Mesrop Mashtots

Oddi ar Wicipedia
Mesrop Mashtots
Enghraifft o'r canlynolbod dynol Edit this on Wikidata
CrefyddEglwys apostolaidd armenia edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mesrop mewn llawysgrif o 1776
Mesrop Mashtots yn creu'r wyddor fel rhan o ddarlin 'Apollo a'r Cyfandiroedd' (Asia, grŵp obelisk) gan Giovanni Battista Tiepolo, 1752-53
Mynachlog Amaras yn Nagorno-Karabakh lle yn y 5g sefydlodd Mesrob Mashtots, yr ysgol Armeneg gyntaf erioed a ddefnyddiodd ei wyddor. Sefydlwyd y fynachlog yn y 4g gan Sant Gregori y Goleuydd, a fedyddiodd Teyrnas Armenia y genedl Cristnogol cyntaf y byd yn 301 OC
Yr wyddor Armenaidd

Mesrop Mashtots (Ynghylch y sain ymalisten ; Armeneg: Մեսրոպ Մաշտոց Mesrop Maštoc'; Armeneg Dwyreiniol: mɛsˈɾop maʃˈtotsʰ; Armeneg Gorllewinnol: mɛsˈɾob maʃˈtotsʰ; 362 – 17 Chwefror 440 OC) yn ieithydd, cyfansoddwr, diwinydd, gwladweinydd ac emynydd yn yr Ymerodraeth Sassanaidd o'r Oesoedd Canol Cynnar. Mae'n cael ei barchu fel sant yn yr Eglwys Apostolaidd Armenia, yr Eglwys Gatholig Armenia, yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol ac eglwysi Catholig.[1] Mae'n fwyaf adnabyddus am ddyfeisio'r wyddor Armeniaidd c. 405 OC, a oedd yn gam sylfaenol i gryfhau hunaniaeth genedlaethol Armenia.[2] Ystyrir ef hefyd fel crëwr yr wyddor Albaneg a wyddor Sioraidd Cawcasws gan nifer o ysgolheigion.[3][4][5][6][7][8]

Bywyd[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed mewn teulu bonheddig ("o dŷ azat" yn ôl Anania Shirakatsi) yn anheddiad Hatsekats yn Taron[9] (a nodwyd fel pentref Hatsik yng ngwastadedd Mush),[10] a bu farw yn Vagharshapat. Roedd yn fab i ddyn o'r enw Vardan.[11] Dywed Koryun, ei ddisgybl a chofiannydd, wrthym fod Mashtots (nid yw'n sôn am yr enw Mesrop yn ei waith) wedi derbyn addysg dda a'i fod yn hyddysg yn yr ieithoedd Groeg a Pherseg.[9] Oherwydd ei dduwioldeb a'i ddysg, penodwyd Mesrop yn ysgrifennydd i'r Brenin Khosrov IV, i fod â gofal am ysgrifennu archddyfarniadau a golygiadau brenhinol mewn Perseg a Groeg.

Collodd Armenia ei hannibyniaeth yn 387 ac fe'i rhannwyd rhwng yr Ymerodraeth Fysantaidd a Phersia, a gafodd tua phedair rhan o bump o'i thiriogaeth. Roedd Gorllewin Armenia yn cael ei lywodraethu gan gadfridogion Bysantaidd, tra bod brenin Armenia yn rheoli fel fasal Persia dros ddwyrain Armenia. Prif ddigwyddiadau'r cyfnod hwn yw dyfeisio'r wyddor Armenia, adolygu'r litwrgi, creu llenyddiaeth eglwysig a chenedlaethol, ac adolygu cysylltiadau hierarchaidd. Mae tri dyn yn amlwg yn gysylltiedig â'r gwaith hwn: Mesrop, Catholicos Isaac (Sahak Part'ev ), a'r Brenin Vramshapuh , a olynodd ei frawd Khosrov IV yn 389.

Wedi hyfforddiant Helenistaidd (Groegaidd) yn Antiochia a chyfnod fel milwr yng ngwasanaeth y brenin Armenaidd yn Vagharshapat, daeth Mesrop yn fynach ac ordeiniwyd ef yn offeiriad yn 392. Gan nad oedd Beibl ar gael yn Armeneg ac nad oedd yr iaith Armeneg wedi bod yn iaith ysgrifenedig hyd hynny, dechreuodd Mesrop, gyda chymorth ysgolheigion eglwysig eraill, ddatblygu wyddor 36 llythyren ar gyfer yr iaith Armeneg, a oedd yn rhannol seiliedig ar yr wyddor Roeg. Yn ddiweddarach cyfieithodd rannau o’r Beibl o destunau Syrieg i’w wyddor Armenia ynghyd â’r Catholicos Sahak (387–439) ac eraill.

Yn 394, gyda bendith y Catholicos Sahak Partev, cychwynnodd Mesrop ar genhadaeth i ddenu pobl i'r ffydd Gristnogol. Gyda chefnogaeth y Tywysog Shampith, pregethodd yr Efengyl yn ardal Goghtn ger yr afon Araxes, gan achosi i nifer gael tröedigaeth.

Nid oedd gan Armeniaid yr un wyddor eu hunain, ac yn hytrach defnyddient ysgrifau Groeg, Persaidd, a Syrieg, nad oedd yr un ohonynt yn addas iawn ar gyfer cynrychioli seiniau cymhleth niferus eu hiaith frodorol. Roedd yr Ysgrythurau Sanctaidd a'r litwrgi, i raddau helaeth, yn annealladwy i'r ffyddloniaid ac yn gofyn am ymyrraeth cyfieithwyr a dehonglwyr.

