Shirin Ebadi

Oddi ar Wicipedia
Shirin Ebadi
Ganwyd21 Mehefin 1947 Edit this on Wikidata
Hamadan Edit this on Wikidata
Man preswylLlundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Iran Iran
Alma mater
  • Prifysgol Tehran Edit this on Wikidata
Galwedigaethbarnwr, ysgrifennwr, amddiffynnwr hawliau dynol, ymgyrchydd heddwch, cyfreithiwr, ymgyrchydd dros hawliau merched, gwleidydd, cyfreithegwr Edit this on Wikidata
Swyddbarnwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Tehran Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Heddwch Nobel, Commandeur de la Légion d'honneur‎, Gwobr Goffa Thorolf Rafto, Gwobr Hawliau dynol Felix Ermacora, Gwobr James Parks Morton am Rannu Ffydd, doctor honoris causa Prifysgol Concordia, Doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol British Columbia, honorary doctorate of the University of Lleida, Leibniz-Ring-Hannover Edit this on Wikidata
llofnod

Awdures o Iran yw Shirin Ebadi (Persieg: شيرين عبادى‎; Širin Ebādi; ganwyd 21 Mehefin 1947) sy'n farnwr, gweithredydd dros hawliau dynol, ymgyrchydd dros heddwch, cyfreithiwr a ffeminist.

Fe'i ganed yn Hamadan (poblogaeth: 473,149) ar 21 Mehefin 1947. Roedd Ebadi yn byw yn Tehran, ond mae wedi bod yn alltud yn y DU ers Mehefin 2009 oherwydd y cynnydd yn erledigaeth dinasyddion o Iran sy'n feirniadol o'r drefn bresennol.[1][2][3][4][5][6]

Mae Shirin Ebadi yn cefnogi polisi "y pwysedd mwyaf" ar Iran ac mae wedi galw dro ar ôl tro am sancsiynau gan y Gorllewin yn erbyn Iran. Mae Ebadi yn gefnogol i raglen olew-am-fwyd ar gyfer Iran lle na all Iran ond derbyn bwyd a chyffuriau o'r tu allan yn gyfnewid am olew.

Yn 2004, fe'i rhestrwyd gan y cylchgrawn Forbes fel un o'r "100 merch mwwyaf pwerus yn y byd".[7]

Gwobr Heddwch Nobel[golygu | golygu cod]

Ar 10 Hydref 2003, dyfarnwyd Gwobr Heddwch Nobel i Ebadi am ei hymdrechion sylweddol ac arloesol am ddemocratiaeth a hawliau dynol, yn enwedig hawliau menywod, plant, a ffoaduriaid. Hi oedd y fenyw gyntaf, a'r Mwslim cyntaf yn Iran i gael y wobr, ac roedd miloedd o Iraniaid yn ei chyfarch yn y maes awyr pan ddychwelodd o Baris wedi iddi ennill y wobr. Mynnodd Arlywydd Iran ar y pryd, sef Mohammad Khatami fod rhoi'r Wobr iddi yn gynllwyn gwleidyddol.[8][9]

Yn 2009, cyhoeddodd Gweinidog Tramor Norwy, Jonas Gahr Støre, ddatganiad yn adrodd bod Gwobr Heddwch Nobel Ebadi wedi cael ei hatafaelu gan awdurdodau Iran ac "mai dyma'r tro cyntaf i Wobr Heddwch Nobel gael ei hatafaelu gan wladwriaeth sofran." Gwadodd Iran yr honiadau hyn.[10]

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Menter Merched Nobel am rai blynyddoedd. [11][12]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Heddwch Nobel (2003), Commandeur de la Légion d'honneur‎, Gwobr Goffa Thorolf Rafto (2001), Gwobr Hawliau dynol Felix Ermacora, Gwobr James Parks Morton am Rannu Ffydd (2004), doctor honoris causa Prifysgol Concordia, Doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol British Columbia, honorary doctorate of the University of Lleida (2018), Leibniz-Ring-Hannover (2004)[13] .


Llyfrau a gyhoeddwyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb14551896x. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb14551896x. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 13 Hydref 2015. "Schirin Ebadi". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Schirin Ebadi". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Shirin Ebadi".
  4. Grwp ethnig: https://web.archive.org/web/2/https://www.zeitoons.com/28016.
  5. "Shirin Ebadi: The Activist in Exile". Newsweek. 30 Mawrth 2010. Cite magazine requires |magazine= (help); Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  6. Anita Kirpalani (1 Awst 2010). "A Q&A with Nobel Laureate Shirin Ebadi". Newsweek. Cite magazine requires |magazine= (help); Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  7. "Forbes.com: Forbes 100 Most Powerful Women in the World 2004". archive.is. 30 Gorffennaf 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Gorffennaf 2012. Cyrchwyd 19 Ionawr 2019. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  8. Ramin Mostaghim (1 Tachwedd 2003). "Words of advice from peace laureate". Teheran: Asia Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-09-13. Cyrchwyd 2019-05-25.
  9. Shirin Ebadi (10 Ebrill 2007). Azadeh Moaveni (gol.). Iran Awakening: One Woman's Journey to Reclaim Her Life and Country. Random House. tt. 256. ISBN 9780812975284.
  10. "Norway says Iran confiscated Ebadi's Nobel". Reuters. 27 Tachwedd 2009. Cyrchwyd 26 Ebrill 2009.
  11. Aelodaeth: https://nobelwomensinitiative.org/laureate/. dyddiad cyrchiad: 9 Mawrth 2019.
  12. Anrhydeddau: https://www.nobelprize.org/nobel_prizes/about/amounts/.
  13. https://www.nobelprize.org/nobel_prizes/about/amounts/.