Menyn
Enghraifft o'r canlynol | cynhwysyn bwyd |
---|---|
Math | cynnyrch llaeth, Dairy products and dairy components - butter, ghee, butter paste, milk fat. Dry butter, Butter (including dry and with flavor components - OKPD2, code 10.51.30.100), braster taenadwy |
Deunydd | hufen, llaeth |
Dechrau/Sefydlu | Mileniwm 8. CC |
Yn cynnwys | braster |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Emylsiwn solet meddal bwytadwy melynaidd neu wynaidd o fraster llaeth, dŵr ac aer yw menyn. Gwneir menyn trwy gorddi o hufen y llaeth cyflawn. Mae'r braster llaeth yn cynnwys globylau braster (80 %), swigod aer, defnynnau dŵr a phrotein llaeth. Defnyddir menyn yn yr un modd ag olew, lard a margarîn i baratoi bwyd, er enghraifft i goginio neu i'w daenu ar fara. Ychwanegir halen, hefyd yn aml.
Mae menyn yn meddalu mewn tymheredd ystafell, ac yn ymdoddi'n hawdd. Mae lliw menyn yn dibynnu ar fwyd y fuwch a gall fod yn felyn neu'n wyn. Fel arfer, mae menyn yn felyn yn ystod yr haf pan mae'r buchod yn bwyta llawer o laswellt ffres ac yn wyn yn ystod y gaeaf pan maen nhw'n bwyta gwair yn bennaf.
Arferion ers talwm
[golygu | golygu cod]Rhan o ysgrif i’w gweld yn Bwletin Llên Natur:
“Wedi cael potiaid o hufen, byddai rhaid iddo fod mewn lle eitha cynnes yn y gaeaf, ac yn aml iawn dygid ef i'r pentan iddo dewychu a suro yn barod at ddiwrnod y corddi. Byddai dwy fath ar fuddeiau yn gyffredin, yr hen fuddai gnoc, a'r fuddai ffasiwn newydd, yr end over end. ' Roedd hon wedi ei gosod ar ffrâm ar osgo arbennig wrth ei throi drosodd i gorddi. Gwres arferol y llaeth i'w gorddi fyddai oddeutu 65 gradd fahrenheit. Byddai gwres fesuredd [sic.] arbennig i'w gael at y gwaith hwn. I droi y fuddai â llaw fyddai hi ran amlaf, er byddai gan rai ffermydd bwer olwyn ddwr, neu bwer ceffyl. Tynnu y byddai'r ceffyl wrth bolyn cryf mewn cylch cyfyngedig ar ddyfais gyda werthyd [sic.] hir i'r llaethdy i droi'r fuddai. Rhyw hanner awr fel rheol fyddai potiaid cyffredin yn cymryd i gorddi. Gallech weld ar wydr bach oedd ar gaead y fuddai, os byddai yn lan yna byddai yn barod - y mân ronynnau o fenyn wedi ymgydio ynghyd gan adael y llaeth enwyn ar ôl. Yn awr, byddai gwraig y tŷ yn barod i'r gorchwyl o drin cynnwys y fuddai. Codid y menyn yn ofalus i'r noe a chadw'r llaeth enwyn mewn pot at y pwrpas. Gwaith llaw fyddai trin y menyn, ei droi yn y noe gan ei wasgu ar ei ochr er ceisio cael y cyfan o'r llaeth ohono. Defnyddid yr un term a'r gwair, sef 'cweirio menyn'. Ychwanegu halen a'i weithio yn ofalus i'r menyn fel y ceid unffurfiaeth blas ar y cyfan. Yna pwysid y menyn bob yn bwys ar glorian a byddai angen dipyn o arferiad i'w weithio yn bwys crwn deniadol. I'r gwaith hwn defnyddid math ar soser bren a elwid yn gyffredin yn 'scimar' gan ei gylchdroi gyda'r llaw nes byddai yn llyfn grwn a phigfain. Byddai'r print yn cwblhau'r gwaith, amrywiol luniau wedi eu cerfio yn y pren, llun alarch, dwy fesen, neu hyd yn oed llun buwch. Yna, yn ofalus iawn, pwyo ar y pen main i lawr i bellter neilltuol gan geisio cadw pob pwys yn unffurf gan adael delw'r print yn amlwg iawn ar y cyfan cyn ei gosod ochr yn ochr ar y llechen fenyn i galedu cyn i'r 'gwr hel menyn' alw i'w gasglu. Pan fyddai'r gwartheg ar adlodd ym mis Medi, byddai'n ofynnol darparu erbyn y gaeaf pan fyddai'r llaeth yn brin. Pot llaeth a thrwch o halen ar ei wyneb i'w selio rhag amhuredd a hwn fyddai menyn y teulu am y gaeaf. Menyn pot, a blasus iawn fyddai cael menyn ffres os deuai pobl ddiarth i de.”[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Godro a Menyn", Bwletin Llên Natur 65 (Gorffennaf 2013)