Nostradamus
| Nostradamus | |
|---|---|
| Ganwyd | Michel de Nostredame 14 Rhagfyr 1503 Saint-Rémy-de-Provence |
| Bu farw | 2 Gorffennaf 1566 o clefyd cardiofasgwlar Salon-de-Provence |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Ffrainc |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | fferyllydd, astroleg, meddyg ac awdur, mathemategydd, meddyg, seryddwr, ysgrifennwr |
| Adnabyddus am | Prognostication |
| Tad | Jaume de Nostredame |
| Priod | Unknown, Anne Ponsarde |
| Plant | César de Notre-Dame |
| llofnod | |
Meddyg a gweledydd honedig o Ffrainc Michel de Nostredame (14 neu 21 Rhagfyr 1503 – 2 Gorffennaf 1566)[1], a adwaenir fel arfer fel Nostradamus, y fersiwn Lladineiddio o'r enw.
Mae'n fwyaf adnabyddus am ei lyfr Les Propheties, a gyhoeddwyd gyntaf ym 1555, ac sydd anaml iawn wedi bod allan o brint ers ei farwolaeth. Mae'r llyfr yn gasgliad o benillion o bedair llinell, wedi'u trefnu fel 10 set ("canrif") o 100 o benillion yr un. Mae wedi'i ysgrifennu mewn cymysgedd o Ffrangeg, Groeg, Lladin ac Ocsitaneg. Mae rhai wedi honni bod llyfr Nostradamus wedi rhagweld nifer o ddigwyddiadau hanesyddol pwysig. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o'i benillion mor aneglur ac yn ddirgel y gellir eu dehongli fel unrhyw beth y mae'r darllenydd ei eisiau, ac mae ei waith yn aml wedi cael ei gamddehongli a'i gamgyfieithu (weithiau'n fwriadol).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Leroy, Edgar (1993) [1972]. Nostradamus: Ses origines, sa vie, son oeuvre (yn Ffrangeg). Jeanne Laffitte. t. 24. ISBN 978-2-86276-231-9.