Meurig Fychan ap Hywel Selau

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Uchelwr Cymreig oedd 'Meurig Fychan ap Hywel Selau, (c.1400–60) a phriod Angharad ferch Dafydd (fl. c. 1450au), o blas Nannau, plwyf Llanfachreth Dolgellau, Gwynedd. Roedd ganddynt fab o'r enw Dafydd.[1] Enw'i dad oedd Hywel Selau, etifedd y Nannau a llofruddwyd gan Owain Glyndŵr pan oedd Meurig yn 2 mlwydd oed, a'i fam oedd Mali ferch Einion ap Gruffydd a Tangwystl ferch Rhydderch o Fodedern.

Roedd Meurig Fychan yn aelod o reithgor llys Caernarfon yn 1452/3 yn ôl dogfen yng nghasgliad llawysgrifau Nannau (gw. Parry 1958: 81–2) a cheir y cyfeiriad olaf ato yn 1460. Mae’n debygol iddo fyw am ychydig wedi hynny ac yn ôl un ffynhonnell bu farw yn 1482.

Goroesodd dau gywydd i Feurig a'i deulu a sgwennwyd gan Guto'r Glyn.[2]

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd teulu Nannau yn ddisgynyddion i Fleddyn ap Cynfyn, brenin Powys o 1063 i 1075.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; adalwyd 21 Hydref 2018.
  2. gutorglyn.net; dau gywydd: cerdd 49 (cywydd mawl) a cherdd 50 (marwnad); adalwyd 21 Hydref 2018.