Muriau Gwyddelod

Oddi ar Wicipedia
Muriau Gwyddelod
MathSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd18.83 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.849868°N 4.106927°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Safle archaeolegol a chadwraethol yn ardal Ardudwy, Gwynedd yw Muriau Gwyddelod, sydd wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SoDdGA neu SSSI) ers 08 Ebrill 2011 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae ei arwynebedd yn 18.83 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle. Saif Muriau Gwyddelod tua tri-chwarter milltir i'r de o Harlech a hanner milltir o arfordir Bae Ceredigion.

Hynafiaethau[golygu | golygu cod]

Ochr yn ochr ar y safle mewn ardal eang o gaeau teras cynhanesyddol ceir dau "bentref" bychan sy'n dyddio o Oes yr Haearn. Mae un yn cynnwys tri chwt crwn sy'n wynebu i mewn ar fath o fuarth gyda muriau o gerrig. Mae'r llall yn iard 12 meter ar draws sy'n cynnwys un cwt. Mae'r ddau drigfan hyn yn cael eu hangylchynu gan furiau sy'n eu cysylltu ac yn eu hamgau o fewn corlan fawr sy'n ffurffio canolbwynt y system o gaeau hynafol o'i chwmpas.[2]

Math o safle[golygu | golygu cod]

Dynodwyd y safle ar sail ei fywyd gwyllt, er enghraifft grwpiau tacsonomegol megis adar, gloynnod byw, madfallod, ymlusgiaid neu drychfilod. Mae safleoedd bywyd gwyllt fel arfer yn ymwneud â pharhad a datblygiad yr amgylchedd megis tir pori traddodiadol.

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Mae SoDdGA yn cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd, gan gynnwys ffeniau bach, dolydd ar lannau afonydd, twyni tywod, coetiroedd ac ucheldiroedd. Mae'n ddarn o dir sydd wedi’i ddiogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 am ei fod yn cynnwys bywyd gwyllt neu nodweddion daearyddol neu dirffurfiau o bwysigrwydd arbennig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru (bellach 'Cyfoeth Naturiol Cymru'); Archifwyd 2014-01-01 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 25 Rhagfyr 2013
  2. Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber and Faber, 1978).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]