Narges Mohammadi

Oddi ar Wicipedia
Narges Mohammadi
Narges Mohammadi
Ganwyd21 Ebrill 1972 Edit this on Wikidata
Zanjan Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Imam Khomeini International University Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Defenders of Human Rights Center Edit this on Wikidata
PriodTaghi Rahmani Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Heddwch Nobel, Per Anger Prize, Andrei Sakharov Prize, Gwobr 100 Merch y BBC, International Alexander Langer Award, Gwobr Olof Palme, Gwobr UNESCO/Guillermo Cano - Rhyddid Gweisg y Byd, Weimar Human Rights Prize Edit this on Wikidata

Newyddiadurwraig ac ymgyrchydd hawliau dynol o Iran yw Narges Mohammadi (Perseg: نرگس محمدی; ganed 21 Ebrill 1972). Enillodd Wobr Heddwch Nobel yn 2023 "am ei brwydr yn erbyn gormes menywod yn Iran ac am ei brwydr i hyrwyddo hawliau dynol a rhyddid i bawb".[1]

Ganed hi yn Zanjān, yng ngogledd-orllewin Iran, i deulu Aseraidd. Yn sgil Chwyldro Iranaidd ym 1979, cafodd rhai o aelodau ei theulu eu carcharu a'u dienyddio gan lywodraeth yr Aiatola Ruhollah Khomeini. Astudiodd ffiseg ym Mhrifysgol yr Imam Khomeini, yn Qazvīn, yn y 1990au, a bu'n wleidyddol weithgar ar y campws. Wedi iddi raddio, cychwynnodd Mohammadi ar ei gyrfa yn beiriannydd i gwmni arolygu adeiladau. Yn y brifysgol cyfarfu â Taghi Rahmani, aelod o'r mudiad democrataidd Melli Mazhabi, a phriodasant ym 1999. Cawsant efeilliaid—mab a merch—yn 2006.[2]

Dechreuodd Mohammadi ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiadau o blaid y bloc Diwygiol, gan ganolbwyntio ar hawliau dynol ac hawliau merched yn enwedig. Er i un o'r Diwygwyr, Mohammad Khatami, gael ei ethol yn arlywydd ym 1997, parhaodd erledigaeth wleidyddol gan luoedd diogelwch y wlad, a chafodd Rahmani ei garcharu dwywaith. Yn 2003 ymunodd Mohammadi â'r Ganolfan Amddiffynwyr Hawliau Dynol, a sefydlwyd gan y gyfreithiwraig hawliau dynol Shirin Ebadi yn Tehran yn 2001.

Yn 2008, yn ystod arlywyddiaeth Mahmoud Ahmadinejad, gwaharddwyd y Ganolfan Amddiffynwyr Hawliau Dynol a chynyddodd yr erledigaeth yn erbyn gwrthwynebiad i'r llywodraeth. Yn sgil y protestiadau a therfysgoedd yn 2009, cafodd Mohammadi ei harestio a chymerwyd ei phasbort oddi arni. Yn 2011, ffoes Rahmani a'u plant yn alltud i Ffrainc. Yn y blynyddoedd i ddod, câi Mohammadi ei harestio a'i chyhuddo o droseddu sawl gwaith, a fe'i carcharwyd o 2016 i 2020. Cafodd ei charcharu eto yn 2021 wedi iddi mynd i wasanaeth coffa i Ebrahim Ketabdar, ymgyrchydd a laddwyd yn ystod protest yn 2019, a fe'i cyhuddwyd o ddosbarthu propaganda yn erbyn y wladwriaeth. Ers hynny cedwir hi yn y ddalfa, ac mae wedi arwain gweithgareddau addysgol ac hamddenol ar gyfer ei chyd-garcharorion.

Enwebwyd Mohammadi ar gyfer Gwobr Heddwch Nobel yn gyntaf yn 2021, a cheisiodd yr awdurdodau yn Iran defnyddio'r enwebiad i brofi'r cyhuddiad o danseilio'r wladwriaeth. Ar 6 Hydref 2023 cyhoeddwyd hi yn enillydd y wobr. Hyhi ydy'r ail unigolyn o Iran i dderbyn y wobr ar ôl ei hen fos, Shirin Ebadi, yn 2003,[2] a'r pumed person i gael ei cyhoeddi'n enillydd tra'n gaethiwed.[3] Ar 10 Rhagfyr 2023 derbyniodd ei mab a'i merch, 17 oed, y wobr ar ran eu mam yn seremoni wobrwyo Nobel yn Oslo, Norwy, a darllenasant araith a gafodd ei ysgrifennu gan Mohammadi a'i smyglo allan o'r carchar.[4] Yn Ionawr 2024, cafodd Mohammadi ei dedfrydu i 15 mis ychwanegol o garchar gan y Llys Chwyldroadol yn Iran.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "The Nobel Peace Prize 2023", Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 15 Hydref 2023.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Narges Mohammadi. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Hudref 2023.
  3. (Saesneg) Susannah George, Paul Schemm ac Adela Suliman, "2023 Nobel Peace Prize winner is Narges Mohammadi, Iranian activist", The Washington Post (6 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Hydref 2023.
  4. (Saesneg) Francesca Gillett, "Teenage children of jailed Narges Mohammadi accept her Nobel Peace Prize", BBC (11 Rhagfyr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Ionawr 2024.
  5. (Saesneg) Lipika Pelham, "Iran sentences Nobel laureate Narges Mohammadi to additional prison term", BBC (15 Ionawr 2024). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Ionawr 2024.