Coleg Glasneth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cofeb Coleg Glasneth

Roedd Coleg Glasneth (Cernyweg: Kolji Glasneth; Saesneg: Glasney College) yn ganolfan eglwysig ganoloesol yn Pennrynn, Cernyw. Sefydlwyd y coleg ym 1265 gan yr Esgob Bronescombe a bu'n ganolfan o rym eglwysig yng Nghernyw ei gyfnod, a’r mwyaf adnabyddus a’r pwysicaf o sefydliadau crefyddol y genedl.

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl traddodiad trawyd Walter Bronescombe, Esgob Caerwysg, gyda salwch difrifol wrth ymweld â’r Almaen. Fel rhan o’i salwch dioddefodd nifer o byliau o ddeliriwm. Yn ystod ei gyfnodau o ddeliriwm cafodd weledigaethau o Sant Thomas Becket. Addawodd Becket y byddai Walter yn dychwelyd i lawn iechyd trwy ras Duw. Fel diolch am ei adferiad gorchmynnodd Becket iddo adeiladu eglwys golegol er gogoniant Duw ac yn enw Sant Tomos y Merthyr yng nghoedwig Glasneth[1]. Mae hanes gweledigaethau Archesgob Bronescome wedi eu cyhoeddi mewn dogfen o’r 15 ganrif o’r enw Cartwlari Glasneth, sydd yng ngofal gwasanaeth archifau Cyngor Cernyw.[2]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Saif y coleg ar ben cilfach fechan. Dylanwadwyd ar rannau o'r adeilad gan bensaernïaeth Eglwys Gadeiriol Caerwysg. Cynhwysai’r coleg tri thŵr a oedd yn amddiffyn y coleg a thref Pennrynn.

Coleg Glasneth oedd y corff clerigol mwyaf yng Nghernyw, mor fawr ag unrhyw un o’r mynachlogydd o’r un cyfnod a gydag incwm cyfatebol, yn deillio'n bennaf o ddegymau rheithorol plwyfi Budhek, Colan, Lannfyek , Sen Ke, Manahan, Lannvorek, Ponsnowyth, Eglosallen, Eglosenoder, Bosheydhlann, St Goran, Lannust, Merthersydhni, a Sen Senar.[3]

Er ei faint ni fu mynachod yn byw yn y coleg, gan ei fod yn eglwys golegaidd neu’n glaseglwys oedd a phwyslais ar addysg grefyddol a hyfforddi offeiriaid plwyf[4] yn hytrach na bywyd ynysig o ddefod a gweddi. Er hynny roedd ganddi ddeuddeg o ganoniaid, saith ficer, 13 o offeiriad, 11 prebendari, profost a chwech o gantorion.

William Bodrugan oedd y Profost cyntaf gan wasanaethu o 17 Ebrill 1283 hyd 1288, pan cafodd ei ddyrchafu’n Archddiacon Cernyw.

Dramâu Miragl[golygu | golygu cod y dudalen]

Er bod defodau’r eglwys Gatholig yn cael eu cynnal trwy’r iaith Ladin cyn y 16g, roedd eglwysi yn dathlu gwyliau mabsant a gwyliau mawr eraill y calendr Cristionogol trwy berfformio dramâu miragl yn iaith y brodorion. Dramâu lle fu actorion yn perfformio storïau am fuchedd saint neu hanesion o’r Beibl. O’r dramâu miragl sydd wedi goroesi yn yr iaith Gernyweg ysgrifennwyd neu gadwyd copïau ohonynt yng Ngholeg Glasneth gan gynnwys:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]