Neidio i'r cynnwys

Michael Russell

Oddi ar Wicipedia
Michael Russell
Enghraifft o'r canlynolbod dynol Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.scottish.parliament.uk/msps/95959.aspx Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gwleidydd o Albanwr ac aelod o Blaid Genedlaethol yr Alban (SNP) yw Michael William Russell (ganwyd 9 Awst 1953 i fam o Loegr a mam o'r Alban).[1][2][3] Dros y blynyddoedd, mae Russell hefyd wedi cyhoeddi sawl llyfr ffeithiol ac un gwaith llenyddol. Adnebir ef gan fwyaf fel Mike Russell. I nifer o Gymry ei gyfraniad bwysicaf bu sefydlu'r Festival of Celtic Film, a ddaeth maes o law i'w alw'n Gŵyl Cyfryngau Celtaidd.[4]

Gyrfa wleidyddol

[golygu | golygu cod]

Cafodd Russell ei eni yn Bromley, Swydd Caint, Lloegr. Mynychodd e Goleg Marr, Troon (An Truthail / An t-Sròn yn Gaeleg sy'n gytras â'r gair Cymraeg "trwyn" gan ddynodi daearyddiaeth y dref) yn Swydd Ayr yn yr Alban, ac yna aeth i Brifysgol Caeredin, lle y graddiodd gyda gradd Meistr mewn Hanes a Llenyddiaeth yr Alban. Yna bu'n gweithio yn y sector cyfryngau. Ymunodd â’r SNP yn 1974 ac mae wedi dal amryw o swyddi dros y blynyddoedd. Bu'n allweddol yn etholiad Alex Salmond yn arweinydd y blaid yn 1990 a bu'n rheolwr ymgyrch yr SNP rhwng 1994 a 1999, gan gydlynu ymgyrchoedd etholiad cyffredinol 1997 a'r etholiad cyffredinol yn etholaethau Perth a De Paisley.[5][6]

Yn 2021, ymddeolodd Russell o waith gwleidyddol gweithgar, ildiodd ei sedd yn Senedd yr Alban a chafodd swydd anrhydeddus "Llywydd yr SNP". Ymddiswyddodd o'r swydd honno ddechrau mis Rhagfyr 2023 gan ei fod yn rhedeg am gadeiryddiaeth Comisiwn Tir yr Alban. Mae'r swydd hon yn gofyn am niwtraliaeth wleidyddol.[7]

Canlyniadau etholiad

[golygu | golygu cod]
Russell yn mynychu cyfarfod o Gabinet Llywodraeth yr Alban yn Stranraer fel Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Addysg a Dysgu Gydol Oes, Awst 2011

Safodd Russell ar gyfer etholiadau cenedlaethol am y tro cyntaf yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig yn 1987. Yn ei etholaeth yn Clydesdale, fodd bynnag, dim ond tua 14.8% o'r bleidlais a gafodd, y bedwaredd gyfran uchaf o'r bleidlais, a methodd gael lle yn Nhŷ'r Cyffredin. Yn etholiad Senedd yr Alban 1999, safodd Russell ar gyfer mandad uniongyrchol etholaeth De Cunninghame, ond cafodd ei drechu gan yr ymgeisydd Llafur Irene Oldfather.[8] Fodd bynnag, gan ei fod yn ail ar y rhestr etholiadol rhanbarthol ar gyfer rhanbarth etholiadol De'r Alban, derbyniodd Russell un o saith sedd restr yn y rhanbarth etholiadol ac aeth i Senedd yr Alban.[9] Yng nghabinet cysgodol yr SNP, bu Russell yn Ysgrifennydd Gwladol dros Blant ac Addysg rhwng 2000 a 2003. Ef hefyd oedd llefarydd y blaid ar ddarlledu a Gaeleg.[5] Yn etholiad cyffredinol Senedd yr Alban 2003, ni lwyddodd eto i ennill y mandad uniongyrchol ar gyfer De Cunninghame.[10] Gan mai dim ond yn bedwerydd y gosodwyd Russell ar y rhestr etholiadol rhanbarthol ar gyfer yr etholiadau hyn, ni chafodd fandad ac felly gadawodd y senedd.[11] Yn 2004, safodd Russell mewn etholiad ar gyfer arweinyddiaeth yr SNP gan dderbyn y drydedd gyfran uchaf o'r bleidlais gyda 9.7% o'r bleidlais, y tu ôl i Alex Salmond (75.6%) a Roseanna Cunningham (14.6%).[6]

Yn etholiad cyffredinol 2007, safodd Russell dros etholaeth Dumfries, ond dim ond y trydydd nifer uchaf o bleidleisiau a gafodd.[12] Er gwaethaf hyn, enillodd sedd seneddol eto, y tro hwn i ranbarth etholiadol De'r Alban.[13] Yn dilyn yr etholiad, fe'i penodwyd yn Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, swydd a ddaliodd hyd 2009, pan gafodd ei benodi'n Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Materion Tramor a'r Cyfansoddiad. Ar ddiwedd 2009, penodwyd Russell yn Weinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes.[5] Yn etholiad cyffredinol Senedd yr Alban 2011, safodd dros etholaeth Argyll a Bute, gan gymryd lle ei gyd-bleidiwr Jim Mather, na safodd yn yr etholiad, ac fe llwyddodd Russell i ennill sedd etholaeth am y tro cyntaf.[14] Cadwodd ei swydd weinidogol heb ei newid tan ddiwedd 2014,[5] ac olynwyd ef gan Angela Constance.

