Nans Jones
Gwedd
Nans Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1915 Penrhosgarnedd |
Bu farw | 18 Mai 2009 |
Man preswyl | Bangor, Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Plaid Wleidyddol | Plaid Cymru |
Roedd Nans Jones neu Annie Mary Jones (1915 – 18 Mai 2009)[1] yn swyddog cyflogedig llawn amser i Blaid Cymru o 1942 hyd ei hymddeoliad yn 1979.
Cafodd ei geni yn Nhafarn Newydd, Penrhosgarnedd ger Bangor yn 1915. Symudodd y teulu yn fuan i Treborth. Ymunodd â Phlaid Cymru yn 15 oed bum mlynedd ar ôl ffurfio'r Blaid. Ar ôl gweithio mewn siop ym Mangor daeth yn gyfrifydd i Blaid Cymru yn 1942, yn y pencadlys bryd hynny yng Nghaernarfon. Yn 1947 symudwyd y Pencadlys i Gaerdydd a gadawodd Nans y Gogledd.
Roedd yn gyfarwydd iawn a'r prif aelodau - Saunders Lewis, Lewis Valentine a D. J. Williams gan gynnal ysgwyddau J.E. Jones a Gwynfor Evans ar adegau anodd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Colofn marwolaeth. Daily Post (28 Mai 2009). Adalwyd ar 1 Chwefror 2016.