Moc Morgan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Moc Morgan
Ganwyd 7 Tachwedd 1928 Edit this on Wikidata
Pontrhydfendigaid Edit this on Wikidata
Bu farw 26 Mai 2015 Edit this on Wikidata (86 oed)
Achos: canser Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth cyflwynydd teledu, naturiaethydd, pysgotwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Pysgotwr, naturiaethwr a darlledwr Cymreig oedd Morgan John "Moc" Morgan OBE (7 Tachwedd 192925 Mai, 2015).[1] Roedd yn athro a phrifathro ond daeth i sylw'r cyhoedd yn bennaf oherwydd ei gariad tuag at bysgota plu. Darlledodd am bysgota a bywyd cefn gwlad ar radio a theledu ac ysgrifennodd nifer o lyfrau awdurdodol am bysgota yn Gymraeg a Saesneg. Ef oedd cadeirydd cyntaf Ffederasiwn Pysgotwyr Cymru a bu'n weinyddwr i gymdeithasau pysgota ar lefel Gymreig, Brydeinig ac Ewropeaidd. Fe'i disgrifiwyd gan y darlledwr Lyn Ebenezer fel dyn unigryw, "Roedd e’n ddyn anhygoel, mwya’n y byd o ddyletswyddau oedd e’n gael, hapusa’i gyd oedd e." [2]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Moc yn Noldre, Tregaron, Ceredigion, yr ail hynaf allan o bump o blant.[3] Yn ddyn ifanc, gweithiodd ar fferm fynydd ond wedi gadael addysg uwchradd aeth i Goleg y Drindod. Ar ôl cwblhau ei addysg cwblhaodd ei wasanaeth milwrol cyn dychwelyd i Gymru fel athro yn Ysgol Pontrhydfendigaid.[4] Daeth yn brifathro yno ac yn ddiweddarach symudodd i swydd prifathro yn Ysgol Gynradd Llanbedr Pont Steffan.[4]

Magwyd Moc mewn ardal cefn gwlad gydag arferion traddodiadol yn cynnwys hela a saethu, ond pysgota oedd wrth fodd Moc yn bennaf. Yn blentyn, cafodd arweiniad a chyngor gan y pysgotwr adnabyddus lleol, Dai Lewis, a sgrifennodd Moc amdano yn y llyfr Yng Nghysgod Dai (1967). Disgrifiwyd Lewis gan Moc fel "un o gewri'r byd pysgota", a phrynodd drwydded pysgota cyntaf i Moc a gadael iddo ei ddilyn ar nifer o'i deithiau pysgota.[3]

Fel oedolyn byddai Moc yn parhau ei gariad at bysgota ac er yn gweithio fel athro, fe fyddai Moc yn treulio ei amser cinio, teithiau adre o'r ysgol ac ymlaen i'r nos yn pysgota yn yr afonydd lleol.[3] Ei hoff bysgodyn oedd y brithyll, ac fe fyddai yn treulio ei hafau ar lan yr Afon Teifi wrth iddyn nhw ddychwelyd i silio. Fe basiodd ei gariad o bysgota i'w fab Hywel, a daeth e yn bencampwr castio Ewrop a'r Byd.[5]

Yn y 1960au gwahoddwyd Moc ymlaen i raglen deledu Cymraeg i drafod ei ddiddordeb. Arweiniodd hyn at y cyfle iddo gyflwyno rhaglen radio ar Radio Cymru o'r enw Bywyd Cefn Gwlad. Yn ddiweddarach cafodd gyfresi teledu ar S4C a chyflwynodd y cyfresi Gwlad Moc a Byd Moc.[3] Yn 2014 darlledwyd rhaglen ddogfen tri rhan amdano ar S4C.[6] Roedd yn awdur nodedig ar faterion cefn gwlad a physgota plu. Ysgrifennodd ei hunangofiant Byd Moc yn Gymraeg yn ogystal â sawl cyfrol yn Saesneg, yn cynnwys Fly Patterns for the Rivers and Lakes of Wales (1984) a Trout and Salmon Flies of Wales (1996).[7] Yn hwyrach yn ei fywyd, cyfrannodd i golofn ym mhapur newydd y Western Mail.[5]

