Nigel Shadbolt

Oddi ar Wicipedia
Nigel Shadbolt
Ganwyd9 Ebrill 1956 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwyddonydd cyfrifiadurol, prifathro, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Fellow of the Royal Academy of Engineering, Fellow of the British Computer Society, Marchog Faglor Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.cs.ox.ac.uk/people/nigel.shadbolt Edit this on Wikidata

Athro Deallusrwydd Artiffisial a phennaeth Grŵp Gwyddor y We a'r Rhyngrwydd ym Mhrifysgol Southampton yw Syr Nigel Richard Shadbolt FREng CEng CITP FBCS CPsychol (ganwyd 9 Ebrill 1956)[1]. Ef yw cadeirydd y Sefydliad Data Agored a gyd-sefydlodd gyda Syr Tim Berners-Lee.[2] O fis Awst 2015, bydd e'n cymryd swydd Prifathro Coleg yr Iesu, Rhydychen.

Mae Shadbolt yn ymchwilydd rhyngddisgyblaethol, yn arbenigwr polisi, ac yn sylwebydd. Mae wedi astudio ac wedi ymchwilio ym meysydd Seicoleg, Gwyddor Gwybyddol, Niwrowyddoniaeth Cyfriannol, Deallusrwydd Artiffisial, Gwyddoniaeth Cyfrifiadurol, a maes newydd Gwyddor y We.[3] Mae wedi cyfrannu'n sylweddol at bob un o'r disgyblaethau hyn.[4] Craidd y cyfan o'i waith yw ei ddymuniad i ddeall sut mae ymddygiad deallus yn ymgorffori ac yn ymddangos mewn bodau dynol, peiriannau, ac yn fwyaf ddiweddar ar y We.[5]

Addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd Shadbolt yn Llundain. Astudiodd am radd israddedig mewn athroniaeth a seicoleg ym Mhrifysgol Newcaslte.[5] Gafodd ei PhD o Adran Deallusrwydd Artiffisial Prifysgol Caeredin. Canlyniad y gwaith oedd creu fframwaith i ddeall sut mae deialog dynol yn cael ei drefnu.

Ymchwil[golygu | golygu cod]

Mae ymchwil Shadbolt wedi bod ym maes Deallusrwydd Artiffisial ers y 1970au diweddar[6][7] gan weithio ar rychwant o bynciau - o Ddeall Ieithoedd Naturiol a Roboteg[8] draw i Systemau Arbenigwr, Niwrowyddoniaeth Cyfriannol, Cof[9] draw i'r We Semantig[10] a Data Cysylltiedig.[11] Mae hefyd wedi ysgrifennu am oblygiadau ehangach ei ymchwil. Un enghraifft o hyn yw'r llyfr a ysgrifennodd ar y cyd â Kieron O'Hara sy'n archwilio preifatrwydd ac ymddiriedaeth yn yr Oes Ddigidol - The Spy in the Coffee Machine.[12] Mae ei ymchwil mwyaf ddiweddar yn canolbwyntio ar beiriannau cymdeithasol - deall datrys problemau newydd sy'n codi o gyfuno bodau dynol, cyfrifiaduron, a data ar y we. Mae'r prosiect SOCIAM[13] ar beiriannau cymdeithasol yn cael ei gyllido gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianegol[14]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ym 1983 symudodd Shadbolt i Brifysgol Nottingham ac yno ymunodd â'r Adran Seicoleg. Yn 2000, symudodd i Ysgol Electroneg a Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol ym Mhrifysgol Southampton.

Rhwng 2000 a 2007, bu'n arwain a chyfarwyddo Cydweithredu Ymchwil Rhyngddisgyblaethol Uwchefrydiau Technoleg Gwybodaeth.[15] Gwnaeth y cydweithrediad hwnnw gynhyrchu peth o'r ymchwil We Semantig fwyaf pwysig o'r cyfnod, fel sut gall gwybodaeth amryfal ei gynaeafu a'i integreiddio[16] a sut gall semanteg helpu systemau cyfrifiaduron argymell cynnwys.

Yn 2006 daeth Shadbolt yn Gymrawd Academi Brenhinol Peirianneg (FREng). Mae'n Gymrawd o Gymdeithas Gyfrifiadurol Prydain (FBCS), ac ef oedd ei llywydd ym mlwyddyn ei hanner-canmlwyddiant. Yr un flwyddyn, sefydlodd Nigel Shadbolt, Syr Tim Berners-Lee,[17] y Fonesig Wendy Hall, a Daniel Weitzner Fenter Ymchwil Gwyddor y We, er mwyn hyrwyddo disgybliaeth Gwyddor y We [18] ac i fagu cydweithred ymchwil rhwng Prifysgol Southampton a'r Massachusetts Institute of Technology.

