Nathan Gill
| Nathan Gill | |
|---|---|
| Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru dros Ranbarth Gogledd Cymru | |
| Yn ei swydd 5 Mai 2016 – 27 Rhagfyr 2017 | |
| Rhagflaenwyd gan | Aled Roberts |
| Dilynwyd gan | Mandy Jones |
| Arweinydd Plaid Annibyniaeth y DU yng Nghymru | |
| Yn ei swydd 6 Rhagfyr 2014 – 26 Medi 2016 | |
| Arweinydd | Nigel Farage |
| Rhagflaenwyd gan | Sefydlwyd y swydd |
| Dilynwyd gan | Neil Hamilton |
| Aelod o Senedd Ewrop dros Gymru | |
| Yn ei swydd 1 Gorffennaf 2014 – 31 January 2020 | |
| Rhagflaenwyd gan | John Bufton |
| Dilynwyd gan | diddymwyd yr etholaeth |
| Manylion personol | |
| Ganwyd | 6 Gorffennaf 1973 Kingston upon Hull, Lloegr |
| Cysylltiadau gwleidyddol arall | Reform UK (2019-2021) Annibynnol (2018–2019) UKIP (2004–2018) Ceidwadwyr (cyn 2004) |
| Priod | Jana[1] |
| Plant | 5[2] |
| Cartref | Llangefni, Ynys Môn |
| Addysg | Coleg Menai |
| Swydd | Dyn busnes |
Cyn-wleidydd o Gymru a anwyd yn Lloegr yw Nathan Lee Gill (ganwyd 6 Gorffennaf 1973). Roedd yn Aelod Senedd Ewrop (ASE) dros etholaeth Cymru (2014-2019) ar ran Plaid Brexit. Roedd yn aelod o UKIP hyd at 6 Rhagfyr 2018 ac roedd yn aelod annibynnol o Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhwng Mai 2016 a Rhagfyr 2017.
Ym mis Medi 2025 plediodd Gill yn euog i wyth cyhuddiad o lwgrwobrwyo lle y talwyd ef i wneud datganiadau o blaid Rwsia yn Senedd Ewrop a'r cyfryngau. Ar 21 Tachwedd 2025 fe'i dedfrydwyd i ddeng mlynedd a hanner o garchar.[3]
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd Gill yn Lloegr a symudodd y teulu i Gymru yn gynnar yn y 1980au. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Menai. Ar ôl graddio ymunodd â chwmni preifat y teulu yng ngogledd ddwyrain Lloegr.[4]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn Mawrth 2004 sefydlodd Gill Burgill Ltd a'i redeg gyda'i fam Elaine. Cofrestwyd y cwmni yn Llangefni ond roedd y rhan fwyaf o weithgarwch y cwmni yn Hull, gogledd-ddwyrain Lloegr. Roedd y cwmni yn darparu gwasanaeth gofal preswyl a chartref yn bennaf i Gyngor Dinas Hull. Roedd y cwmni yn cyflogi staff amrywiol, yn bennaf yn weithwyr o ddwyrain Ewrop a'r Pilipinas, ac yr oedd yn cwmni yn rhoi dewis iddynt gael lle i fyw am dâl (math o fynciau).
Methodd y cwmni ac fe'i rhoddwyd yn nwylo'r gweinyddwr gyda cholled o £116,000 ar ôl i'r prif fanciau HSBC alw fewn eu benthyciad.
Gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]Bu'n aelod o'r Blaid Geidwadol cyn iddo ymaelodi a UKIP yn 2005.
Yn Etholiad y Cynulliad, 2016 enillodd Gill sedd yn cynrychioli rhanbarth Gogledd Cymru.[5] Ymgeisiodd am swydd arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad ond fe'i gurwyd gan y cyn-AS Ceidwadol Neil Hamilton, gyda Gill yn disgrifio y digwyddiad yn "bizarre".[6] Yn dilyn hyn gadawodd Gill grŵp UKIP yn y Cynulliad ac eistedd fel aelod annibynnol, gan haeru fod gormod o ffraeo mewnol yn y blaid.[7] Arhosodd fel aelod o'r blaid a'r arweinydd yng Nghymru, hyd nes i Neil Hamilton gael ei wneud yn arweinydd yn Medi 2016.[8]
Ar 27 Rhagfyr 2017, cyhoeddodd y byddai yn ymddiswyddo fel aelod o'r Cynulliad a byddai'r dewis nesaf ar rhestr UKIP, Mandy Jones, yn cymryd ei sedd.[9] Gadawodd plaid UKIP yn Rhagfyr 2018.[10]
Safodd Gill yng Nghaerffili yn etholiad cyffredinol 2019, a daeth yn bedwerydd gyda 11.2% o'r bleidlais.[11]
Ar 26 Mawrth 2021, cyhoeddwyd Gill yn Arweinydd Cymru dros Reform UK.[12] Roedd Gill yn ymgeisydd rhestr ranbarthol yn etholiad Senedd 2021 ar gyfer rhanbarth etholiadol Gogledd Cymru[13] ond ni chafodd ei ethol.[14] Gadawodd Reform UK yn fuan wedyn.[15]
Cysylltiadau Rwsia a dedfryd o lwgrwobrwyaeth
[golygu | golygu cod]Ym mis Mawrth 2023, datgelodd Nation.Cymru fod Gill wedi cael sawl cyfarfod gydag arweinwyr o blaid Rwsia yn yr Wcráin a Moldofa rhwng mis Mai a mis Tachwedd 2018. Trefnwyd y cyfarfodydd gan ddynion a gyhuddwyd o fod yn asiantau Kremlin.[16] Ar ôl dychwelyd o'r teithiau hyn, daeth hefyd yn aelod o fwrdd 112 Ukraine a News One, asiantaethau newyddion a gafodd eu cau lawr gan lywodraeth Wcráin.[16]
