Nun Morgan Harry

Oddi ar Wicipedia
Nun Morgan Harry
Ganwyd9 Mehefin 1800 Edit this on Wikidata
Llanbedr Felffre Edit this on Wikidata
Bu farw22 Hydref 1842 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Newport Pagnell Theological College Edit this on Wikidata
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Roedd Nun Morgan Harry (9 Mehefin, 1800 -22 Hydref, 1842) yn weinidog Cymreig gyda'r Annibynwyr ac yn ymgyrchydd heddwch.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Harry yn Llanbedr Felffre, Sir Benfro, y drydedd o bedwar mab John Harry ac Elizabeth Morgan ei wraig. Ar ôl marwolaeth ei dad ym 1804 symudodd y teulu i fyw gyda'i dad-cu, David Harry, a roddodd addysg dda iddynt. Yn 1817 ymunodd ag eglwys Annibynnol y Garfan, Henllan gan ddechrau pregethu yno yn fuan wedyn.[2]

Roedd Diana Noel, 2il Barwness Barham [3] wedi symud i fyw i Benrhyn Gŵyr ym 1813. Roedd hi'n gefnogol iawn i achosion anghydffurfiol ac wedi sefydlu ysgolion rhad, dau gapel Methodistiaid Calfinaidd a phedwar capel Annibynnwr yn yr ardal. Wedi iddi glywed am y pregethwr ifanc addawol yng Nghapel y Garfan rhoddodd nawdd i Harry mynychu coleg yng Newport Pagnell, Swydd Buckingham, lle bu'n astudio am bedair blynedd fel paratoad at y weinidogaeth.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Wedi ymadael a'r coleg galwyd Harry i fod yn weinidog ar gapel Annibynnol Banbury, Swydd Rydychen lle cafodd ei ordeinio ar 25 Ebrill 1827. Ym 1832 daeth yn weinidog ar gapel Annibynnol New Broad Street, Llundain, gan aros yno hyd ei farwolaeth.[4]

Daeth â chysylltiad agos â gwaith Cymdeithas Heddwch Llundain, ac ym 1837 etholwyd ef yn un o'i ysgrifenyddion anrhydeddus, gan ddod yn olygydd eu cylchgrawn The Herald of Peace. Cyhoeddodd hefyd gyfres o ddeuddeg darlith o'r enw What Think ye of Christ? (1832).

Roedd yn gyfaill ac yn cydweithio'n agos a'r Parchedigion David Thomas [5] a Caleb Morris,[6] dau weinidog Annibynnol Gymreig arall o Sir Benfro oedd hefyd yn gweithio yn Llundain.

Teulu[golygu | golygu cod]

Ym 1828 priododd Eliza, merch hynaf William Warlow, gweinidog y Tabernacl, Aberdaugleddau. Bu iddynt bump o blant.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw Harry ar 22 Hydref 1842 yn Llundain,[7] a chladdwyd ef ar 31 Hydref ym mynwent Abney Park, Llundain.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Owen, R. G., (1953). HARRY, NUN MORGAN (1800 - 1842), gweinidog gyda'r Annibynwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 14 Medi 2019
  2. Hanes Eglwys Carfan, Penfro, gan y Parch. L. James, Brynbank; Y Diwygiwr, rhifyn Ionawr 1898
  3. Roberts, G. M., (1953). BARHAM, DIANA (1763 - 1823), arglwyddes, noddwraig crefydd. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 14 Medi 2019
  4. Jones, R., & Baker, A. (2004, September 23). Harry, Nun Morgan (1800–1842), Independent minister. Oxford Dictionary of National Biography. adalwyd 14 Medi 2019
  5. Jones, R. (2004, September 23). Thomas, David (1813–1894), Congregational minister. Oxford Dictionary of National Biography. adalwyd 14 Medi 2019
  6. Owen, J. D., (1953). MORRIS, CALEB (1800 - 1865), gweinidog Annibynnol. Y Bywgraffiadur Cymreig Adferwyd 14 Medi 2019
  7. "FamilyNotices - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1842-10-28. Cyrchwyd 2019-09-14.