Neidio i'r cynnwys

Nguyen Van Hung

Oddi ar Wicipedia
Nguyen Van Hung
Ganwyd21 Tachwedd 1958 Edit this on Wikidata
De Fietnam Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFietnam Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Sydney College of Divinity Edit this on Wikidata
Galwedigaethamddiffynnwr hawliau dynol, offeiriad Catholig Edit this on Wikidata

Mae Nguyen Van Hung (Fietnameg: Nguyễn Văn Hùng; Tsieineeg: 阮文雄; pinyin: Ruǎn Wénxióng; ganwyd 1958) yn offeiriad Catholig o Fietnam ac yn actifydd hawliau dynol yn Taiwan. Cafodd ei gydnabod gan Adran Wladwriaeth yr Unol Daleithiau fel "arwr yn gweithredu i ddod â chaethwasiaeth fodern i ben".[1]

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Magwyd Nguyen Van Hung mewn teulu dosbarth canol is nepell o Dalaith Bình Tuy yn Ne Fietnam, gyda dau frawd a phum chwaer. Pysgotwr oedd ei dad, ond bu farw ar ôl brwydr hir â salwch, gan orfodi ei fam, aelod pybyr o'r Eglwys Gatholig â gwreiddiau yng ngogledd y wlad, i ennill cyflog i'r teulu. Dilynodd Nguyen Van Hung yn ffydd ei fam.

Gadawodd Fietnam yn 1979 ar gwch gorlawn; cafodd ei achub gan long o Norwy ar ôl dim ond 36 awr a'i gludo i Japan. Ymunodd â Chymdeithas Genhadol St. Columban ar ôl iddo gyrraedd Japan.

Bu’n byw yn Japan am dair blynedd, gan astudio a chymryd amrywiaeth o swyddi i’w gynnal ei hun, gan gynnwys fel atgyweiriwr priffyrdd, gweithiwr ffatri ddur, a thorrwr beddau. Daeth i Taiwan am y tro cyntaf yn 1988 fel cenhadwr, ac wedi hynny aeth i Sydney, De Cymru Newydd, Awstralia, i astudio mewn seminar. Cafodd ei ordeinio yn 1991 a dychwelodd i Taiwan y flwyddyn ganlynol (yn 1992).

Gweithio yn Taiwan

[golygu | golygu cod]

Sefydlodd Nguyen Van Hung y Vietnamese Migrant Workers and Brides Office (Swyddfa Gweithwyr Mudol a Phriodferched Fietnam) yn Sir Taoyuan (Dinas Taoyuan erbyn hyn) yn 2004 i gynnig cymorth i fewnfudwyr o Fietnam yn Taiwan. Fe wnaeth gorsaf radio Americanaidd Fietnamaidd Little Saigon Radio ac eraill ei helpu i rentu ail lawr ysgol ramadeg; mae dwy ystafell saith deg troedfedd sgwâr yn cynnig lle cysgu, tra bod dwy arall yn cael eu defnyddio ar gyfer gofod swyddfa. Maent yn darparu dosbarthiadau Mandarin, ystafell a bwrdd, a chymorth cyfreithiol.

Oherwydd i Nguyen Van Hung amlygu cam-drin yn erbyn llafurwyr a phriodferched tramor, gosododd Adran Wladol yr Unol Daleithiau Taiwan ar ei rhestr “Haen 2” ochr yn ochr â gwledydd fel Cambodia, oherwydd diffyg ymdrech llywodraeth y wlad i frwydro'n erbyn masnachu mewn pobl. Profodd hynny'n embaras rhyngwladol mawr i lywodraeth yr ynys. Mae ei waith hefyd wedi ei wneud yn darged brawychu yn Taiwan.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]