Miltank

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Miltank

Un o rywogaethau ffuglennol y fasnachfraint Pokémon a grëwyd gan Satoshi Tajiri yw Miltank (Japaneg: ミルタンク - Miltank). Mae Miltank yn un o'r cymeriadau mwyaf adnabyddadwy o fewn y gyfres, o ganlyniad i'w rôl bwysig yn yr anime, y manga a'r gêmau fideo.

Cymeriad[golygu | golygu cod y dudalen]

Daw'r enw Miltank o'r geiriau Saesneg milk (sef llaeth) a tank (sef tanc), daw'r enw Japaneg o'r un geiriau. Cafodd Miltank ei ddylunio gan Ken Sugimori (ffrind agos i Satoshi Tajiri, crëwr Pokémon).

Ffisioleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Miltank (fel pob Pokémon mae'r enw yn lluosog ac unigol) yn Pokémon normal sydd yn edrych fel buchod pinc gyda blew du o gwmpas eu pennau, llygaid glas, cyrn bach, bolâu hufen gyda phedwar piw mawr a chynffon hir. Mae pob Miltank yn fenywol ac mae llawer o chwaraewyr yn ei weld fel cymar i Tauros. Mae gan Miltank y pŵer i wella eu hunain ac eraill gyda'u llaeth.

Ymddygiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn wahanol i Tauros, mae Miltank yn ddiddig iawn ac yn treulio eu hamser yn bwyta mewn lle brwydro.

Cynefin[golygu | golygu cod y dudalen]

Caiff Miltank eu ffeindio o fewn porfeydd.

Diet[golygu | golygu cod y dudalen]

Miltank yn yr anime

Fel buchod go iawn, mae Miltank yn llysysyddion sydd yn bwyta glaswellt, ffrwythau a llysiau.

Mewn ieithoedd eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Almaeneg: Miltank
  • Ffrangeg: Ecremeuh - o écrémé (sgim llaeth) a meuh (mŵ)
  • Coreeg: 밀탱크 Miltaengkeu
  • Tsieineeg: 大奶罐 Dà Nǎi Guàn - tanc llaeth mawr