Moelfre (Rhinogydd)
![]() | |
Math | copa, bryn ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | y Deyrnas Unedig ![]() |
Uwch y môr | 589 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 52.8013°N 4.0392°W ![]() |
Cod OS | SH6262324592 ![]() |
Manylion | |
Amlygrwydd | 162 metr ![]() |
Rhiant gopa | Y Llethr ![]() |
Cadwyn fynydd | Rhinogydd ![]() |
![]() | |
- Mae'r mynydd hwn yn rhan o fynyddoedd Rhinogau; am fynyddoedd eraill o'r un enw gweler yma.
Mae Moelfre yn gopa mynydd a geir yn y Rhinogydd rhwng y Bermo a Betws-y-Coed a'r Bala; cyfeiriad grid SH626245. Saif tua thair milltir o bentref Dyffryn Ardudwy a 10 milltir o Harlech - ar ochr orllewinol y Rhinogau, gyda chopaon Y Llethr a Diffwys i'r dwyrain ohono. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 427metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn (mynydd) a Dewey. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 589m (1932tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 30 Mehefin 2007.
Ceir chwedl o'r ardal yma am dri pherson a weithiodd ar y Sabath ac a gosbwyd trwy eu troi'n dri maen hir.
Delweddau[golygu | golygu cod]
Y copa amlwg ydy Mynydd Moelfre; tynnwyd y llun o'r hen chwarel yng Nghwm Nantcol.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o Gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'
Dolennau allanol[golygu | golygu cod]
- Clwb Mynydda Cymru
- Lleoliad ar wefan Streetmap Archifwyd 2011-05-24 yn y Peiriant Wayback.
- Lleoliad ar wefan Get-a-map Archifwyd 2011-05-24 yn y Peiriant Wayback.