Ym Mehefin 1986 roedd y cyn-arlywydd Americanaidd Jimmy Carter a'i wraig Rosalyn yn ymweld â ffrindiau yng nghanolbarth Cymru. Roedd Carter yn bysgotwr plu brwd a gofynnodd am dywysydd lleol - awgrymwyd Moc iddo. Fe dreuliodd y ddau'r prynhawn yn pysgota ac ychydig ddyddiau yn ddiweddarach cyfarfu'r ddau eto i bysgota am frithyll seithlliw ar lyn lleol.[3] Yn 1991, derbyniodd Moc OBE ar ôl trefnu Pencampwriaeth Pysgota Plu'r Byd yng Nghymru.[4]

Yn ei flynyddoedd hwyrach, daeth Moc yn weinyddwr yn y byd pysgota. Roedd yn llywydd y Gymdeithas Pysgota Plu Rhyngwladol deirgwaith a phennaeth Pysgota Plu i'r Anabl. Roedd yn gweld pysgota fel diddordeb amser hamdden i bawb ac roedd yn gefnogol iawn o gael merched a phlant i fwynhau'r gamp. Roedd yn gadeirydd a llywydd Cymdeithas Pysgota Eog a Brithyll Cymru.[3] Roedd Moc hefyd yn gadeirydd Ffederasiwn Pysgotwyr Cymru.[4]

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu Morgan yn briod ddwywaith. Ei wraig gyntaf oedd Meirion ac roedd ganddynt un mab, Hywel. Bu farw Meirion o ganser yn 2006, a phriododd Morgan eto i Julia, gan symud i fyw yn Aberystwyth.[5] Rhai blynyddoedd cyn ei farwolaeth, canfuwyd fod canser arno, a bu farw yn ei gartref ar fore Llun, 25 Mai 2015.[3][4]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Fishing (1977)
  • Fly Patterns for the Rivers and Lakes of Wales (1984)
  • Successful Sea Trout Angling: The Practical Guide (1989) gyda Graeme Harris
  • Fishing in Wales: A guide to the lakes & rivers of rural Wales (1990)
  • Trout and Salmon Flies of Wales (1996)
  • Arweinlyfr Pysgotwyr i Bysgota yn Ardal Tregaron (1999) gyda Robert Allen
  • Byd Moc, Gwasg Carreg Gwalch (2012). Hunangofiant.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Colofn Marwolaethau. Media Wales (27 Mai 2015). Adalwyd ar 1 Chwefror 2016.
  2. Moc Morgan wedi marw , Gwefan Golwg 360, Golwg360, 26 Mai 2015. Cyrchwyd ar 27 Mai 2015.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 Moc Morgan (en) , The Times, 25 Gorffennaf 2015, Tudalennau 76-77.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 (Saesneg) Renowned broadcaster, journalist and author dies, aged 86 (27 Mai 2015). Adalwyd ar 27 Gorffennaf 2015.
  5. 5.0 5.1 5.2 (Saesneg) Devine, Darren (26 Mai 2015). 'Life was never dull when you were in a boat with Moc' Tributes paid to fishing legend Moc Morgan. WalesOnline. Adalwyd ar 26 Gorffennaf 2015.
  6. "Moc Morgan: Well-known fisherman and broadcaster dies" (yn en). BBC.co.uk. 26 Mai 2015. http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-32880407. Adalwyd 27 Gorffennaf 2015.
  7. "Moc Morgan wedi marw". y-cymro.com. 26 Mai 2015. http://archif.rhwyd.org/ycymro/newyddion/c/x44/i/2507/desc/moc-morgan-wedi-marw/. Adalwyd 26 Gorffennaf 2015.