Omaha, Nebraska
| Math | dinas fawr, dinas yn yr Unol Daleithiau, tref ddinesig |
|---|---|
| Poblogaeth | 486,051 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Jean Stothert |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Eastern Nebraska |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 367.27 km², 338.193499 km² |
| Uwch y môr | 332 ±1 metr |
| Gerllaw | Afon Missouri |
| Yn ffinio gyda | Council Bluffs, Boys Town, Chalco, La Vista, Ralston, Bellevue |
| Cyfesurynnau | 41.2586°N 95.9375°W |
| Cod post | 68101, 68102, 68103, 68104, 68105, 68106, 68107, 68108, 68109, 68110, 68111, 68112, 68114, 68116, 68117, 68118, 68119, 68122, 68124, 68127, 68130, 68131, 68132, 68134, 68135, 68136, 68137, 68138, 68139, 68142, 68144, 68145, 68152, 68154, 68157, 68164, 68172, 68175, 68176, 68178, 68179, 68180, 68182, 68183, 68197, 68198 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Omaha |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Mayor of Omaha, Nebraska |
| Pennaeth y Llywodraeth | Jean Stothert |
![]() | |
- Am ddefnyddiau eraill, gweler Omaha (gwahaniaethu).

Dinas fwyaf y dalaith Americanaidd Nebraska a sedd sirol Douglas County yw Omaha. Yn ôl cyfrifiad 2000, mae gan y ddinas poblogaeth o 390 007, ac yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2006 cynyddodd poblogaeth Omaha i 427 872, sy'n cynnwys nifer ychwanegol o tua 8300 o bobl trwy gynnwys y ddinas lai Elkhorn. Lleolir Omaha ar gwr dwyreiniol Nebraska, ar Afon Missouri, tua (30 km) i ogledd aber Afon Platte. Angor ardal fetropolitan Omaha-Council Bluffs yw Omaha. Lleolir Council Bluffs, Iowa, yn syth ar draws Afon Missouri i Omaha. Ffurfiodd y ddinas a'i maestrefi y 60fed ardal fetropolitan fwyaf yn yr Unol Daleithiau yn 2000, gydag amcangyfrif poblogaeth o 822 549 (2006)[1] yn breswyl mewn wyth sir neu tua 1.2 miliwn o fewn radiws 80 km.
Mae gan Omaha etifeddiaeth ddiwylliannol ac hanesyddol gyfoethog. Mae uchelfannau diwylliannol yn cynnwys Amgueddfa Celf Joslyn, Amgueddfa Etifeddiaeth y Gorllewin Durham, Holland Performing Arts Center, a'r Omaha Community Playhouse. Roedd yn gartref i Trans-Mississippi and International Exposition 1898, ac yn lleoliad anheddau gaeaf setlwyr Llwybr y Mormoniaid. Roedd hefyd yn lleoliad digwyddiadau pwysig yn y Mudiad Hawliau Sifil. Mae hefyd yn ganolfan busnes a restrwyd fel un o ddeg hafan uwch-dechnolegol yr Unol Daleithiau gan Newsweek yn 2001.[2] Er bod tor-gyfraith yn Omaha yn gyffelyb i ddinasoedd Americanaidd o faint tebyg, mae tensiynau hiliol a methamphetaminau[3] yn faterion cymdeithasol.
Gefeilldrefi
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Population Estimates and Components of Population Change for Iowa's Metropolitan Areas (2003 Definition): 2000-2006. State Data Centre of Iowa. Adalwyd ar 6 Gorffennaf, 2007.
- ↑ (Saesneg) Omaha Metro Data. The Greater Omaha Economic Development Council. Adalwyd ar 6 Gorffennaf, 2007.
- ↑ (Saesneg) Bonné, Jon. Scourge of the heartland. MSNBC. Adalwyd ar 6 Gorffennaf, 2007.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol Dinas Omaha Archifwyd 2006-10-23 yn y Peiriant Wayback
