriaeth mewn meddygaeth o Brifysgol Marburg yn 1582. Aeth yn feddyg drwy weithio'n diwtor i deuluoedd bonheddig yn Ffrainc, yr Almaen, a Chanolbarth Ewrop.[1]
Ei brif waith yw Basilica Chymica (1609), ei ymgais i gyfuno Paracelsiaeth â thraddodiadau Hermetig a Chabalaidd y Dadeni. Dylanwadwyd ar Croll gan ddiwinyddiaeth Galfinaidd, ac anghytunodd felly â phwyslais Paracelsus ar berthynas glos y meddyg â Duw. Mae'r gwaith hefyd yn cynnwys sawl rysáit ar gyfer meddyginiaethau sy'n dangos gwybodaeth soffistigedig o adweithiau cemegol. Yr hyn sy'n nodweddu ei ddulliau ydy'r ffaith nad yw'n pwysleisio distylliant, yn wahanol i Paracelsus a'r alcemyddion clasurol eraill.[1]
Cyfieithwyd Basilica Chymica i Ffrangeg, Saesneg, ac Almaeneg yn yr 17g. Bu'r meddyg a chemegydd Andreas Libavius, un o brif wrthwynebwyr Paracelsus, yn lladd ar waith Croll. Bu farw Croll ym Mhrâg, ym mha le'r oedd yn un o wŷr llys yr Ymerawdwr Rudolf II.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- Alcemyddion Almaenig
- Genedigaethau'r 1560au
- Llenorion ffeithiol Almaenig yr 16eg ganrif
- Llenorion ffeithiol Almaenig yr 17eg ganrif
- Llenorion ffeithiol Almaenig yn yr iaith Ladin
- Llenorion yr ocwlt
- Marwolaethau 1609
- Meddygon Almaenig yr 16eg ganrif
- Meddygon Almaenig yr 17eg ganrif
- Pobl o Hessen
- Pobl fu farw ym Mhrag