Neidio i'r cynnwys

Nodyn:Pigion/Wythnos 37

Oddi ar Wicipedia
Pigion
Llun Rhan o furiau Castell Aberystwyth
Llun Rhan o furiau Castell Aberystwyth

Lleolir Castell Aberystwyth ar graig rhwng traeth y de a thraeth y gogledd yn nhref Aberystwyth, Ceredigion. Fe'i adeiladwyd ar y safle yn 1277, ond roedd sawl castell cynharach ar y safle cyn i'r un presennol gael ei godi. Mae'r amddiffynfa cyntaf yn dyddio i Oes yr Haearn: adfeilion yn unig sydd yno bellach.

Adeiladwyd y castell presennol fel castell consentrig, o siap diamwnt, gyda phorthdy ar y ddau ben. Mae ganddo amddiffynwaith o furiau o fewn muriau a alluogai'r amddiffynwyr i saethu i lawr o uchderau amrywiol, gan helpu osgoi felly saethu cyfeillgar.

Mae'r castell ar agor i'r cyhoedd ac yn cynnwys parc hamdden a adeiladwyd yn ddiweddar gan gyngor y dref ar safle hen fynwent, mae'r hen gerrig beddau'n dal iw gweld yn sefyll ogwmpas ochrau'r parc. mwy... 


Mwy o bigion · Newidiadau diweddar

Erthyglau dewis