Neidio i'r cynnwys

Meurig ap Ynyr Fechan

Oddi ar Wicipedia
Meurig ap Ynyr Fechan
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Uchelwr Cymreig oedd Meurig ap Ynyr Fechan neu Meurig ap Ynyr Fechan (c. 1315 – 1347) o blasty'r Nannau, Dolgellau. Ei dad oedd Ynyr Fychan ap Ynyr a anwyd yn Llanfachraeth, Meirionnydd yn 1285 a'i fam oedd Gwenhwyfar ferch Gruffudd o Benegoes. Ei wraig oedd Generys ferch Gruffudd (g. 1300), merch Gruffudd ap Owain ac Elen Ingram.[1] Ganwyd i Meurig a Generys nifer o blant gan gynnwys Hywel, Meurig Llwyd, Llewelyn, Gruffudd, Ynyr, Ieuan a Meurig Hen.

Mae ei gorffddelw i'w weld heddiw yn Eglwys y Santes Fair, Dolgellau. Dywedir ei fod yn un o geidwaid Castell y Bere, wedi llofrudiaeth y Tywysog Llywelyn ap Gruffudd yng Nghilmeri yn Rhagfyr 1282.

Roedd Llywelyn Goch ap Meurig Hen, y bardd a ganodd gerdd i Lleucu Llwyd, yn gefnder iddo.[2]

Corffddelw Eglwys y Santes Fair, Dolgellau

[golygu | golygu cod]

Dau fab Meurig

[golygu | golygu cod]

Y ddau etifedd oedd Hywel ap Meurig Fychan a’i frawd, Meurig Llwyd.

Hywel ap Meurig Fychan oedd y mab hynaf, gŵr a ddaliodd fân swyddi lleol yn 1391/2 ac eto yn 1395/6. Credir i'r meibion fyw yng Nghae Gwrgenau ger Nannau, neu Gefn-yr-ywen Uchaf a Chefn-yr-ywen Isaf. Fel ei gyndeidiau, bu Meurig yn rhaglaw cwmwd Tal-y-bont yn 1391/2 a rhannai’r cyfrifoldeb am havotry Tal-y-bont gyda’i frawd, Hywel. Yn 1399/1400 enwir Meurig fel 'wdwart' cwmwd Tal-y-bont, ac roedd yn rhannol gyfrifol am havotry Meirionnydd (Parry 1958: 188–9). Bu’r ddau frawd yn noddwyr hael i’r beirdd. Canodd eu hewythr, Llywelyn Goch ap Meurig Hen, gerdd o foliant iddynt a chanodd Gruffudd Llwyd gywyddau mawl a marwnad i Feurig Llwyd.[3]

Ni chafodd Hywel ddisgynyddion, ac throsglwyddwyd yr ustad i fab Meurig: Hywel Sele. Cafodd Meurig a’i wraig, neu Mallt, nifer o blant, gan gynnwys Hywel Selau a Gruffudd Derwas, noddwyr beirdd megis Lewys Glyn Cothi. Gwraig Hywel Selau oedd Mali ferch Einion, modryb i Ruffudd Fychan ap Gruffudd o Gorsygedol. Ar ddechrau’r 15g troes Hywel Selau ei gefn ar achos ei gefnder, Owain Glyn Dŵr, gan ochri â Harri IV o Loegr. O ganlyniad, llosgwyd plas Nannau i’r llawr ym mlynyddoedd cynnar y gwrthryfel. Yn ôl traddodiad, bu Hywel Selau yntau farw ar dir Nannau yn 1402 dan law lluoedd Owain, a rhoddwyd ei gorff mewn ceubren gerllaw. Gelwid y pren o hynny ymlaen yn "Geubren yr Ellyll" (Parry 1965–8: 189). Er na ellir rhoi coel ar y chwedl honno, y tebyg yw bod Hywel Selau wedi marw oddeutu 1402.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. geni.com; adalwyd 22 Hydref 2018.
  2. Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; adalwyd 21 Hydref 2018.
  3. gutorglyn.net; Archifwyd 2021-11-27 yn y Peiriant Wayback. awdur Alaw Mai; adalwyd 22 Hydref 2018.