Caleb Morris

Oddi ar Wicipedia
Caleb Morris
Ganwyd12 Awst 1800 Edit this on Wikidata
Tre-groes Edit this on Wikidata
Bu farw26 Gorffennaf 1865 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Roedd Caleb Morris (12 Awst 1800 - 26 Gorffennaf 1865) yn weinidog gyda'r Annibynwyr.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Morris yn y Parcyd yn yr Eglwyswen, Sir Benfro yn blentyn i Stephen Morris, crydd, a Mary ei wraig. Roedd y teulu yn eithaf cysurus eu byd, a gyda'r olwg o'i weld yn mynd yn dwrnai rhoddwyd iddo addysg cymharol dda. Cafodd ei addysg mewn ysgol yn Aberteifi ac ysgol ramadeg Hwlffordd.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Wedi derbyn tröedigaeth efengylaidd pan oedd tua 14 mlwydd oed ymunodd Morris a'r Annibynwyr ym Mhen y Groes, Sir Benfro, a dechreuodd bregethu yn weddol fuan wedi ei dderbyn yn aelod. Wedi cyfnod o gyd weithio gyda'i dad fel crydd dychwelodd i addysg gan ddod yn efrydydd yn athrofa ragbaratoawl i ddarpar weinidogion Caerfyrddin o 1819 hyd 1822. Wedi ymadael a'r athrofa derbyniodd alwad i fod yn weinidog y Tabernacl, Arberth, lle cafodd ei ordeinio i gyflawn waith y weinidogaeth ar 2 Ebrill, 1823.[3] Bu'n weinidog yn Arberth am bedair blynedd. Ym 1827 symudodd i Lundain i fod yn weinidog cynorthwyol i'r Parch George Burder [4] yn Eglwys yr Annibynwyr Saesneg yn Fetter Lane, Llundain. Roedd Burder yn un o weinidogion mwyaf ei enwad ar y pryd. Pum mlynedd ar ôl i Morris dod yn ddirprwy iddo bu farw Burder ym 1832 a syrthiodd holl bwysau ei weinidogaeth ar Morris a oedd, o hyd, yn ŵr ifanc a gweddol ddibrofiad.

Er iddo ddod yn olynydd teilwng i'w rhagflaenydd, gyda chynulliadau mawr yn dod i wrando arno yn y capel a galwadau lluosog fel pregethwr gwadd trwy Brydain penbaladr bu'r pwysau yn ormod i'w iechyd meddwl a chorfforol. Aeth yn ôl i Sir Benfro i geisio adfer ei iechyd ym 1835 am gyfnod o chwe mis cyn rho'r gorau i'w weinidogaeth yn Llundain ym 1849.

Bu'n weinidog ar Annibynwyr Capel Eccleston, Ecclestone Square yn Llundain[5] am gyfnod fer, cyn rhoi'r gorau i'r weinidogaeth yn llwyr tua 1850. Dychwelodd i Benfro lle fu'n cadw tyddyn am weddill ei oes.

Roedd yn gyfaill ac yn cydweithio'n agos a'r Parchedigion David Thomas [6] a Nun Morgan Harry,[7] dau weinidog Annibynnol Gymreig arall o Sir Benfro oedd hefyd yn gweithio yn Llundain.


Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yng Ngwbert, Ceredigion wedi mynd yno yn yr obaith byddai gwynt y môr yn adfer ei iechyd, yn 65 mlwydd oed.[8] a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Pen y groes.[9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "MORRIS, CALEB (1800 - 1865), gweinidog Annibynnol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-23.
  2. Tywysydd y Plant Cyf. II rhif. 1 - Ionawr 1872, Caleb Morris Llundain
  3. Y Dysgedydd Crefyddol Cyf. II rhif. 9 - Medi 1823, tud 281 - Urddiad.
  4. ODNB Burder, George
  5. Evans, David Tyssil (1902). The Life and Ministry of the Rev. Caleb Morris. Alexander and Shepheard. t. 300.
  6. Jones, R. (2004, September 23). Thomas, David (1813–1894), Congregational minister. Oxford Dictionary of National Biography. adalwyd 14 Medi 2019
  7. Owen, R. G., (1953). HARRY, NUN MORGAN (1800 - 1842), gweinidog gyda'r Annibynwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 14 Medi 2019
  8. Y Diwygiwr, Medi 1865, PEIODASAU A MAEWOLAETHAU
  9. Y Dysgedydd Crefyddol, Medi 1865 MARWOLAETH CALEB MORRIS