Ym mis Chwefror 2025, mynychodd Gill y llys i wynebu wyth cyhuddiad o lwgrwobrwyo ac un cyhuddiad o gynllwynio i gyflawni llwgrwobrwyo, yn dilyn ymchwiliad gan Reolaeth Gwrthderfysgaeth Heddlu Metropolitan i ddatganiadau a wnaeth yn senedd Ewrop ac i'r cyfryngau newyddion am Wcráin. I ddechrau, gwadodd y cyhuddiadau. Ymddangosodd yn yr Old Bailey ar 14 Mawrth 2025 lle nododd ei fargyfreithiwr amddiffyn Clare Ashcroft fod Gill yn bwriadu pledio'n ddieuog.[17]
Ar 26 Medi 2025 plediodd Gill yn euog i bob un o'r wyth cyhuddiad o lwgrwobrwyo rhwng 6 Rhagfyr 2018 a 18 Gorffennaf 2019, ond gwadodd un cyhuddiad o gynllwynio i gyflawni lwgrwobrwyo.[18] Clywodd y llys, ar o leiaf wyth achlysur, fod y gwleidydd o blaid y Kremlin Oleg Voloshyn wedi ei gyfarwyddo i gyhoeddi datganiadau penodol a fyddai'n "elwa Rwsia ynghylch digwyddiadau yn yr Wcráin" yn gyfnewid am daliad, yn Senedd Ewrop ac i ffynonellau newyddion o blaid Rwsia yn yr Wcráin.[18] Roedd erlynwyr yn honni, rhwng 1 Ionawr 2018 ac 1 Chwefror 2020, fod Gill wedi gweithio gyda Voloshyn ac eraill mewn cynllun i gyflawni llwgrwobrwyo, gan dderbyn "symiau o arian parod" yn ystod y cyfnod hwnnw.[18][19] Roedd y cyfanswm o arian a dderbyniodd tua £40,000.[3]
Ar 21 Tachwedd 2025, cafodd Gill ei ddedfrydu i ddeng mlynedd a hanner yn y carchar am dderbyn llwgrwobrwyon gan Rwsia.[3]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae'n byw yn Llangefni, Ynys Môn gyda'i wraig a'i bump o blant.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 David Williamson (25 May 2014). "UKIP tops poll in Conwy, Denbighshire, Flintshire and Wrexham". North Wales Daily Post. Cyrchwyd 25 May 2014.
- ↑ "Mr Nathan Gill MEP (UKIP) – Members of Parliament in Pwllypant, Caerphilly, Wales". South Wales Argus. Cyrchwyd 30 June 2014.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 "Carcharu Nathan Gill am dros 10 mlynedd am lwgrwobrwyo". BBC Cymru Fyw. 21 Tachwedd 2025. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2025.
- ↑ UKIP. "Nathan Gill". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-26. Cyrchwyd 26 May 2014.
- ↑ "Welsh Assembly election 2016 results". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2016-05-06.
- ↑ Sculthorpe, Tim (2016-05-10). "Ukip descends into civil war just six weeks before Brexit vote after disgraced Neil Hamilton defeats Nigel Farage's candidate to seize party leadership in Welsh Assembly" (yn Saesneg). Dailymail.co.uk. Cyrchwyd 2016-07-15.
- ↑ "UKIP MEP Nathan Gill told to quit as successor is 'ready'". BBC News (yn Saesneg). 29 July 2016. Cyrchwyd 2016-10-28.
- ↑ "Nathan Gill leaves UKIP assembly group to sit as independent". BBC News (yn Saesneg). 17 August 2016. Cyrchwyd 2016-10-28.
- ↑ Nathan Gill yn ymddiswyddo fel AC , BBC Cymru Fyw, 27 Rhagfyr 2017.
- ↑ ASE Cymru, Nathan Gill yn dweud ei fod yn gadael UKIP , BBC Cymru Fyw, 6 Rhagfyr 2018.
- ↑ "Caerphilly parliamentary constituency – Election 2019". BBC News. Cyrchwyd 31 March 2020.
- ↑ Reform UK Wales [@reformukwales]. "After almost a quarter of a century of one party rule it's time to reform Wales
Nathan was a leading figure in the fight to ensure UK laws are created by politicians accountable to us Now it's time to reform those laws
@NathanGillMEP
#Senedd21 #Wales2021 #ReformUK" (Trydariad). Cyrchwyd 27 March 2021 – drwy Twitter. - ↑ "2021 Senedd Election North Wales Region Statement of Persons Nominated" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-04-09. Cyrchwyd 2025-10-03.
- ↑ Mosalski, Ruth (7 May 2021). "Senedd election 2021 result for North Wales". WalesOnline.
- ↑ "Reform UK Wales leader Nathan Gill stopped being a member of the party straight after the Senedd election". Nation.Cymru. 16 March 2022.
- ↑ 16.0 16.1 "Welsh politician linked to men accused of being Kremlin agents". Nation.Cymru. 20 March 2023. Cyrchwyd 20 March 2023.
- ↑ "Ex-Reform UK Wales leader to stand trial over Russia-linked bribes". BBC News. 14 March 2025. Cyrchwyd 10 April 2025.
- ↑ 18.0 18.1 18.2 "Y cyn-wleidydd Nathan Gill yn cyfaddef cyhuddiadau llwgrwobrwyo". BBC Cymru Fyw. 2025-09-26. Cyrchwyd 2025-10-03.
- ↑ "Reform UK's ex-leader in Wales Nathan Gill pleads guilty to bribery charges". The Guardian. Cyrchwyd 26 Medi 2025.