Mefus pin

Oddi ar Wicipedia
Mefus pin
Enghraifft o'r canlynoltacson Edit this on Wikidata
Mathstrawberry Edit this on Wikidata
Safle tacsonrhywogaeth Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonstrawberries Edit this on Wikidata
Enw brodorolPineberry Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae mefus pîn yn gyltifar mefus gwyn gyda hadau coch a blas tebyg i bîn-afal . [1]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae mefus pîn yn groes hybrid o Fragaria chiloensis a Fragaria virginiana. Mae'r ffrwyth yn llai o faint na mefus cyffredin, yn mesur rhwng 15 and 23 millimetre (0.59 and 0.91 in) . Pan yn aeddfed, mae'r ffrwyth bron yn gyfan gwbl wyn, heblaw am yr achenau coch (yr hadau). Mae'r planhigyn yn gallu gwrthsefyll afiechydon, ac ar gyfartaledd yn uchel ei bris, er nad yw'n broffidiol oherwydd caiff mond ei ffermio ar raddfa fach, maint bach yr aeron a chynnyrch isel. [1][2] Caiff mefus pîn ei gynaeafu yn y gwanwyn a'r haf. Wedi'i nodi gyntaf yn Ne America tua 2002, caiff bellach ei dyfu yng Ngwlad Belg a'u hallforio o'r Iseldiroedd.[1][2]

Marchnata[golygu | golygu cod]

Cafodd yr aeron ei alw'n "fefus pîn" ar gyfer marchnad y DU lle daeth ar gael yn 2010 i adlewyrchu ei flas tebyg i bîn-afal, tra'n dal i fod yn fefus.[3] Gwerthwyd yn fasnachol am y tro cyntaf yn yr Unol Daleithiau yn 2012,[4] a chawsant eu marchnata i fwytai, poptai/becws a marchnadoedd cyfanwerthu yn Ewrop a Dubai.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • Fragaria niggerrensis, rhywogaeth wyllt heb unrhyw werth masnachol sydd â ffrwythau gwyn

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Fabricant, F. (15 Mai 2012). "Curious Berries to Tide You Over". New York Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Mehefin 2016.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Pineberry breeder introduces white strawberries with pineapple punch". Fresh Fruit Portal. 31 Mawrth 2016. Cyrchwyd 26 Mehefin 2016.
  3. "Pineberries At Waitrose: Spring Fruit Looks Like Strawberry But Tastes Like Pineapple". Business. Sky News. Cyrchwyd 2011-02-10.
  4. "Pineberry & Pineberries". 2010-09-13. Cyrchwyd 2014-07-21.