Prifysgol Philipp Marburg
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Prifysgol Marburg)
Sêl y brifysgol | |
| Math | prifysgol gyhoeddus, comprehensive university |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Philip I, Landgraf Hessen |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Marburg |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 50.8108°N 8.7736°E |
![]() | |
Prifysgol ymchwil gyhoeddus yn yr Almaen yw Prifysgol Philipp Marburg (Almaeneg: Philipps-Universität Marburg) a leolir ym Marburg yn nhalaith Hessen. Hon ydy'r brifysgol 10fed hynaf yn yr Almaen, a'r un cyntaf a gychwynnodd fel sefydliad Protestannaidd.
Sefydlwyd y brifysgol ym 1527 gan Philipp I, Tiriarll Hessen, er hyrwyddo Lutheriaeth, a ffynnai Marburg yn ystod y Diwygiad Protestannaidd. Trodd yn sefydliad Calfinaidd ym 1605, pan orchmynnodd un o olynwyr Philipp newid defodlyfr swyddogol y brifysgol, a gostyngodd niferoedd y myfyrwyr.[1]
Ymhlith cyn-fyfyrwyr enwog y brifysgol mae'r athronydd Jürgen Habermas, y ffisegydd John Tyndall, a'r cemegwyr Hermann Kolbe, Friedrich Wöhler ac Otto Hahn.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Philipps University of Marburg. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Hydref 2023.
