NECACO Llanberis

Oddi ar Wicipedia
NECACO Llanberis
Mathbusnes Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru

Mae hanes gweithfeydd NECACO yn Llanberis yn yr Ail Ryfel Byd yn dechrau ym maes awyr Croydon gyda chwmni Rollason Aircraft Services. Ym mis Mawrth 1940, hysbysebwyd Rollason am Reolwr i ofalu am weithfa sydd eisoes yn cynhyrchu mân ddarnau a phrif ddarnau o awyrennau metel.

Y cyfranddaliwr mwyaf yn Rollason oedd Hunting Aircraft Services. Ym mis Hydref 1941, cafwyd gwared â'r enw Rollason ac ymunwyd hi â chwmni o'r enw Field Consolidated Aircraft Services Ltd, un o gwmnïoedd eraill Hunting, a gafodd ei brynu ym 1938 ganddo.

Ar 15 Awst 1940 tua 7:00YH, ar anterth y rhyfel, anelodd pymtheg o awyrennau Erprobungsgruppe 210 at RAF Kenley trwy gamgymeriad, gan ollwng eu bomiau ar Croydon ac achosi marwolaethau 62 o sifiliaid a 6 o’r gwasanaethu milwrol. Dinistriwyd rhan helaeth o weithfeydd Rollason yn ogystal. Collodd yr Almaenwyr saith o’u niferoedd yn y deng munud nesaf.

Ar 27 Awst, teithiodd Peter Hunting, cadeirydd Grŵp Hunting, i Gaernarfon i gwrdd â David Lloyd George AS a Goronwy Owen AS, a Maer a Chlerc y Dref. Wedyn, cwrddont ag O.T. Williams, y rheolwr cyffredinol yn Chwarel Dinorwig. Ar ôl archwilio cyfleusterau o gwmpas Caernarfon, penderfynwyd symud y gwaith o Croydon i Chwarel Dinorwig yn Llanberis.

Cofrestrwyd yr enw NECACO (Cwmni Awyren Arfordir y Gogledd-ddwyrain) gan Huntings cyn i'r Ail Ryfel Byd ddechrau, gyda'i swyddfa gofrestredig ym Milburn House, Newcastle upon Tyne. Mae’n ymddangos yr adfywiwyd yr enw ar gyfer y gweithfeydd cynhyrchu a oedd i'w sefydlu yn Llanberis.

Rhentwyd dwy sied (a ddefnyddiwyd yn flaenorol i gynhyrchu llechen to) oddi ar Chwarel Dinorwig, un oddeutu 560 troedfedd o hyd ac un arall tua 180 troedfedd o hyd. Drosglwyddwyd offerynnau a ‘jigs’ o Croydon, a’r rhai cyntaf a osodwyd oedd cynhyrchu adain i’r awyren Boulton Paul Defiant. Pan yr oedd yn gwbl weithredol, roedd y cyfleusterau yn cynhyrchu darnau i awyrennau Halifax, Wellington, Lancaster, a Stirling a chyrhaeddwyd cynhyrchu llawn tua diwedd 1942.

Roedd dwy shifft o ddeuddeg awr yr un, y naill rhwng 7.30 y bore tan 7.30 y nos a'r llall rhwng 7.30 y nos tan 7.30 y bore, gyda gweithwyr yn newid bob bythefnos. Byddai merched yn ennill swllt yr awr, ond codwyd hwn i swllt a thair ceiniog yr awr; a dynion yn ennill dau swllt a chwe cheiniog yr awr. Cafodd tua 3,000 o bobl eu hyfforddi gan NECACO yn ardal Caernarfon, ac mae hyn yn awgrymu fod pob shifft tua rhyw 1000 o bobl o ran nifer. Roedd gweithwyr yn cael eu bysio i mewn o bob cwr o Sir Gaernarfon a Sir Fôn.

Ym 1944, roedd NECACO yn hysbysebu'r canlynol, "Mae ein sefydliad yn cynnwys cynllunio, offerennau cyflawn, gweithgynhyrchu a gwasanaeth o bob math o gydrannau, mawr neu fach." Yn ogystal â Field Consolidated Aircraft Services Ltd, roeddent hefyd yn dangos Tollerton Aircraft Services fel cwmni cysylltiedig, sefydliad gyda gwaith atgyweirio awyrennau yn ardal Nottingham.

Ym mis Medi 1944, prynwyd y cwmni Percival Aircraft Co yn gyfan gwbl gan Hunting am swm o £180,000, gan gynnwys eu cyfleusterau gweithgynhyrchu ym maes awyr Luton. Wrth i'r rhyfel ddod i'w phen ym 1945 a nifer fawr o gontractau cynhyrchu awyrennau yn cael eu cau a dod i'w pennau, mae'n ymddangos yn debygol y symudwyd gweddill gwaith cynhyrchu NECACO i Luton.

Hefyd, mae gwybodaeth fod rhai o’r gweithwyr wedi symud o Lanberis i Luton ar ôl cau NECACO. Yn dilyn hynny ar ôl diflaniad yr awyren TSR2 a chau y BAC Hunting Group yn Luton ym 1965, symudwyd y lein awyrennau Jet Provost / Strikemaster i BAC Warton yn Swydd Gaerhirfryn ; fe roedd lleisiau Cymraeg yw clywed yn Warton am flynyddoedd wedi hynny.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • Reg Chambers Jones - Dinorwic, The Llanberis Slate Quarry 1780-1969.
  • Cylchgrawn Flight - amrywiol 1940-1945.