Olga Grjasnowa

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Olga Grjasnowa
Olga Grjasnowa 2.jpg
Ganwyd Ольга Олеговна Грязнова Edit this on Wikidata
14 Tachwedd 1984 Edit this on Wikidata
Baku Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Yr Almaen Yr Almaen
Alma mater
  • Prifysgol Göttingen
  • Sefydliad Llenyddiaeth yr Almaen
  • Prifysgol Rhydd Berlin Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Der Russe ist einer, der Birken liebt, Die juristische Unschärfe einer Ehe Edit this on Wikidata
Arddull Nofel Edit this on Wikidata
Gwobr/au Gwobr Anna Seghers, Gwobr Adelbert von Chamisso Edit this on Wikidata

Awdur Almaenig a aned yn Baku, prifddinas Aserbaijan yw Olga Grjasnowa (ganwyd 14 Tachwedd 1984) a oedd yn 2019 yn byw yn Berlin, yr Almaen.

Fe'i ganed yn Baku ar 14 Tachwedd 1984. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Göttingen,Sefydliad Llenyddiaeth yr Almaen a Phrifysgol Rhydd Berlin. [1][2][3]

Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Der Russe ist einer, der Birken liebt a Die juristische Unschärfe einer Ehe.

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Olga Grjasnowa i deulu Rwsia-Iddewig, gyda'i thad, Oleg Grjasnow, yn gyfreithiwr a'i mam, Julija Winnikowa, yn gerddolegydd. Daeth y teulu i Hesse ym 1996 fel yr hyn a elwir yn 'ffoaduriaid cwota' (Kontingentflüchtlinge). Dechreuodd Grjasnowa ddysgu Almaeneg pan oedd yn 11 oed. Cwblhaodd ei haddysg uwchradd yn Frankfurt.

Olga Grjasnowa yn cyflwyno'i gwaith yn 2014 yng ngwyl Erlanger Poetenfest

Gan ddechrau yn 2005, dilynodd Grjasnowa radd mewn hanes celf ac astudiaethau Slafaidd ym Mhrifysgol Göttingen. Yna newidiodd gyrsiau a chfrestrodd ar gwrs "Ysgrifennu Creadigol" a gynigiwyd gan Sefydliad Llenyddiaeth yr Almaen yn Leipzig, gan ennill ei gradd baglor yn 2010. Ar ôl astudio dramor yng Ngwlad Pwyl, Rwsia (yn Sefydliad Llenyddiaeth Maxim Gorky), ac Israel, ymgymrodd Grjasnowa ag astudiaethau dawns ym Mhrifysgol Rydd Berlin.

Yn 2019 roedd yn aelod o Ganolfan PEN yr Almaen ac yn briod â'r actor o Syria Ayham Majid Agha, gydag un ferch.[4]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 2007, cymerodd Grjasnowa ran yn "Klagenfurter Literaturkurs". Derbyniodd ysgoloriaeth gan Sefydliad Rosa Luxemburg yn 2008. Cymerodd Grjasnowa ran yn y "Gweithdy Jürgen-Ponto-Writer" yn 2010 a derbyniodd wobr dramodydd WIENER WORTSTAETTEN am ei drama gyntaf Mitfühlende Deutsche (Almaenwyr Cydymdeimladol) yn yr un flwyddyn. Derbyniodd Grjasnowa hefyd ysgoloriaeth Crossing Borders gan y Robert Bosch Stiftung yn 2011 ac Ysgoloriaeth Hermann Lenz yn 2012.

Achos ei nofel gyntaf, Der Russe ist einer, der Birken liebt ('Coed Bedw Holl Gariad y Rwsiaid') gryn gyffro pan gafodd ei chyhoeddi yn 2012 ac fe'i canmolwyd gan lawer o bapurau newydd yr Almaen.[5]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Der Russe ist einer, der Birken liebt. Nofel (2012). ISBN 978-1590515846
  • Die juristische Unschärfe einer Ehe. Nofel (2014).
  • Gott ist nicht schüchtern. Nofel (2017).[6]
Llyfrau llafar
  • Der Russe ist einer, der Birken liebt. 2012.
  • Die juristische Unschärfe einer Ehe. 2014.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cyffredinol: https://libris.kb.se/katalogisering/0xbfmt0j2r657zl; LIBRIS; dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018; dyddiad cyhoeddi: 18 Ionawr 2013.
  2. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 26 Ebrill 2014Wikidata Q36578
  3. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 11 Rhagfyr 2014Wikidata Q36578
  4. (yn German) Olga Grjasnowa schreibt Roman über syrische Flüchtlinge, http://www.bz-berlin.de/kultur/mehr-kultur/olga-grjasnowa-schreibt-roman-ueber-syrische-fluechtlinge, adalwyd 2016-10-27
  5. Süddeutsche Zeitung vom 17. März 2012, Neue Zürcher Zeitung vom 13. März 2012, Zeit vom 16. Mawrth 2012, Frankfurter Allgemeine Zeitung vom 25. Februar 2012, Die Welt vom 8 Chwefror 2012
  6. Buchvorschau des Aufbau Verlags