Yn 2007 daeth Shadbolt yn ddirprwy pennaeth Ysgol Electroneg a Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol Prifysgol Southampton.

Arweiniodd ei ymchwil Gwe Semantig i ffurfio Garlik,[19] gan gynnig gwasanaethau ammddiffyn hunaniaeth. Yn 2008, gwobrwywyd Garlik statws Technology Pioneer gan Fforwm Economaidd y Byd yn Davos World Economic Forum, ac enillodd hefyd gwobr fawreddog UK BT Flagship IT Award. Roedd gan Garlik dros 500,000 o ddefnyddwyr pan fe'i brynwyd gan Experian ym mis Tachwedd 2011.

Ym mis Mehefin 2009 fe'i benodwyd gyda Syr Tim Berners-Lee yn Gynghorydd Gwybodaeth i lywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Arweiniai'r ddau dîm yn datblygu'r wefan data.gov.uk, un mynediad i holl ddata amhersonol cyhoeddus y DG.[20][21] Ym mis Mai 2010 fe'i benodwyd gan lywodraeth y DG i Fwrdd Tryloywder y Sector Cyhoeddus yn gyfrifol dros osod safonau data agored dros y sector cyhoeddus a thros ddatblygu'r hawl gyfreithiol i Ddata.

Ym mis Rhagfyr 2012, lansiodd Shadbolt a Tim Berners-Lee y Sefydliad 'Data Agored' yn swyddogol. Mae'n gweithio i ddeori a magu busnesau newydd sydd eisiau defnyddio data agored, hyfforddi a hyrwyddo safonau.

Yn 2013, ymunodd Shadbolt a Tim Berners-Lee â bwrdd ymgynhorwyr tech startup State.com, gan greu rhwydwaith o farnau strwythuredig ar y we Semantig.[22]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Mae Syr Nigel yn briod â Bev Saunders, sy'n gynllunydd, ac mae ganddynt ddau o blant.[1]

Gwobrau[golygu | golygu cod]

Nodiadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 SHADBOLT, Prof. Nigel Richard. Who's Who. 2014 (arg. online edition via Oxford University Press). A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc. Nodyn:Subscription required
  2. theodi.org
  3. ^ a b List of publications from Google Scholar ^ a b List of publications from the DBLP Bibliography Server
  4. "Publications | Nigel Shadbolt". Users.ecs.soton.ac.uk. 2014-03-12. Cyrchwyd 2014-03-19.
  5. 5.0 5.1 http://users.ecs.soton.ac.uk/nrs/curriculum-vitae/ Curriculum Vitae Nigel Shadbolt
  6. Nodyn:GoogleScholar
  7. Nodyn:DBLP
  8. Shadbolt, Nigel; Berners-Lee, Tim; Hall, Wendy (2006). "The Semantic Web Revisited". IEEE Intelligent Systems 21 (3): 96–101. doi:10.1109/MIS.2006.62. http://eprints.soton.ac.uk/262614/1/Semantic_Web_Revisted.pdf.
  9. Kieron O'Hara (2008). The Spy in the Coffee Machine. Oxford, England: Oneworld Publications. ISBN 1-85168-554-5.
  10. "sociam.org". sociam.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-19. Cyrchwyd 2014-03-19.
  11. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-03-19. Cyrchwyd 2014-07-15.
  12. "AKT". Aktors.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-20. Cyrchwyd 2014-03-19.
  13. "CS AKTive Space: Representing Computer Science in the Semantic Web". ePrints Soton. Cyrchwyd 2014-03-19.
  14. "garlik.com". garlik.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-14. Cyrchwyd 2014-03-19.
  15. Arthur, Charles (2010-01-21). "The Guardian 21stJan 2010". London. Cyrchwyd 2010-05-20.
  16. Berners-Lee, Tim; Shadbolt, Nigel (2010-01-21). "Guardian Data Blog 21st Jan 2010". The Guardian. London. Cyrchwyd 2010-05-20.
  17. "State.com/about". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2013-09-09. Ym mis Gorffennaf 2014 cyhoeddwyd mai Shadbolt fydd Prifathro Coleg yr Iesu, Rhydychen, yn dechrau ym mis Awst 2015 yn dilyn ymddeoliad yr Arglwydd Krebs.
  18. London Gazette: (Supplement) no. 60534. p. 2. 15 June 2013.
  19. "Birthday Honours List 2013" (PDF). HM Government. 14 June 2013. Cyrchwyd 14 June 2013.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]