Y Tri Brenin o Gwlen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Un o ddwy ddrama firagl Gymraeg a oroesodd o'r Oesoedd Canol ydy'r Tri Brenin o Gwlen; ynghyd â Y Dioddefaint a'r Atgyfodiad, dyma'r ddwy ddrama Gymraeg gynharaf y gwyddom amdanynt. Dinas yn yr Almaen ydy Cwlen, dinas ddwyreiniol o ran ei daearyddiaeth - o gofio mai o'r dwyrain y deuai'r doethion. Mae'r ddrama yn sôn am y Geni ym Methlehem gan roi lle amlwg i'r Doethion yn ymweld â Herod. Mae'n debyg mai chwaraewyr teithiol fyddai wedi actio'r ddrama gan berfformio yn yr eglwysi.

Drama ar fydr ac odl ydyw[1] sy'n drosiad i'r Gymraeg gan awdur anhysbys o ddrama firagl Ladin boblogaidd y ceir sawl fersiwn ohoni. Dyma dri phennill:

Y brenin kynta:
pa le mae hwn a aned
brenin iddewon addfed?
y seren a fu yn kyfarwyddyd
gwyn ei fyd a gae i weled.
Herod:
os gwelsoch chi y seren
y nos unaws ar heulwen
arwydd geni y gras a'r grym
nid gwiw yn ddywedyd amgen.
Yr ail frenin:
y seren ni ai gwelsom
ai phroffwydo i buon
efo aned yr Jessu
i'w anrhegu y daethon.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]