Mort Sahl

Oddi ar Wicipedia
Mort Sahl
Llun gyhoeddusrwydd o Mort Sahl o 1960.
Ganwyd11 Mai 1927 Edit this on Wikidata
Montréal Edit this on Wikidata
Bu farw26 Hydref 2021 Edit this on Wikidata
Mill Valley Edit this on Wikidata
Label recordioMercury Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCanada Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdigrifwr, newyddiadurwr, actor Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadIrwin Corey Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.mortsahlfake.com Edit this on Wikidata

Digrifwr Canadaidd-Americanaidd oedd Morton Lyon Sahl (11 Mai 192726 Hydref 2021) a oedd yn amlwg am ei gomedi stand-yp wleidyddol.

Ganed ef ym Montréal, Canada, i deulu Iddewig. Symudodd y teulu i Los Angeles, Califfornia, pan oedd Mort yn 7 oed, ac yno gweithiodd ei dad yn glerc i Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau ac yn ddiweddarach yr FBI. Wedi iddo adael yr ysgol, gwasanaethodd yn Lluoedd Awyr Byddin yr Unol Daleithiau yn Alaska a'r Cefnfor Tawel ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Wedi'r rhyfel, astudiodd rheolaeth ddinesig a pheirianneg trafnidiaeth ym Mhrifysgol De Califfornia.[1]

Symudodd Sahl i ardal San Francisco yn nechrau'r 1950au, a bu'n byw yn ei gar am gyfnod wrth iddo gychwyn ar ei yrfa comedi. Daeth i'r amlwg yn y sîn gomedi wedi iddo gael ei gyfle ar lwyfan yr hungry i, prif glwb y diwylliant bohemaidd yn San Francisco. Byddai'n aml yn dwyn papur newydd yn ei law ar y llwyfan, ac yn perfformio'i fonolog cyfoes fel petai'n myfyrio wrth ddarllen straeon y diwrnod. Rhyddhawyd ei record gomedi gyntaf, Mort Sahl At Sunset, ym 1959 (er iddi gael ei recordio yn ôl ym 1955), a chafodd lwyddiant mawr gyda Mort Sahl at the Hungry I ym 1960. Daeth yn wyneb gyfarwydd ar sioeau sgwrsio a rhaglenni teledu comedi, ac ymddangosodd mewn ambell ffilm. Yn y 1950au, prif gyff gwawd Sahl oedd y weinyddiaeth Weriniaethol dan yr Arlywydd Dwight D. Eisenhower a'r Is-arlywydd Richard Nixon. Bu ar anterth ei yrfa wrth ladd ar y sefydliad sychlyd yn Washington, D.C., fel arfer o safbwynt rhyddfrydol. Cyd-gyflwynodd seremoni wobrwyo Gwobrau'r Academi ym 1959, ac ymddangosodd ar glawr y cylchgrawn Time ym 1960.[1]

Cafodd dro yn ei yrfa yn sgil ethol John F. Kennedy yn arlywydd ym 1960. Roedd Sahl ei hun yn gefnogwr brwd o Kennedy, ac felly bu'n anodd iddo fe, yn ogystal â'i gynulleidfa ryddfrydol, chwerthin ar ei ben. Pallai chwant y cyhoedd am ddychan gwleidyddol wedi i Kennedy gael ei saethu'n farw ym 1963, ac yn waeth fyth byddai Sahl yn obsesu am y llofruddiaeth am flynyddoedd. Ymchwiliodd i'r amryw ddamcaniaethau cydgynllwyniol ynglŷn â llofruddiaeth Kennedy, a chymerai seibiau o'i deithiau comedi er mwyn cyfweld â thystion yr achos. Byddai'n dilorni Comisiwn Warren ac yn honni yn gyhoeddus fod y CIA yn gyfrifol am y cynllwyn i ladd yr arlywydd, ac o ganlyniad na châi ei wahodd yn ôl i'r sioeau sgwrsio. Yn ei hunangofiant chwerw, Heartland (1976), haerai Sahl bod cynllwyn hyd yn oed yn gyfrifol am y cwymp yn ei yrfa.

Cafodd Sahl rywfaint o ddychweliad i fyd comedi yn sgil sgandal Watergate, ond nid oedd ei arddull o gomedi wleidyddol, a fu ar un pryd yn chwyldroadol, bellach yn unigryw iddo. Byddai'n perfformio ar deithiau yn rheolaidd hyd at ei henaint, ac yn ei nawdegau bu'n ymddangos ar y llwyfan pob wythnos mewn theatr ger ei gartref ym Mill Valley, ger San Francisco, yn dweud jôcs am yr Arlywydd Donald Trump. Cafodd dair wraig, ac un mab. Bu farw Mort Sahl yn ei gartref ym Mill Valley, Califfornia yn 94 oed.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "Mort Sahl, stand-up comedian whose laid-back monologues made political satire cool – obituary", The Daily Telegraph (28 Hydref 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 28 Hydref 2021.
  2. (Saesneg) Bruce Weber, "Mort Sahl, Whose Biting Commentary Redefined Stand-Up, Dies at 94", The New York Times (26 Hydref 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 26 Hydref 2021.