Mikhail Sholokhov

Oddi ar Wicipedia
Mikhail Sholokhov
Ganwyd11 Mai 1905 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Kruzhilin Edit this on Wikidata
Bu farw21 Chwefror 1984 Edit this on Wikidata
Vyoshenskaya Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia, Yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd, sgriptiwr, bardd, rhyddieithwr, newyddiadurwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Sofiet Goruchaf yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amFate of a Man, And Quiet Flows the Don, The New Land Edit this on Wikidata
Arddullnofel, stori fer, sketch story Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
MudiadRealaeth Sosialaidd Edit this on Wikidata
PriodMaria Petrovna Gromoslavskaia Edit this on Wikidata
PlantMikhail Mikhailovich Sholokhov, Svetlana Mikhailovna Sholokhova Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Wladwriaeth Stalin, gradd 1af, Medal "Am Fuddugoliaeth yr Almaen yn Rhyfel Gwladgarol 1941–1945, Urdd Lenin, Arwr y Llafur Sosialaidd, Urdd y Chwyldro Hydref, Urdd y Rhyfel Gwlatgar, radd 1af, Gwobr Lenyddol Nobel, Medal "Am Amddiffyn Moscfa", Medal "Am Amddiffyn Stalingrad", Medal "Am Waith Arbennig yn Rhtfel Mawr Gwladgarol 1941–1945", Alexander Fadeyev Medal, Medal Llafur y Cynfilwyr, Gwobr Lenin, Medal Jiwbili "20 Mlynedd ers Buddugoliaeth Rhyfel Gwladgarol 1941–1945", Medal Jiwbilî "30 Mlynedd o Fuddugoliaeth yn y Rhyfel Mawr Gwladgarol 1941-1945", Medal Jiwbili "I Goffáu 100fed Pen-blwydd Geni Vladimir Ilyich Lenin" (10 gair / words), Urdd Georgi Dimitrov, Gwobr "Cyril a Methodius", Seren Cyfeillgarwch y Bobl, Order of Sukhbaatar, Urdd Lenin, Urdd Lenin, Urdd Lenin, "Hammer and Sickle" gold medal, Urdd Lenin, Urdd Lenin, Arwr y Llafur Sosialaidd, "Hammer and Sickle" gold medal Edit this on Wikidata
llofnod

Nofelydd ac awdur straeon byrion Rwsiaidd oedd Mikhail Aleksandrovich Sholokhov (24 Mai [11 Mai yn yr Hen Arddull] 190521 Chwefror 1984) a enillodd Wobr Lenyddol Nobel yn 1965 am "y gallu a gonestrwydd celfydd y mae'n defnyddio yn ei epig am Afon Don i fynegi cyfnod hanesyddol ym mywyd y Rwsiaid".[1]

Ganed yn Veshenskaya yn ardal Cosaciaid Afon Don yn Ymerodraeth Rwsia, bellach yn Oblast Rostov. Ymunodd â'r Fyddin Goch yn 1920 yn ystod Chwyldro Rwsia. Symudodd i Foscfa yn 1922 a chyhoeddodd ei stori fer gyntaf yn 1924. Y flwyddyn honno, dychwelodd i fyw yn ei bentref genedigol, yn y rhanbarth a fu'n ysbrydoliaeth i'w lên am weddill ei oes.

Ei gampwaith ydy'r nofel epig Tikhii Don (1928–40), portread o frwydrau'r Cosaciaid yn erbyn y Fyddin Goch yn ne Rwsia. Dethlir llwyddiant yr ymgyrch gyfunoli yn nechrau'r 1930au yn ei ail nofel, Podnyataya tselina (1932–60), gwaith sydd yn nodweddiadol o Realaeth Sosialaidd.

Ymunodd Sholokhov â Phlaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd yn 1932, a fe'i penodwyd yn aelod o'r Pwyllgor Canolog yn 1961.[2] Bu'n selog i'r blaid trwy gydol ei oes, a gwobrwywyd iddo urdd yr Arwr Llafur Sosialaidd yn ogystal â Gwobrau Lenin a Stalin. Aeth ar sawl taith i Orllewin Ewrop, ac yn 1959 ymwelodd ag Unol Daleithiau America yng nghwmni Nikita Khrushchev. Bu farw yn Veshenskaya yn 78 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "The Nobel Prize in Literature 1965", Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 15 Chwefror 2020.
  2. (Saesneg) Mikhail Sholokhov. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 15 Chwefror 2020.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Herman Ermolaev, Mikhail Sholokhov and His Art (Princeton, New Jersey: Princeton University Press, 1982).