Mary Harris Jones

Oddi ar Wicipedia
Mary Harris Jones
Ganwyd1 Mai 1830 Edit this on Wikidata
Corc Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd1 Awst 1837 Edit this on Wikidata
Bu farw30 Tachwedd 1930 Edit this on Wikidata
Silver Spring Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Galwedigaethathro, undebwr llafur, amddiffynnwr hawliau dynol, ysgrifennwr, trefnydd undeb, trefnydd cymuned Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolSocial Democratic Party of America, Plaid Sosialaidd America Edit this on Wikidata
Gwobr/au'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Hall o Honor y Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Roedd Mary Harris "Mother" Jones (Gorffennaf 1837[1]30 Tachwedd 1930) yn Wyddeles ac yn athrawes Americanaidd yn ogystal â bod yn wniadwraig o fri. Daeth yn enwog fel arweinydd sosialaidd ac undebwraig a drefnodd nifer o streiciau gan herio a chwyldroi Industrial Workers of the World.

Gweithiodd fel athrawes ac fel gwniadwraig ond wedi i'w gŵr a'i phedwar plentyn farw o'r cryd melyn a llosgi'i gweithdy yn 1871 dechreuodd weithio fel trefnydd "Marchogion Llafur" ac Undeb o'r enw "the United Mine Workers Union".

Yn 1867, pan oedd yn 60 oed, cafodd ei galw'n "Mother Jones" gan ei bod yn galw'r dynion y gweithiai drostynt yn "my boys". Oherwydd ei llwyddiant yn trefu ymgyrchoedd yn erbyn perchnogion chwareli a gweithiau mwynglawdd fe'i disgrifiwyd fel "y ddynes beryclaf yn America" gan y dywedodd y cyfreithiwr Reese Blizzard, yn 1902! Roedd yn wyllt gacwn gydag awdurdodau Pennsylvania oherwydd eu diffyg cyfreithiau i warchod plant yn y gweithle, ac o'r herwydd trefnodd i fartsio o Philadelphia i gartref yr arlywydd Theodore Roosevelt yn Efrog Newydd. Roedd llawer o blant ar yr orymdaith, gyda rhai'n cario baneri'n cyhoeddi "We want to go to School and not the mines!". Er na chytunodd yr arlywydd i'w chyfarfod, roedd ei hymgyrch wedi rhoi'r anghyfiawnder ar agenda'r cyhoedd.

Ym 1970 galwyd cylchgrawn poblogaidd ar ei hôl, sef Mother Jones.

Cafwyd datganiad gan Senedd yr Unol Daleithiau a alwodd Jones yn "grandmother of all agitators."

Credoau[golygu | golygu cod]

Credodd yn gryf y dylai "dynion gael digon o arian fel y gall eu gwragedd aros adref i edrych ar ôl eu plant." [2] Yn wahanol i lawer iawn o ymgyrchwyr benywaidd ei hoes, dadleuai'n gryf yn erbyn erthyliad. Cyhoeddodd ei chredoau mewn cyfrol o'r enw The Autobiography of Mother Jones (1925).

Diwedd ei hoes[golygu | golygu cod]

Bu o flaen sawl llys barn gan wynebu cyhuddiadau o athrod ac enllib; ym 1925 enillodd y cyhoeddwr Charles A. Albert (a gyhoeddai'r Chicago Times) $350,000 yn ei herbyn.

Treuliodd ddiwedd ei hoes gyda ffrindiau yn Adelphi, Maryland, lle parhaodd i weithio tan y diwedd un yn erbyn anghyfiawnderau yn erbyn y gweithwyr a'u plant.

Bu farw yn Adelphi yn 93 oed ar 30 Tachwedd 1930.[3][4]

Perlau[golygu | golygu cod]

  • Roedd rhai o ddywediadau Jones yn parhau ar wefusau undebwyr ganrif a mwy yn ddiweddarach: "Pray for the dead and fight like hell for the living."[5] Cofir hefyd am y disgrifiadau ohoni: "the miners' angel" a "grandmother of all agitators," ar lawr y Senedd, a'i hateb chwim:I hope to live long enough to be the great-grandmother of all agitators.[6]
  • Yng nghanol streic chwerw 1989–90 (The Pittston Coal strike) yn Virginia, Gorllewin Virginia a Kentucky, fe ddisgrifiodd gwragedd y chwarelwyr a oedd ar streic eu hunain yn "Daughters of Mother Jones". Roedd gwaith y gwragedd hyn yn hanfodol yn yr ymgyrch.[7]
  • Sefydlwyd Mary Harris "Mother" Jones Elementary School yn Adelphi, Maryland.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Mother Jones (1837–1930)". AFL-CIO. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2012.
  2. Dreher, Rod (5 Mehefin 2006) All-American Anarchists Archifwyd 2011-04-29 yn y Peiriant Wayback., The American Conservative
  3. Cafwyd Hysbysiad o'i marwolaeth yn The Washington Post, 2 Rhagfyr 1930, tud. 3.
  4. Associated Press (1 Rhagfyr 1930). "Mother Jones Dies. Led Mine Workers". New York Times. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2012. 100-Year-Old [sic] Crusader in Her Time Had Headed Many All Night Marches of Strikers. Often Went To President. Lost All Her Family in Memphis Epidemic of 1867. Miners Became Her "Children." Idolized by Workers. Celebrates 100th [sic] Birthday. Mary (Mother) Jones, militant crusader for the rights of the laboring man, died at 11:55 last night at her home in near-by Maryland. She was 100 [sic] years old....
  5. "Quotations from Mother Jones (#2)". Cyrchwyd 14 October 2011.
  6. Gwefan Women in History (Pinterest); adalwyd 27 Medi 2013
  7. ""The Pittston Coal Strike" at www.ic.arizona.edu". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-09. Cyrchwyd 2013-09-27.
  8. "Mary Harris "Mother" Jones Elementary School webpage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-19. Cyrchwyd 2013-09-27.