Menna Richards

Oddi ar Wicipedia
Menna Richards
GanwydChwefror 1953 Edit this on Wikidata
Maesteg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata

Menna Richards OBE (ganwyd Chwefror 1953) oedd Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales rhwng Chwefror 2000 a Chwefror 2011. Cyn hynny, bu'n Rheolwr-Gyfarwyddwr HTV Cymru, cwmni yn Grŵp United News and Media sydd bellach yn rhan o ITV plc.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Magwyd Menna ym Maesteg[1] a fe'i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Maesteg a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth. Ar ôl graddio, ymunodd â BBC Cymru fel newyddiadurwr yn y Gymraeg a'r Saesneg ar newyddion radio a theledu hyd 1983.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Yna, ymunodd â HTV Cymru fel gohebydd a chynhyrchydd gyda'r adran Materion Cyfoes. Bu'n gohebu am wleidyddiaeth yng Nghymru a San Steffan, yn Unol Daleithiau America, y cyn-Undeb Sofietaidd ac yn Ewrop.

Ar ôl cyfnod fel Rheolwr Rhaglenni Ffeithiol a Chyffredinol, fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Rhaglenni HTV Cymru ym 1993. Roedd yn gyfarwyddwr yn Grŵp HTV Cyf cyn i United News and Media gymryd yr awenau.

Fel Cyfarwyddwr BBC Cymru hi oedd yn bennaf gyfrifol am holl wasanaethau BBC Cymru yn Saesneg ac yn Gymraeg ar radio, teledu ac arlein, ac am tua 1,200 o staff.

Mae hefyd yn gysylltiedig â nifer o sefydliadau a chyrff cyhoeddus eraill. O ran addysg, mae'n aelod o Gyngor Prifysgol Cymru, Caerdydd. Ym myd y celfyddydau, mae'n Gadeirydd Coleg Celf a Drama Cymru ac is-lywydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ac yn aelod o fwrdd Gŵyl Ffilm Ryngwladol Cymru. Bu hefyd yn aelod o fwrdd Theatr y Sherman. Mae'n gymrawd anrhydeddus Prifysgol Cymru, Aberystwyth ac yn gymrawd o'r Gymdeithas Deledu Frenhinol.

Ers Tachwedd 2010, mae'n uwch gyfarwyddwraig ar fwrdd Glas Cymru, perchennog Dŵr Cymru.[2]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Priododd y newyddiadurwr Patrick Hannan yn 1985.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Menna Richards yn derbyn yr OBE , BBC Cymru, 7 Mai 2010. Cyrchwyd ar 30 Rhagfyr 2017.
  2.  Y Cyfarwyddwyr. Adalwyd ar 20 Tachwedd 2017.
  3. Obituary: Patrick Hannan , The Telegraph, 12 Hydref 2009. Cyrchwyd ar 30 Rhagfyr 2017.