Jigglypuff
Un o rywogaethau ffuglennol y fasnachfraint Pokémon a grewyd gan Satoshi Tajiri yw Jigglypuff (Japaneg: プリン - Purin). Mae Jigglypuff yn un o'r cymeriadau mwyaf adnabyddadwy o fewn y gyfres, o ganlyniad i'w rôl bwysig yn yr anime, y manga, y gemau fideo, a ddiolch i ei ymddangosiad anarferol.
Cymeriad
[golygu | golygu cod]Daw'r enw Jigglypuff o'r geiriau Saesneg jiggle (siglo) a puff (pwff/chwyth). Daw'r enw Siapanëeg Purin o enw am fath o bwdin Siapaneaidd. Fel Pikachu cafodd Jigglypuff ei ddylunio gan Ken Sugimori (ffrind agos i Satoshi Tajiri, crëwr Pokémon) ac mae'n cael ei leisio yn yr anime gan Mika Kanai (Japaneg) a Rachael Lillis (Saesneg).
Ffisioleg
[golygu | golygu cod]Mae Jigglypuff (fel pob Pokémon mae'r enw yn lluosog ac unigol) yn Pokémon teg (normal hyd at y chweched genhedlaeth o gemau) sydd yn edrych fel pêl pinc gyda llygaid mawr glas, clustiau mawr, a cudyn o wallt ar ei dalcen. Gall Jigglypuff ehangu ei gorff fel balŵn i dimensiynau enfawr neu gwastatáu'n hollol fflat. Mae hefyd gan Jigglypuff y pŵer i gwneud eu elynion gysgu wrth ganu hwiangerdd a mesmereiddio'r gwrthwynebydd gyda'u lygaid mawr tywynnog.
Ymddygiad
[golygu | golygu cod]Mae Jigglypuff yn hoff iawn o berfformio o flaen gynulleidfa. Yn yr anime, bydd un Jigglypuff yn defnyddio meicroffon i berfformio ac i gyflawni ei freuddwyd o fod yn cantor enwog, yn anffodus bu'r gwrandawyr yn syrthio i gysgu yn syth. Mae'r Jigglypuff hyn yn cario ysgrifbin er mwyn tynnu llun ar wynebau'r cynulleidfa fel dial am syrthio i gysgu yn ystod y perfformiad.
Cynefin
[golygu | golygu cod]Caiff Jigglypuff eu ffeindio o fewn ogofâu neu gwastatiroedd gwelltog. Hefyd caiff Jigglypuff eu ffeindio yn strydoedd trefi neu ddinasoedd.
Deiet
[golygu | golygu cod]Mae Jigglypuff yn llysysyddion sydd yn bwyta aeron, ffrwythau a llysiau.
Effaith Diwyllianol
[golygu | golygu cod]Unwaith cafodd Jigglypuff ei sôn ar CNN yn America yn ystod stori newyddion am Pokémon. Yn Ionawr 2006 canodd Donnell Bolton cân y Jigglypuff ar American Idol, ond ni enillodd Mr.Bolton rhan yn y sioe.