Beunans Meriasek

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Dalen o'r llawysgrif

Drama mewn Cernyweg yw Beunans Meriasek a gwbwlhawyd yn 1504. Cedwir y llawysgrif yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth (rhif: NLW MS 23849D).[1] Dyma oedd yr unig ddrama am sant mewn Cernyweg Canol a oedd yn hysbys hyd yn ddiweddar pan ddaethpwyd o hyd i Beunans Ke (NLW MS 23849D).

Y teitl Lladin Ordinale de sancti Mereadoci episcopi et confessoris sydd arni, ond digwydd y geiriad Cernyweg Beunans Meriasek hefyd yn y gyfrol.

Gŵr o dras Lydewig oedd Sant Meriasek ac yn y ddrama cyflwynir hanes ei yrfa o'i addysg gynnar yn Llydaw a'i daith i Gernyw, gan adrodd y gwyrthiau a gyflawnwyd ganddo, nes iddo ddychwelyd i Lydaw a chael ei urddo'n esgob Gwened. Yn y diwedd clywn sut y bu farw yn 'esiampl da' o Gristion. Ymgorfforir yn yr hanes nifer o chwedlau unigol, ac yn eu plith mae rhai sy'n ymwneud â digwyddiadau o fuchedd San Silfestr, a gwyrth a gyflawnwyd gan y Forwyn Fair.[1]

Drama mewn dwy ran yw hon, a berfformiwyd dros ddau ddiwrnod. Mae'r testun ar fydr ac odl, ac wedi ei rannu'n benillion. Mewn Lladin a Chernyweg y mae'r cyfarwyddiadau llwyfan, gydag ychwanegiadau iddynt yn Saesneg. Dengys diagramau yn y llawysgrif sut i gynllunio'r llwyfan ar gyfer perfformiad. Dwy law a welir yn y llawygrif, yr un gyntaf dim ond wedi ailgopïo ff. 2-6v yn unig. Ar ddalen 92r gadawodd y prif gopïydd y dyddiad 1504 yn ogystal â'i lofnod: cynigiodd ysgolheigion y darlleniadau 'Had' neu 'Nad' neu 'Rad[ulphus]' 'Ton[ne]'.

Dyddiad alleoliad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n bosibl mai i ail hanner y 15g y perthyn y ddrama yn ei ffurf bresennol. Ychydig iawn a wyddom am hanes cynnar y llawysgrif, ond mae cysylltiad y ddrama â Camborne, lle yr anrhydeddir Meriasek yn arbennig, yn eithaf sicr. Serch hynny, credir mai yng nghlas-eglwys Glasneth, Pennrynn, y'i rhoddwyd ar glawr, efallai dan nawdd Meistr John Nans, profost Glasneth, a symudodd i Camborne yn ddiweddarach ac a fu farw ym 1508.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 14 Gorffennaf 2016.