Michal Miloslav Hodža
Michal Miloslav Hodža | |
---|---|
Ganwyd | 22 Medi 1811 Rakša |
Bu farw | 26 Mawrth 1870 Cieszyn |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Awstria, Awstria-Hwngari |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Plant | Marína Miloslava Hodžová |
Perthnasau | Milan Hodža |
Michal Miloslav Hodža (Hwngareg: Hodzsa Mihály Milos; [1] 22 Medi 1811 – 26 Mawrth 1870) oedd diwygiwr cenedlaethol Slofacia, offeiriad Lwtheraidd, bardd, ieithydd, a chynrychiolydd mudiad cenedlaethol Slofacia yn 1840au fel aelod o "y drindod" Štúr - Hurban -Hodža. Mae hefyd yn ewythr i'r gwleidydd Tsiecoslofac, Milan Hodža.
Bywyd
[golygu | golygu cod]Roedd Michal Miloslav Hodža yn hanu o deulu o ffermwyr-felinwyr tra roedd ei dad hefyd yn swyddog heb gomisiwn. Astudiodd Hodža yn Rakša, Mošovce ac yn ddiweddarach, mewn gymnasiwm yn Banská Bystrica a Rožňava. Yn y blynyddoedd 1829-1832 parhaodd â'i astudiaethau, gan ganolbwyntio ar ddiwinyddiaeth, yn y coleg Efengylaidd yn Prešov . O 1832 hyd 1834 parhaodd i astudio diwinyddiaeth yn y lyceum Efengylaidd yn Bratislava . Yn ystod ei astudiaeth yn Bratislava dechreuodd weithio i Gwmni Iaith a Llenyddiaeth Tsiecoslofacia . Hefyd yn ystod ei amser yn y lyceum, roedd Hodža yn ddirprwy cadeirydd o'r un gymdeithas. Yn y blynyddoedd 1834-1836 bu'n gweithio fel tiwtor yn Rakša a Podrečany . O 1834 hyd 1837 parhaodd â'i astudiaethau diwinyddol yn Fienna, ac urddwyd ef yn offeiriad yn 1837 . Ar ddiwedd y 1830au cyhoeddodd mewn cylchgronau addysgiadol a didactig megis Krasomil, Vedomil tatranský, Slovenské noviny a Slovenská včela. Roedd hefyd yn gyd-awdur Prosbopis liptovského seniorátu a'i bwrpas oedd adfer Adran iaith a llenyddiaeth Tsiecoslofacia yn y Bratislava lyceum. Ym 1840 fe'i gwnaed yn Ddeon uwch Liptov ac yn gennad i leiandai ardal. Dim ond blwyddyn wedi hynny daeth yn aelod o staff golygyddol y cylchgrawn efengylaidd Spěvník . Ym 1842, ymsefydlodd Hodža yn y persondy yn Liptovský Mikuláš lle byddai'n aros gydag ymyriadau byr tan 1866. Yn yr un flwyddyn daeth yn aelod o ddirprwyaeth ysgolheigion efengylaidd Slofacia i frenhines Awstria. Yn ystod haf 1843 cyfarfu Hodža â Ľudovít Štúr a Jozef Miloslav Hurban ym mhersondy pentref Hlboké lle cymerodd ran yn y broses o wneud penderfyniadau ynghylch ffurfio'r iaith Slofaceg lenyddol fodern a chyhoeddi papurau newydd Slofaceg. Cynhaliwyd ail gyfarfod flwyddyn yn ddiweddarach, y tro hwn yng nghartref Hodža yn Liptovský Mikuláš, a barhaodd rhwng 26 a 28 Awst 1844. Yn y cyfarfod hwnnw, sefydlodd y triawd o Hurban, Štúr a Hodža gymdeithas ddiwylliannol ac addysgol, o'r enw Cymdeithas Ddiwylliannol-Oleuedigaeth Tatrín, [2] y daeth Hodža yn gadeirydd cyntaf arni.