Gaeleg

[golygu | golygu cod]

Mae Russell wedi dysgu Gaeleg yn rhugl. Rhoddodd gefnogaeth fawr i’r Aeleg yn y Senedd yr Alban, yn enwedig gyda’r Bil Gaeleg cyntaf yn 2002. Yn 2010, traddododd araith yn Gaeleg yng Nghyngor Ewrop - dyna'r tro cyntaf i hynny ddigwydd.[15][16]

Yn 2009 traddododd 'Óraid an t-Sabhail' darlith flynyddol bwysig Sabhal Mòr Ostaig (sefydliad addysg uwch uniaith Gaeleg).

Sefydlu Gŵyl Cyfryngau Celtaidd

[golygu | golygu cod]
Logo Gŵyl Cyfryngau Celtaidd a sefydlwyd gan Russell yn 1979 fel y Festival of Celtic Film

Yng ngwanwyn 1979 roedd Russell yn gweithio fel Cyfarwyddwr Sgire Cinema yn Ynysoedd Allanol Heledd. Sinema Sgire oedd yr unig gyfrwng yn yr Alban ar gyfer cynhyrchu fideo yn yr iaith Aeleg, ni chafodd yr un ei wneud gan y BBC na’r cwmnïau ITV a doedd gan neb arall fynediad i offer recordio fideo.

Sbardunodd cyfuniad o doriadau i wariant cyhoeddus a diffyg gwybodaeth i Michael Russell deithio i Iwerddon, Cymru a Llydaw yn ystod gaeaf 1979 i ddarganfod gymaint ag y gallai am gynhyrchu rhaglenni neu ffilm yn yr ieithoedd brodorol yno, ac i weld a oedd eraill yn rhannu ei weledigaeth i ddysgu oddi wrth ei gilydd ac unioni'r anghydbwysedd yn erbyn yr ieithoedd Celtaidd. Heb ddim cefnogaeth o bwys ac mewn tri mis, aeth ymlaen â’i benderfyniad i gynnal y Festival of Celtic Film (fel y'i galwodd) yn Ne Uist yn Ebrill 1980.

Wedi llwyddiant yr ŵyl gyntaf, cytunwyd y dylid cynnal un eto a chreu strwythur i hwyluso deialog rhwng y rhai a oedd yn gweithio ym myd teledu a ffilm yn y gwledydd Celtaidd. Gydag amser tyfodd ac addasodd yr Ŵyl gan newid ei henw i'r un gyfredol, sef Gŵyl Cyfryngau Celtaidd, er mwyn adlewyrchu natur y diwydiant.[4]

Cyhoeddiadau

[golygu | golygu cod]

Mae Russell wedi bod yn weithgar ym maes y cyfryngau a chyhoeddi erioed gan fod yn sylwebydd cyson ar ddiwylliant, gwleidyddiaeth a chymdeithas yr Alban. Mae’n berchen ar gwmni teledu, White Swan ac wedi ysgrifennu sawl llyfr.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "FreeBMD Entry Info". Freebmd.org.uk. Cyrchwyd 2012-05-06.
  2. Archifwyd (Dyddiad ar goll) yn y UK Parliament's Web Archive
  3. Gwybodaeth Llywodraeth yr Alban
  4. 4.0 4.1 "Who We Are". Gwefan Gŵyl Cyfryngau Celtaidd. Cyrchwyd 13 Awst 2024.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 "Michael Russell MSP". BBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-15. Cyrchwyd 15 Awst 2024.
  6. 6.0 6.1 , alba.org.uk, http://www.alba.org.uk/scot07constit/s05.html
  7. "Michael Russell steps down as SNP president". BBC news. 2023-12-01. Cyrchwyd 2023-12-02.
  8. Canlyniadau Etholiadau 1999 ar gyfer Etholiad Senedd yr Alban]
  9. Canlynidau Etholiad 1999 ar gyfer Senedd yr Alban
  10. Canlyniadau Etholiad 2003 ar gyfer Senedd yr Alban
  11. Canlyniadau Etholiad 2003 ar gyfer Senedd yr Alban
  12. Canlyniadau Etholiad 2007 ar gyfer Senedd yr Alban
  13. Canlyniadau Etholiad 2007 ar gyfer Senedd yr Alban
  14. Canlyniadau Etholiad 2011 ar gyfer Senedd yr Alban
  15. "European Council landmark for Gaelic". BBC News. 9 Mai 2010. Cyrchwyd 2012-05-02.
  16. "Mike Russell addresses EU meeting in Gaelic". BBC News. 11 Mai 2010. Cyrchwyd 2012-05-02.
Baner yr AlbanEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Albanwr neu Albanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.