Cynorthwywyd Mesrop i ddyfeisio wyddor genedlaethol gan Catholicos Sahak a Brenin Vramshapuh. Ymgynghorodd â Daniel, esgob Mesopotamia, a Rufinus, mynach o Samosata, ar y mater, a lluniodd wyddor o 36 llythyren; ychwanegwyd dwy arall (O hir (Օ, օ) ac F (Ֆ, ֆ)) yn y 12g.

Y frawddeg gyntaf yn Armeneg a ysgrifennwyd gan St. Mesrop ar ôl iddo ddyfeisio'r llythyrau oedd llinell agoriadol Llyfr Diarhebion Solomon:

Ճանաչել զիմաստութիւն եւ զխրատ, իմանալ զբանս հանճարոյ:
Čanačʿel zimastutʿiwn ew zxrat, imanal zbans hančaroy.
«I wybod doethineb a chyfarwyddyd; i ganfod geiriau deall.»

Llyfr y Diarhebion, 1:2.

Cwblhawyd y Beibl Armeneg cyntaf yn 435, a chyfieithiadau ychwanegol o'r Groeg yn dilyn.[12] Chwaraeodd ran allweddol hefyd yn y gwaith cenhadol yn Armenia.

Ysgrifennodd ei fyfyriwr, Koriun, gofiant hagiograffyddol o Mesrop.

Yr Wyddor[golygu | golygu cod]

Yr oedd yr wyddor Armenaidd yn wreiddiol yn cynnwys 36 llythyren, 7 ohonynt yn llafariaid, a 29 yn gytseiniaid. Ym mhresenoldeb dwsinau o dafodieithoedd, penderfynodd Mashtots normau ffonetig ar gyfer iaith lenyddol gyffredin, dewisodd un o'r mathau o ysgrifennu, yn enwedig o'r chwith i'r dde (fel mewn Groeg), ac nid o'r dde i'r chwith (fel yn Assyrieg). Penderfynodd ar normau orgraff yr iaith lenyddol Armenia hynafol.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Mae beddrod Mesrop yn cael ei barchu yn yr eglwys a enwyd ar ei ôl ym mhentref Oshakan (tua 15 cilomedr i'r gogledd-orllewin o Yerevan). Mae 36 khachcars modern ar dir yr eglwys, pob un wedi'i gynllunio ar ôl llythyren o'r wyddor.

Yng nghanol tref Yerevan mae ei gofeb ar Matenadaran. Cyhoeddwyd stampiau post er anrhydedd Mesrop yn yr Undeb Sofietaidd ac Armenia annibynnol. Gorchymyn a sefydlwyd yn Armenia ar 26 Gorffennaf, 1993 yw Urdd Sant Mesrop Maschtoz.

Cofiadu[golygu | golygu cod]

Ceir ffyrdd neu rhodfeydd wedi einw ar ôl Mashtots ym mron pob un tref o sylwedd yn Armenia.

Rhyddhawyd ffilm "Mesrop Mashtots" yn 1988 gan Armenfilm gan y cyfarwyddwr Levon Mkrtchyan.

Yn 1993 crewyd 'Urdd Sant Mesrop Mashtots' gan Weriniaeth annibynnol newydd Armenia.

'Mesrop Mashtots' oedd enw'r awyren Airbus A320 gan gwmni hedfan Armavia, a fu mewn damwain yn 2006.

Oriel[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. St. Mesrop MashtotsArmenian theologian and linguistEncyclopedia Britannica
  2. Hacikyan, Agop Jack; Basmajian, Gabriel; Franchuk, Edward S.; Ouzounian, Nourhan (2000). The Heritage of Armenian Literature: From the Oral Tradition to the Golden Age. Detroit: Wayne State University Press. t. 91. ISBN 9780814328156.
  3. Glen Warren Bowersock; Peter Robert Lamont Brown; Oleg Grabar, gol. (1999). Late Antiquity: A Guide to the Postclassical World. Harvard University Press. ISBN 0-674-51173-5.
  4. Rayfield, Donald (2000). The Literature of Georgia: A History (arg. 2nd rev.). Surrey: Curzon Press. t. 19. ISBN 0700711635.
  5. Grenoble, Lenore A. (2003). Language policy in the Soviet Union. Dordrecht [u.a.]: Kluwer Acad. Publ. t. 116. ISBN 1402012985.
  6. Bowersock, G.W.; Brown, Peter; Grabar, Oleg, gol. (1999). Late antiquity: a guide to the postclassical world (arg. 2nd). Cambridge, Mass.: Belknap Press of Harvard Univ. Press. t. 289. ISBN 0-674-51173-5.
  7. Jost, Gippert (2011). "The script of the Caucasian Albanians in the light of the Sinai palimpsests". Die Entstehung der kaukasischen Alphabete als kulturhistorisches Phänomen: Referate des internationalen Symposions (Wien, 1.-4. Dezember 2005) = The creation of the Caucasian alphabets as phenomenon of cultural history. Vienna: Austrian Academy of Sciences Press. tt. 39–50. ISBN 9783700170884.
  8. Der Nersessian, Sirarpie (1969). The Armenians. London: Thames & Hudson. t. 85. After the Armenian alphabet Mesrop also devised one for the Georgians and another for the Caucasian Albanians.
  9. 9.0 9.1 Koryun The Life of Mashtots, translation into Russian and intro by Sh.V.Smbaatyan and K.A.Melik-Oganjanyan, Moscow, 1962.
  10. J. M. Thierry, "Notes de géographie historique sur le Vaspurakan", REByz 1976 vol34.
  11. Ghazar Parpetsi, History of Armenia, 5th to 6th century
  12. Mesrob K. Krikorian: Die Armenische Kirche. Materialien zur armenischen Geschichte, Theologie und Kultur. Peter Lang, Frankfurt 2002, S. 28f

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Armenia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: