Ordinalia

Oddi ar Wicipedia
Ordinalia
Pennill agoriadol Origo Mundi
Enghraifft o'r canlynoldrama miragl Edit this on Wikidata
IaithCernyweg Edit this on Wikidata

Tair drama miragl canoloesol yw'r Ordinalia sy'n dyddio o ddiwedd y 14g, wedi'u hysgrifennu'n bennaf yng Nghernyweg Canol,[1] gyda chyfarwyddiadau llwyfan yn Lladin, y cyfarwyddiadau llwyfan cynharaf yn y byd.[2] Y tair drama yw Origo Mundi (Tarddiad y Byd, a elwir hefyd yn Ordinale de Origine Mundi, 2,846 llinell), Passio Christi (Angerdd Crist, a elwir hefyd yn Passio Domini Nostri Jhesu Christi, 3,242 llinell) a Resurrexio Domini (Atgyfodiad ein Harglwydd a elwir hefyd yn Ordinale de Ressurexione Domini, 2,646 llinell). Mae mesurau'r dramâu hyn yn drefniadau amrywiol o linellau saith a phedwar sillaf. Ystyr Ordinalia yw "prydlon" neu "lyfr gwasanaeth".

Y ddrama gyntaf[golygu | golygu cod]

Mae'r ddrama gyntaf, o'r enw Origo Mundi, yn dechrau gyda Chread y Byd, Cwymp Dyn, hanes Cain ac Abel, ac yna adeiladu'r Arch a'r Llifogydd; mae stori temtasiwn Abraham yn cau'r weithred gyntaf. Mae'r ail act yn adrodd hanes Moses, ac mae'r drydedd yn sôn am stori Dafydd ac am adeiladu Teml Solomon, gan ddiweddu'n rhyfedd gyda disgrifiad o ferthyrdod Sant Maximilla fel Cristion gan yr esgob a roddwyd yng ngofal y deml gan Solomon.

Mae Gwreans an Bys: the Creacon of the World (Creu’r Byd) sydd hefyd yn cynnwys hanes Llifogydd Noa a ysgrifennwyd mewn Cernyweg gyda chyfarwyddiadau llwyfan Saesneg, a gopïwyd gan William Jordan ym 1611 yn addasiad o Origo Mundi.

Ail a thrydedd ddrama[golygu | golygu cod]

Mae'r ail ddrama, Passio Domini, yn adrodd hanes Temtasiwn Crist yn yr anialwch, a'r digwyddiadau o'r mynediad i Jerwsalem i'r Croeshoeliad, gan gynnwys y Dioddefaint. Mae'n arwain ymlaen, heb ymyrraeth, i mewn i'r drydedd ddrama, Resurrectio Domini, sy'n rhoi disgrifiad o Ddryllio'r Uffern, yr Atgyfodiad, a'r Dyrchafael, gyda Chwedl Saint Veronica a Tiberius, marwolaeth Pilat, rhyddhau Joseff o Arimathea a Nicodemus o'r carchar.

Perthynas â Buchedd y Groes[golygu | golygu cod]

Yn rhedeg trwy'r cyfan ac wedi ei gydblethu â'r naratif ysgrythurol mae Buchedd y Groes Sanctaidd. Cyfansawdd o hanesion canoloesol sydd wedi eu selio'n llac iawn ar rhai o hanesion y Beibl.[3]

Dyma fraslun o'r fuchedd:

Mae Adda ar fin marw. Mae'n danfon ei fab Seth i Gatiau Paradwys i erfyn ar eu hangel gwarcheidiol i roi olew trugaredd iddynt, er mwyn i'w dad cael byw. Gadawodd yr angel iddo edrych i mewn i Baradwys, lle gwelodd lawer o ragarwyddion rhyfedd a hardd o bethau a ddylai fod ar y ddaear. Mae'r angel yn rhoi tri hedyn iddo o Goeden y Bywyd, mae Seth wedyn yn ymadael. O gyrraedd yn ôl i'r man le bu ei dad, mae'n canfod ei fod eisoes wedi marw. Mae'n gosod y tri hedyn yn ei geg, ac yn ei gladdu yn syth ar Fynydd Moriah. Ymhen amser tyfodd y tri hedyn yn dair coeden fach, a chymerodd Abraham rhan o'i bren er mwyn aberthu Isaac ei fab. Wedi hynny gwnaed gwialen Moses, yr hon a ddefnyddiodd i hollti'r graig allan o un o’i changhennau. Yn fuan tyfodd y tair coeden gyda'i gilydd yn un goeden, fel symbol o ddirgelwch y Drindod. O dan ei changhennau eisteddodd y Brenin Dafydd pan ddaeth Nathan y Proffwyd ato, ac yno fe welodd ei bechod, a chanu'r salm am drugaredd (Salm 51). Aeth Solomon, pan oedd yn adeiladu’r Deml ar Fynydd Seion, i dorri i lawr y goeden, a oedd erbyn hynny wedi tyfu'n un o’r gorau o gedrwydd Libanus. Fe wnaeth dynion ceisio gwneud trawst ohoni; ond ni oedd modd i'w gwneud i ffitio i'w le, faint bynnag oeddent yn ei dorri a'i siapio. Felly, roedd Solomon yn ddig, a thaflodd coden ar draws nant Cedron fel pont, er mwyn i bawb oedd yn tramwy'r ffordd honno yn ei sathru dan draed. Ond ar ôl ychydig penderfynodd Solomon i gladdu'r traws, a thros y lle gorweddai ymddangosodd Pwll Bethesda gyda'i bwerau iachâd; a phan ddaeth ein Harglwydd ar y ddaear arnofiodd y trawst i wyneb y pwll, a daeth yr Iddewon o hyd iddi, i wneud y Groes lle bu farw Crist ar Galfaria.

Mae'r rhan fwyaf o'r fuchedd i'w cael yn yr Ordinalia. Mae Ystorya Adaf (Hanes Adda) yn destun Cymraeg canol o fuchedd y groes ac mae'r bardd o'r 14g Gruffudd ap Maredudd yn cyfeirio at y fuchedd yn ei ganu.[4]

Llawysgrifau sy'n dal i fodoli[golygu | golygu cod]

Mae tair llawysgrif o'r drioleg yn dal i fodoli:

  • Bodley 791, llawysgrif Rhydychen o'r 15g, a roddwyd i Lyfrgell Bodleian gan James Button ar 28 Mawrth 1614. Y llawysgrif hon yw'r wreiddiol y copïwyd y lleill ohoni, ac y golygodd Dr Edwin Norris y dramâu ohoni ym 1859.
  • Bodleian MSS 28556-28557, llawysgrif arall o Rydychen, a gyflwynwyd i Lyfrgell Bodleian gan Edwin Ley o Bosahan tua 1859, gyda chyfieithiad gan John Keigwin. Mae'r copi o'r testun yn ganrif yn hŷn na'r cyfieithiad.
  • Peniarth MS 428E, copi a oedd yn llyfrgell Syr John Williams, gyda chyfieithiad llawysgrif gan Keigwin. Ar farwolaeth Syr John aeth i Lyfrgell Genedlaethol Cymru fel rhan o'i gymynrodd.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Ordinalia | collection of Cornish plays". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2020-02-13.
  2. "Rare Cornish manuscript making history". Bodleian Libraries. Cyrchwyd 2020-02-13.
  3. Bodleian Library. Manuscript. 343; Napier, Arthur S. (Arthur Sampson) (1894). History of the holy Rood-tree : a twelfth century version of the cross-legend with notes on the orthography of the Ormulum and a middle English Compassio Mariae. London : Publisht for the Early English Text Society by Kegan Paul, Trench, Trübner.
  4. Williams, J. E. Caerwyn, "Medieval Welsh Religious Prose," Proceedings of the Second International Congress of Celtic Studies, 1963 (Caerdydd, 1966),tud 65-97.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Mae tri darn o'r Ordinalia i'w gweld ar Wikisource Saesneg: