Mike Peters
Mike Peters | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 25 Chwefror 1959 ![]() Prestatyn ![]() |
Bu farw | 28 Ebrill 2025 ![]() Diserth ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | canwr, cyfansoddwr caneuon ![]() |
Arddull | cerddoriaeth roc ![]() |
Gwobr/au | MBE ![]() |
Cerddor o Gymru oedd Mike Peters (25 Chwefror 1959 – 29 Ebrill 2025). Adnabyddir ef orau fel prif ganwr y grŵp roc, The Alarm.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Peters ym Mhrestatyn ac fe'i magwyd yn y Rhyl, lle roedd ei deulu yn byw yn nhafarn y Crescent ar stryd Edward Henry.[1]
Ei swydd cyntaf oedd gweithredwr cyfrifiadur ar gyfer Kwik Save. Roedd yn gweithio ar hen gyfrifiadur prif ffrâm IBM System/3.[2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ym Mhrestatyn chwaraeodd yr Alarm eu gig cyntaf yn 1981.Dechreuodd ei yrfa yn y byd cerddoriaeth yng nghanol yr 1970au gyda sawl grẅp amatur. Roedd wedi ei ddylanwadu gan gerddoriaeth pync a cherddoriaeth y don newydd a oedd yn boblogaidd yr oes honno.
Bu hefyd yn Gyfarwyddwr Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, a sefydlodd adran newydd llenyddiaeth Saesneg ar gyfer yr Academi Gymreig yn 1978.

Yn 1991, gwahanodd yr Alarm ar ôl sawl sengl lwyddiannus, y mwyaf adnabyddus oedd 68 Guns. Yn 1996, gwellhaodd wedi iddo ddioddef o gancr lymff, a dechreuodd recordio sain a theithio unwaith eto, weithiau gyda'r grŵp wedi ail-ymuno. Cyflwynodd raglen boblogaidd Bedrock ar BBC Radio Cymru. Ers 1993, mae wedi dal "ymgasgliad" blynyddol yn Llandudno. Yn 2004, daeth Peters yn unfed ar ddeg o 100 o Arwyr Cymru. Yn 2005, darganfu ei fod yn dioddef o liwcemia cronig lymffotig. Ymddangosodd mewn rhaglen ddogfen ar gyfer BBC Cymru yn adrodd hanes ei frwydr yn erbyn cancr, a oedd yn llwyddiannus erbyn 2006.
Yn 2007 cymerodd 10 diwrnod i ddringo i wersyll Everest lle roedd yn bwriadu chwarae gig. Roedd eisoes wedi chwarae ar gopa'r Eryri er mwyn codi arian gyfer canolfan cancr yn Nepal.[3] Cyd-sefydlodd y Love, Hope, Strength Foundation sydd wedi helpu trefnu'r daith ar gyfer dioddefwyr cancr a cherddorion.
Dyfarnwyd MBE iddo am ei waith yn codi arian i wella gofal a chefnogi cleifion â chanser yn rhestr anrhydeddau'r flwyddyn newydd 2019[4].
Ym Medi 2022, cyhoeddwyd fod ei lewcemia lymffocotig cronig wedi dychwelyd a cafodd driniaeth gyda cemotherapi yng Nghanolfan Cancr Gogledd Cymru.[5]
Ym Medi 2024, adroddwyd fod Peters yn gwella o Syndrom Richter wedi prawf clinigol yn The Christie, Manceinion.[6][7] Yn Rhagfyr 2024, adroddwyd nad oedd wedi gwella yn llwyr a chymerodd therapi Cell-T Derbynnydd Antigen Cimeraidd yn gynnar yn 2025.[8] [9]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Cyfarfu ei ddarpar wraig Jules yn 1986, pan oedd nôl yn Rhyl yn teithio gyda Queen. Fe wnaeth y cwpl ddyweddïo wythnos yn ddiweddarach a phriodi yn 1988. Roedd ganddynt ddau blentyn, Dylan ac Evan. Roedd yn byw tair milltir i ffwrdd o'i gartref enedigol yn Nyserth.
Bu farw ar 29 Ebrill 2025 wedi brwydro canser am 30 mlynedd.[10] Cynhaliwyd ei angladd ar 29 Mai 2025 ym mhentref Dyserth ger Prestatyn, lle cafodd ei fagu. Roedd tua 150 o bobl yn y gwasanaeth yn Eglwys y Plwyf Santes Ffraid a Sant Cwyfan.[11] Daeth dros 2,000 yno i dalu teyrnged a roedd sgrin fawr yn dangos y gwasanaeth i'r dorf. Cafwyd perfformiadau gan Dafydd Iwan, Rhys Meirion, Billy Duffy o The Cult ac gan feibion Mike. Dywedodd Julie y byddai llwch Mike yn cael ei gladdu yn mynwent y capel ochr draw i dafarn The Red/Y Coch sy'n cael ei redeg ganddi hi a'i meibion.[12]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Sweeting, Adam (2025-04-30). "Mike Peters obituary". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2025-04-30.
- ↑ [1] Archifwyd 16 Ebrill 2009 yn y Peiriant Wayback
- ↑ Alarm star ready to rock Everest, BBC 21 Hydref 2007
- ↑ Golwg360 Geraint Thomas ymysg y Cymry ar restr anrhydeddau’r Frenhines adalwyd 29 Rhagfyr 2018
- ↑ "A personal message from Mike Peters", Love Hope Strength Foundation, 25 Medi 2022. Cyrchwyd 2 Tachwedd 2022
- ↑ Whittingham, Stewart. "Rock star in cancer remission after drug trial". BBC News. Cyrchwyd 1 Hydref 2024.
- ↑ Evans, Tomos. "The Alarm's Mike Peters in cancer remission after NHS drug trial". Sky News. Cyrchwyd 1 Hydref 2024.
- ↑ Owens, David (2025-04-29). "Welsh music icon Mike Peters has died". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-04-29.
- ↑ "Y canwr Mike Peters wedi marw ar ol brwydr 30 mlynedd â chanser". BBC Cymru Fyw. 2025-04-29. Cyrchwyd 2025-04-29.
- ↑ "Cofio Mike Peters, The Alarm". BBC Cymru Fyw. 30 Ebrill 2025. Cyrchwyd 6 Mai 2025.
- ↑ "Miloedd yn angladd canwr The Alarm, Mike Peters". BBC Cymru Fyw. 2025-05-29. Cyrchwyd 2025-05-29.
- ↑ "The Alarm: Mike Peters' funeral brings thousands to Denbighshire". BBC News (yn Saesneg). 2025-05-28. Cyrchwyd 2025-05-29.