Marwnad yr Ehedydd

Oddi ar Wicipedia
Marwnad yr Ehedydd
Enghraifft o'r canlynolcân werin Edit this on Wikidata
CyhoeddwrCymdeithas Alawon Gwerin Cymru Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1914 Edit this on Wikidata

Mae "Marwnad yr Ehedydd" yn gân werin draddodiadol a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar ffurf un pennill sengl gan Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1914.[1] Priodolwyd y gân i Edward Vaughan, Plas-rhiw-Saeson, a gasglwyd gan Soley Thomas.

Bu dyfalu ei bod yn un o'r caneuon hynaf sy'n bodoli yn y Gymraeg, oherwydd gall yr ehedydd yn y gân fod yn gyfeiriad mewn cod at Owain Glyndŵr ac y gallai un o'i ddilynwyr fod wedi'i hysgrifennu. Mae'r pennill sengl wedi ei 'ffrwydro'[2] i ganeuon hirach o leiaf bedair gwaith. Y cyntaf oedd gan Enid Parry, [3][4] pan ychwanegwyd tri phennill arall, am adar eraill. Cyhoeddwyd ei geiriau hi hefyd mewn dau lyfr o ganeuon gwerin Cymraeg.[5] [6]

\relative c'' { \time 2/4 \key a \minor \tempo 4 = 60 \set Score.tempoHideNote = ##t
\partial 16*2 c16 d16          % 0
e8 c d b                       % 1
c a r8 c16 d16                 % 2
e8 c d b                       % 3
c a r16 a16 a b                % 4
c8 c b b                       % 5
a b c d                        % 6
e e d c                        % 7
b b\fermata r16 a16 a b        % 8
c8 a  b gis                    % 9
a a4 \bar "|."                 % 10
} \addlyrics {
Mi a gly -- wais fod yr 'he -- dydd we -- di ma -- rw ar y my -- nydd;
Pe gwy -- ddwn i mai gwir y gei -- riau,
Awn â gyrr o wyr ac ar -- fau
I gyr -- chu corff yr he -- dydd a -- drau.
}

Ysgrifennwyd ail fersiwn gan Albert Evans-Jones (enw barddol Cynan),[7] ychwanegu pedwar pennill eto am adar eraill.

1. Mi a glywais fod yr ’hedydd,
Wedi marw ar y mynydd;
Pe gwyddwn i mai gwir y geiria’,
Awn â gyr o wŷr ac arfa’,
I gyrchu corff yr ’hedydd adra’.

2. Mi a glywais fod yr hebog
Eto’n fynych uwch y fawnog,
A bod ei galon a’i adenydd
Wrth fynd heibio i gorff yr ’hedydd
Yn curo’n llwfr fel calon llofrudd.

3. Mi a glywais fod cornchwiglan
Yn ei ddychryn i ffwrdd o’r siglan
Ac na chaiff, er dianc rhagddi,
Wedi rhusio o dan y drysi,
Ond aderyn y bwn i’w boeni.

4. Mi a glywais gan y wennol
Fod y tylwyth teg yn ’morol
Am arch i’r ’hedydd bach o risial ,
Ac am amdo o'r pren afal,
Ond piti fâi dwyn pob petal.

5. Canys er mynd â byddin arfog
Ac ar codi braw ar yr hebog,
Ac er grisial ac er bloda’,
Er yr holl dylwyth teg a'u donia’,
Ni ddaw cân yr ’hedydd adra’.

Defnyddiwyd yr ail fersiwn yma gan Bryn Terfel ar CD[8], a gan Arfon Gwilym ar gyfer Trac Cymru (Datblygu Gwerin Cymru).[9]

Defnyddir alaw wedi ei haddasu ychydig, o'i chymharu â'r recordiad maes gwreiddiol, mewn rhai cyhoeddiadau a recordiadau.[10]

\relative c'' { \time 2/4 \key a \minor \tempo 4 = 60 \set Score.tempoHideNote = ##t
\partial 16*2 a16 b16          % 0
c8 a b g                       % 1
a a4 a16 b                     % 2
c8 a b g                       % 3
a a r16 a16 a16 b              % 4
c8 c b b                       % 5
a b c d                        % 6
e e d c                        % 7
c b r16 a a b                  % 8
c8 a b g                       % 9
a a4 \bar "|."                 % 10
}

Yn 1979, creodd Myrddin ap Dafydd drydedd fersiwn o'r geiriau, yn seiliedig ar y syniad ei fod am Glyndŵr, ar gyfer y grŵp gwerin Plethyn a'i rhyddhaodd ar gasét o'r enw 'Blas y Pridd', ac wedi hynny yn 1990 ar gryno ddisg.[11]

Yn ystod dathlu 600 mlwyddiant gwrthryfel Glyndŵr, ysgrifennodd Myrddin ap Dafydd bedwaredd fersiwn gan ychwanegu pum pennill i'r gwreiddiol, o'r enw 'Mawl yr Ehedydd'.[12]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cylchgrawn Alawon Gwerin Cymru (1914) 1:59.
  2. Yr Athro E Wyn James (2001) 'Ballad implosions and Welsh folk stanzas'. https://www.caerdydd.ac.uk/special-collections/subject-guides/welsh-ballads/ballad-implosions
  3. Enid Parry (1949) Wyth Gân Werin Caerdydd: Hughes a'i Fab
  4. Myrddin ap Dafydd (2004) Canu Gwerin 27:2-5.
  5. Caneuon Traddodiadol y Cymry, gol Arfon Gwilym, Menai Williams, Daniel Huws (2006) Penygroes: Cwmni Cyhoeddi Gwynn, t.61.
  6. 100 o Ganeuon Gwerin (2012) gol. Meinir Wyn Edwards, Talybont: Y Lolfa, t.67.
  7. A Evans-Jones (1967) Cerddi Cynan, trydydd argraffiad, Lerpwl: Gwasg y Brython, t. 53.
  8. Bryn Terfel (2008) Ffair Scarborough. https://www.youtube.com/watch?v=ocqn1xcsGhg]
  9. Arfon Gwilym (2018).
  10. 100 o Ganeuon Gwerin (2012), gol. Meinir Wyn Edwards, Talybont: Y Lolfa, t.67.
  11. Blas y Pridd/Golau Tan Gwmwl (1990) https://www.youtube.com/watch?v=V9i_Y4oGP-A
  12. Myrddin ap Dafydd (2004) Canu Gwerin 27:22-5.