Yn ystod chwyldro 1848-49
[golygu | golygu cod]Yn ystod y cyfnod chwyldroadol 1848-1849, roedd Hodža wedi cymryd rhan gyda theilyngdod mawr yng nghyfarfod gwladgarwyr (10–12 Mai 1848) a threfniadaeth ohono yn Liptovský Mikuláš. Yn ystod y cyfarfod, ac ym mhresenoldeb Štúr a Hurban, roedd pob un o'r 14 erthygl o Alwadau'r Genedl Slofacaidd ("Žiadosti slovenského národa"), a oedd yn cynnwys cynigion i ddatrys statws cenedl Slofacaidd o fewn cwmpas Hwngari, eu cymeradwyo. Ar ôl cyhoeddi cyfraith ymladd, ymateb uniongyrchol i'r Galwadau, penderfynodd Hodža adael am Prag er mwyn osgoi erlyniad yr heddlu gan fod ei safle fel arweinydd o fewn y chwyldro yn ei wneud yn brif darged. Tra ym Mhrâg, cymerodd Hodža ran weithredol yn y trafodaethau yn y Gyngres Slafaidd ac ym mharatoadau'r haf ar gyfer gwrthryfel arfog Slofacia. Daeth yn aelod o Gyngor Cenedlaethol cyntaf Slofacia a daeth hefyd yn gyfranogwr gweithgar o wrthryfeloedd arfog gwirfoddolwyr Slofacia yn y blynyddoedd 1848-1849. Roedd hyn yn golygu ymuno â milwyr Ymerawdwr Awstria er nad oedd yn cytuno â'r polisi o ddatrys materion trwy wrthdaro arfog. Roedd y dull arfog yn llawer mwy ffafriol gan Štúr a Hurban.
Yn ddiweddarach
[golygu | golygu cod]Ar ôl gorchfygiad gwrthryfel Hwngari dychwelodd i Liptovský Mikuláš ac yn y blynyddoedd 1849–1850 roedd yn notari cyhoeddus yn Sir Liptó . Gwrthododd gefnogi ochr Hwngari, a arweiniodd at ei benderfyniad i adael y swydd a bwrw ymlaen â'r camau gweithredu newydd yn yr ymgyrch genedlaethol-adfywiadol yn y maes eglwysig, cymdeithasol a diwylliannol. Arweiniodd hyn at wrthdaro newydd a hyd yn oed at drais corfforol yr oedd yn rhaid i Hodža ei wynebu ei hun. Yn y blynyddoedd 1863-1867 yr oedd yn un o sylfaenwyr ac aelod o bwyllgor Matica slovenská. Yn 1866 daeth yn ficer eglwys efengylaidd Martin . Fodd bynnag, oherwydd ei gyfranogiad yn y rhyfeloedd 'patent' bondigrybwyll, sef rheol yr Ymerawdwr ar drefniant materion Eglwysig, cafodd ei atal a'i orfodi i adael ei bersondy. O 1867 hyd ei farwolaeth arhosodd yn alltud yn nhref Silesia Cieszyn (y pryd hynny o fewn yr hyn a elwir yn rhan Cisleithanaidd o Ymerodraeth Awstro-Hwngari, h.y. er ei fod yn dal mewn un frenhiniaeth ond i ffwrdd o awdurdodau Hwngari), lle cafodd ei gysegru i'w lenyddiaeth yn unig. gwaith. Yn nechrau 1870 aeth yn wael a bu farw yn fuan wedi hynny. Claddwyd ef yn Cieszyn, ond yn 1922 symudwyd ei weddillion i Liptovský Mikuláš.
Gweithiau
[golygu | golygu cod]- Meč krivdy ("Clefdd Anghyfiawnder") – 1836
- Ňepi pálenku, to je Ňezabi – 1845, Pregeth
- Dobruo slovo Slovákom, súcim na slovo – 1847, Llyfryn
- Epigenes slovenicus ("Cytundeb Slofac") – 1847
- Hlas k národu slovenskému ("LLais y Genedl Slofac") – 1848, Datganiad
- Větín o slovenčine – 1848
- Der Slowak – 1848
- Matora – 1856, Cerdd telyneg-epig
- Šlabikár ("Primydd") – 1859
- Prvá čítanka pre slovenské ev. a. v. školy ("Y Llyfr Darllen Gyntaf ar gyfer Ysgolion EFegylaidd Slofacaidd A. B.") – 1860
- Slavomiersky – 1861
- Dohovor – 1862, Llyfryn
- Protestant proti protestantským unionistům v cirkvi a. v. v Uhřích ("Protestant yn erbyn yr Unoliaethwyr Protestanaidd yn yr Eglwys Efengylaidd A. B. yn Nheyrnas Hwngari") – 1863
- Unterthänigste Promemoria über die kirchlichen Angelegenhaiten in Ungarn bei den Slowaken der ev. luth. Confession – 1866 ("Proemoria mwyaf tanbaid ar faterion eglwysig yn Hwngari gyda Slofaciaid y ev. luth. Cyffes")
Gwaddol
[golygu | golygu cod]Mae Hodžovo námestie, sgwâr fawr yn Bratislava, prifddinas Slofacia, wedi'i henwi ar ei ôl.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Szinnyei, József (1896). Magyar írók élete és munkái IV. Budapest: Hornyánszky Viktor Könyvkiadóhivatala.
- ↑ "Michal Miloslav Hodza". Farlex, Inc. Cyrchwyd 26 January 2013.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Peth o'i waith
- Cerdd Dôl y Gwanwyn mewn ffurf gyfoes