Mur Mawr Gwyrdd

Oddi ar Wicipedia
Mur Mawr Gwyrdd
Enghraifft o'r canlynolprosiect Edit this on Wikidata
LleoliadSahel Edit this on Wikidata
Prif bwncamrywioldeb yr hinsawdd, diffeithdiro, coedwigo Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.grandemurailleverte.org/, http://www.grandemurailleverte.org/, http://www.grandemurailleverte.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llun lloeren o'r Sahara.

Mae'r Mur Mawr Gwyrdd neu Fur Mawr Gwyrdd y Sahara a'r Sahel (Ffrangeg: Grande muraille verte pour le Sahara et le Sahel, Saesneg: Great Green Wall of the Sahara and the Sahel) yn fenter flaenllaw Affrica i frwydro yn erbyn cynyddu'r anialwch. O dan arweiniad yr Undeb Affricanaidd, nod y fenter yw trawsnewid bywydau miliynau o bobl trwy greu brithwaith o dirweddau gwyrdd a ffrwythlon ledled Gogledd Affrica.

Y syniad gwreiddiol oedd llinell o goed o'r dwyrain i'r gorllewin yn ffinio Anialwch y Sahara. Mae nod y Mur Mawr Gwyrdd wedi esblygu i fod yn fosaig o ymyriadau sy'n mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r bobl yn y Sahel a'r Sahara.[1] Mae'n rhaglen o ddatblygiad gwledig, gyda nod cyffredinol y bartneriaeth i gryfhau hydwythedd rhanbarthol a systemau naturiol gyda rheolaeth gadarn ar yr ecosystem, amddiffyn treftadaeth wledig, a gwell amodau byw.

Mae'r prosiect yn ymateb i effaith gyfunol sychder a diraddio adnoddau naturiol mewn ardaloedd gwledig.[2] Mae'n bartneriaeth sy'n cefnogi cymunedau sy'n gweithio tuag at reolaeth gynaliadwy a defnydd coedwigoedd ac adnoddau naturiol eraill. Mae'n ceisio helpu cymunedau i addasu at newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â gwella diogelwch bwyd.

Disgwylir i boblogaeth y Sahel ddyblu erbyn 2039, sydd wedi ychwanegu brys at y prosiect.[1]

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn y 1950au gwnaeth yr archwiliwr Prydeinig Richard St. Barbe Baker alldaith yn y Sahara. Yn ystod yr alldaith 25,00 milltir cynigiodd "ffrynt gwyrdd" i weithredu fel byffer coed 30 milltir i ddal nôl yr anialwch a oedd yn ehangu.[2] Ail-ymddangosodd y syniad yn 2002, yn yr uwchgynhadledd arbennig yn N'Djamena, prifddinas Tsiad, ar achlysur Diwrnod y Byd i Frwydro yn Erbyn Diffeithdirio a Sychder. Fe'i cymeradwywyd gan Arweinwyr y Gynhadledd ac aelodau'r Gymuned Gwladwriaethau Sahel-Sahara yn ystod eu seithfed sesiwn a gynhaliwyd yn Ouagadougou, prifddinas Bwrcina Ffaso, ar 1–2 Mehefin 2005.[3] Cymeradwyodd yr Undeb Affricanaidd ef yn 2007 fel "Mur Mawr Gwyrdd y Sahara a Menter y Sahel" (GGWSSI).[4]

Arweiniodd gwersi a ddysgwyd o Argae Gwyrdd Algeria[5] a Mur Gwyrdd Tsieina at ddull amlsector integredig.[6] Menter plannu coed yr oedd yn wreiddiol, a esblygodd y prosiect yn rhaglen o ddatblygiad. Yn 2007, cyfarwyddodd CHSG y prosiect i fynd i'r afael ag effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol dirywiad tir a chynyddu'r anialwch. Wedi hynny, creodd y gwledydd Burkina Faso, Jibwti, Eritrea, Ethiopia, Mali, Mawritania, Niger, Nigeria, Senegal, Swdan a Chad yr Asiantaeth Led-Africanaidd y Mur Mawr Gwyrdd (PAGGW).[3]

Yn 2014, lansiodd yr Undeb Ewropeaidd a Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig, mewn cydweithrediad â phartneriaid Affricanaidd eraill, y rhaglen Gweithredu yn Erbyn Cynnydd yr Anialwch, i adeiladu ar y prosiect Mur Mawr Gwyrdd.[7] Creodd Nigeria asiantaeth dros dro i gefnogi datblygiad y Mur Mawr Gwyrdd.[8]

Erbyn 2016, roedd tua 15 y cant o'r ardal targed wedi'i blannu.[9] Yn 2016, roedd gan 21 o wledydd brosiectau yn ymwneud â'r Mur Mawr Gwyrdd, gan gynnwys adfywiad naturiol a gefnogir gan ffermwyr.[10]

Prif egwyddorion[golygu | golygu cod]

Mae'r prosiect yn cwmpasu'r llain Sahara, ei ffiniau gogledd a de, gan gynnwys gwerddonau'r Sahara, a llefydd fel Cabo Verde. Mae'r Mur Mawr Gwyrdd yn bwriadu cryfhau'r mecanweithiau presennol i wella eu heffeithlonrwydd trwy synergedd a gweithgareddau gydlynu. Mae'r prosiect $8 biliwn yn bwriadu adfer 100 miliwn hectr (1 miliwn km²) o dir diraddiedig erbyn 2030, a fyddai'n creu 350,000 o swyddi gwledig ac yn amsugno 250 miliwn o dunelli o CO2 o'r awyrgylch.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Puiu, Tibi (2019-04-03). "More than 20 African countries are planting a 8,027-km-long 'Great Green Wall'". ZME Science (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-04-16.
  2. 2.0 2.1 "The Man of the Trees and the Great Green Wall: A Baha'i's Environmental Legacy for the Ages". Wilmette Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 November 2015.
  3. 3.0 3.1 Grande Muraille Verte.
  4. "Action Against Desertification". Food and Agriculture Organization (FAO) of the UN. Cyrchwyd 1 September 2019.
  5. Saifi, Merdas (2015). "The Green Dam in Algeria as a tool to combat desertification". Planet@Risk (Davos: Global Risk Forum) 3 (1): 68–71. ISSN 2296-8172.
  6. Harmonized regional strategy for implementation of the "Great Green Wall Initiative of the Sahara and the Sahel", http://www.fao.org/fileadmin/templates/europeanunion/pdf/harmonized_strategy_GGWSSI-EN_.pdf, adalwyd 12 March 2017
  7. "Background". Action Against Desertification. FAO. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 November 2015.
  8. "Nigeria creates agency for 'Great Green Wall' project". Premium Times. 9 September 2014. Cyrchwyd 1 September 2019. The Federal Government has approved the establishment of the Interim Office of the National Agency for the Great Green Wall, GGW.
  9. Helen Palmer (2 May 2016). "Africa's Great Green Wall is making progress on two fronts". PRI. Public Radio International. Cyrchwyd 1 September 2019.
  10. Jim Morrison (23 August 2016). "The "Great Green Wall" Didn't Stop Desertification, but it Evolved Into Something That Might". Smithsonian.com. Smithsonian. Cyrchwyd 1 September 2019.